Toglo gwelededd dewislen symudol

Eich Cynghorwyr

dilynwch ni ar Twitter

Mae Cynghorwyr Lleol yn cael eu hethol gan y gymuned yn ystod Etholiad Llywodraeth Leol i benderfynu sut dylai'r cyngor gyflawni ei weithgareddau amrywiol. Maent yn cynrychioli budd y cyhoedd yn ogystal ag unigolion sy'n byw yn y ward y maent wedi'u hethol i'w gwasanaethu. Mae ganddynt gyswllt rheolaidd â'r cyhoedd trwy gyfarfodydd y cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd.

Mae gan gynghorwyr yr hawl i wahanol fathau o gyflogau, lwfansau a threuliau yn ddibynnol ar y rolau a'r cyfrifoldebau sydd ganddynt. Mae mwy o wybodaeth yngl?n â chyflogau a lwfansau Cynghorwyr ar gael yn y Llawlyfr i Gynghorwyr a'r Atodlenni Cydnabyddiaeth Blynyddol. Mae manylion am lwfansau a threuliau Cynghorwyr wedi'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd ariannol blaenorol.

Gall cynghorwyr hawlio lwfans teithio ar gyfer dyletswyddau a gymeradwywyd os dymunant. Gall hyn gynnwys costau teithio (gan gynnwys defnyddio car preifat) a chynhaliaeth tra eu bod ar fusnes y cyngor. Ffurflenni cais yn cael eu cyflwyno'n fisol geir treuliau. Mewn unrhyw fis, gellir hawlio treuliau ar gyfer y tri mis blaenorol.

Mae hawl gan gynghorwyr hefyd i hawlio lwfans TGCh os dymunant.

Mae’n rhaid i gynghorwyr gofrestru unrhyw fuddion personol neu ariannol sydd ganddynt yn unol â'r 'Côd Ymddygiad'. Gellir gweld y rhain drwy ddewis tudalen cynghorydd unigol.

Mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol sicrhau bod cynghorwyr yn gallu llunio Adroddiad Blynyddol ar gyfer eu gweithgareddau gyda’r cyngor yn y flwyddyn flaenorol. Mater i gynghorwyr yw a ydynt yn achub ar y cyfle i lunio Adroddiadau Blynyddol. Bydd y rhain ar gael yn y llyfrgell.

I ddod o hyd i'ch cynghorydd, defnyddiwch y dolenni isod: