Plaid: Llafur
Ward Etholiadol: Dyfnant a Chilâ
Cynghorwyr eraill yn cynrychioli'r Ward Etholiadol:
Nid yw Swansea Council yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol
Bob dydd Sadwrn cyntaf y mis (ac eithrio mis Awst) 10am - 11am
Llyfrgell Cilâ - Medi 2023, Tachwedd 2023, Ionawr 2024, Mawrth 2024, Mai 2024, Gorffennaf 2024 & Hydref 2024
Canolfan Gymdeithasol Dynfant - Hydref 2023, Rhagfyr 2023, Chwefror 2024, Ebrill 2024, Mehefin 2024, Medi 2024 & Tachwedd 2024
Cyfeiriad ar gyfer Gohebu:
d/o Gwasanaethau Democrataidd
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
Ffôn Symudol: 07413 081102
E-bost: cyng.louise.gibbard@abertawe.gov.uk
Lawrlwythwch manylion cyswllt Louise Gibbard fel Vcard
Roedd yn fraint wirioneddol cael fy ailethol yn 2022, y tro yma ar gyfer
ward Dynfant a Chilâ sydd newydd eu huno.Byddaf yn ymdrechu i wasanaethu pob
rhan o'r ward hyd eithaf fy ngallu ac edrychaf ymlaen at gwrdd â'r preswylwyr.
Heblaw am fy rôl bresennol fel Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal,
rwy'n gweithio'n galed i ymwneud â gweithgareddau yn y gymuned leol. Rwy'n
llywodraethwr yn ysgolion cynradd Dyfnant a Phen y Fro, rwy'n ysgrifenyddes
Cyfeillion Parc Dyfnant, yn aelod o bwyllgor Prosiect Nant Cillan ac rwy'n
mynychu cyfarfodydd misol Cyngor Cymuned Cilâ. Rwy'n trefnu gweithgareddau
cymunedol rheolaidd yng nghanolfan Gymdeithasol Dyfnant a phencadlys Sgowtiaid
a Geidiaid Cilâ, gan gynnwys clwb brecwast yn ystod y gwyliau, sinema gymunedol
a'r clwb plant misol. Rwy'n un o sefydlwyr, ac yn Gadeirydd STOPP (Swansea
Takes On Period Poverty) sy'n darparu cynnyrch mislif am ddim i unigolion a
grwpiau ar draws Abertawe ac sy'n gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth o broblem
tlodi'r mislif a mynd i'r afael â'r stigma ynghylch y mislif.
Galwch heibio fy nghymhorthfa fisol sy'n cael ei chynnal naill yn Llyfrgell
Cilâ neu Ganolfan Gymdeithasol Dyfnant, neu cysylltwch â mi dros y ffôn neu
drwy e-bost os hoffech gael fy help gydag unrhyw beth.
Adroddiad
y Cynghorydd Newydd ei Ethol, mis Hydref 2017
Addewid
y Cynghorydd ar Safonau
Datganiad
Derbyn gan Gynghorydd o Ddull Datrys Anghydfodau Lleol yr Awdurdod
Mae Proffiliau Wardiau
ar gael i'w lawrlwytho sy’n dwyn ynghyd ystod o wybodaeth ystadegol allweddol a
gwybodaeth arall am bob un o'r 32 o Adrannau neu Wardiau Etholiadol yn
Abertawe.