Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

133.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gall fod gan gynghorwyr a swyddogion mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr P Downing, R D Lewis, W G Lewis, M Sykes a T M White fuddiannau personol a rhagfarnol yng nghofnod 140, "Mabwysiadu’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor", a gadawsant y cyfarfod cyn ei ystyried;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd D Phillips fudd personol yng Nghofnod 141, "'Gweithio tuag at ffyniant i bawb yn Abertawe', Strategaeth Trechu Tlodi Abertawe ar gyfer 2017-2020";

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr M C Child ac R Francis-Davies fudd personol yng Nghofnod 147, "Cwestiynau'r Cynghorwyr".

134.

Cofnodion. pdf eicon PDF 162 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)      Cyfarfod Cyffredinol y cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2017 yn amodol ar ychwanegu'r Cynghorydd P M Matthews at y rhestr o ymddiheuriadau am absenoldeb.

135.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor.

Cofnodion:

Datganodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes y byddai'r ymatebion ysgrifenedig i'r cwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol diwethaf y cyngor yn cael eu cynnwys yng ngwŷs nesaf y cyngor.

136.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Cofnodion:

1)              Cydymdeimladau

 

a)              Cyn-gynghorydd, Nancy Thomas

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar y cyn-gynghorydd Nancy Thomas. Roedd y cyn-gynghorydd yn gwasanaethu cymuned Glyn-nedd ar hen Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg.

 

b)      David Morgan, cyn-gadeirydd Abertawe yn ei Blodau

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar David Morgan. Mr Morgan oedd cyn-gadeirydd Abertawe yn ei Blodau a chyn-bennaeth Ysgol Gynradd Dynfant.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

2)              Y Lluoedd Arfog yng Nghymru - Gwobr Arian yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod yr awdurdod wedi derbyn y Wobr Arian yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr yng ngwobrau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn ddiweddar.

 

Roedd y Cynghorydd June Burtonshaw, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, yn bresennol i dderbyn y wobr.

 

3)              Gwobr Help Llaw Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru

 

Cyhoeddodd yr Aelod Llywyddol fod yr awdurdod wedi ennill gwobr Menter Iechyd a Lles Orau Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru am waith gwirfoddolwyr Help Llaw.

 

Gwasanaeth gwirfoddol unigryw yw Help Llaw, sydd â’r nod o ddarparu gweithwyr gyda chefnogaeth wyneb yn wyneb a dros y ffôn, eu cyfeirio i wasanaethau eraill a rhoi mynediad i amrywiaeth o weithdai a grwpiau er mwyn gwella cynhwysiad cymdeithasol, iechyd meddwl a chorfforol.

 

Mae'r gwasanaeth wedi parhau i fynd o nerth i nerth, gyda'r gwirfoddolwyr eu hunain yn meddwl am syniadau newydd a ffyrdd blaengar o wella lles a diwylliant y sefydliad.  Mae Help Llaw wedi dod yn rhan werthfawr ac annatod o'r Tîm Rheoli Straen a'r strwythur Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol, ac mae'n enghraifft o arfer da unigryw, sydd wedi ennyn diddordeb a chlod gan y sector preifat a chyhoeddus.

 

Nododd fod ganddo'r pleser mawr o gyhoeddi'r wobr bwysig hon, sy'n adlewyrchu gwaith diflino Help Llaw, i Craig Gimblett, Stefan Eckardt, Caroline Ford, Lorraine Hodson, Ray Mitchell, Tina Williamson, Rob Richards a Jo Coates-Williams fel cynrychiolwyr y gwirfoddolwyr ar ran y cyngor.

 

4)       Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2017

 

Dinasyddion Abertawe a dderbyniodd wobrau yn Anrhydeddau'r Flwyddyn      Newydd.

 

a)       Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE)

 

i)                Yr Athro Hilary Margaret Lappin-Scott. Am wasanaethau i Ficrobioleg a Hyrwyddo Menywod mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg. (Abertawe);

 

ii)               Jonathan Howell Morgan. Am ei wasanaethau i Chwaraeon Anabledd yng Nghymru. (Llandeilo Ferwallt, Abertawe);

 

iii)             Dr Cerys Rees. Cymrawd, Dadansoddiad Cemegol a Biolegol, Labordy Technoleg a Gwyddoniaeth Amddiffyn. Am wasanaethau i Amddiffyn. (Caersallog, Wiltshire)

 

Aelod Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE)

 

i)                Susan Yvonne Hollister. Pennaeth, Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe. Am wasanaethau i Addysg yn Abertawe. (Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot);

 

ii)               Cwnstabl yr Heddlu Richard Hugh Morgan. Heddlu De Cymru. Am wasanaethau elusennol i hen filwyr y Lluoedd Arfog.

 

c)       Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM)

 

i)                Jeanette Lavon Smith. Swyddog Ieuenctid y Sir, Ambiwlans Sant Ioan Gorllewin Morgannwg. Am wasanaeth gwirfoddol i Gymorth Cyntaf ac i bobl ifanc. (Abertawe, Gorllewin Morgannwg);

 

ii)               Dr Margaret Ruth Vincent. Am wasanaethau elusennol yn y DU a thramor a'r gymuned yn Abertawe.  (Abertawe);

 

iii)             Alyson Elizabeth Williams. Am wasanaethau i bobl ifanc a'r gymuned yn Abertawe. (Cwmbwrla, Abertawe).

 

d)       Medal  Heddlu'r Frenhines (QPM)

 

i)                Matthew Jonathan Jukes. Dirprwy Brif Gwnstabl, Heddlu De Cymru.

 

 

5)              Dydd Santes Dwynwen

 

Nododd yr Aelod Llywyddol ei fod yn Ddydd Santes Dwynwen, nawddsantes cyfeillgarwch a chariad Cymru a'r Celtiaid.

 

Mae poblogrwydd a dathliad Dydd Santes Dwynwen wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda digwyddiadau arbennig megis cyngherddau a phartïon yn aml yn cael eu cynnal, a chardiau Cymraeg yn cael eu hargraffu. Er nad yw mor boblogaidd â Dydd Sant Ffolant ym mis Chwefror, mae Dydd Santes Dwynwen yn sicr yn dod yn fwyfwy hysbys ymhlith y boblogaeth heddiw yng Nghymru.

 

6)              Abertawe yn erbyn Lerpwl

 

Datganodd yr Aelod Llywyddol fod menyw wedi dioddef o ataliad posib ar y galon tuag at ddiwedd buddugoliaeth Abertawe yn erbyn Lerpwl ar 22 Ionawr 2018, ond yn ffodus roedd Uwch-sarsiant Catrodol Dosbarth 1 y Gwarchodlu Cymreig, Dean Morgan o Ravenhill, wedi dod i'w helpu a'i hadfywio. Llongyfarchiadau i Dean Morgan am feddwl yn gyflym a gweithredu.

 

7)              Pen-blwydd hapus i'r Cynghorydd Richard D Lewis

 

Dymunodd yr Aelod Llywyddol ben-blwydd hapus i'r Cynghorydd Richard D Lewis.

137.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Newid dyddiadau'r Cabinet a'r cyngor

 

Datganodd Arweinydd y Cyngor fod cyfarfod y Cabinet sydd wedi'i glustnodi er mwyn ystyried y gyllideb wedi'i drefnu ar gyfer 8 Chwefror 2018; fodd bynnag, byddai nawr yn cael ei gynnal ar 15 Chwefror 2018. Bydd cyfarfod y Cabinet ar 8 Chwefror 2018 yn mynd rhagddo a bydd yn ystyried adroddiad "Monitro cyllideb refeniw a chyfalaf 3ydd chwarter 2017-2018" ymysg adroddiadau cyffredin eraill y Cabinet.

 

Cynhelir prif gyfarfod cyllidebol y Cabinet am 14:00pm ddydd Iau, 15 Chwefror 2018.

 

O ganlyniad i'r newid hwn, mae'r Aelod Llywyddol, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol, wedi cytuno i ganslo cyfarfod y cyngor ar 22 Chwefror 2018 ac wedi'i aildrefnu ar gyfer 17:00pm ddydd Iau, 1 Mawrth 2018.

 

2)              Yr wybodaeth ddiweddaraf am Forlyn Llanw Bae Abertawe

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cwrdd ar 26 Ionawr 2018 er mwyn trafod Morlyn Llanw Bae Abertawe.

 

3)              Ymweliad â Wuhan, Tsieina, gan y Cynghorydd Robert Francis-Davies

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies yn teithio i Wuhan, Tsieina, yr wythnos nesaf er mwyn llofnodi cytundeb economaidd rhwng y ddwy ddinas.

 

4)              Greg Jones - Swyddog Cyfathrebu

 

Dymunodd yr Aelod Llywyddol yn dda i Greg Jones (Swyddog Cyfathrebu) wrth iddo ddechrau ei rôl newydd gyda'r Dinas-ranbarth.

138.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd cwestiynau am Gofnod 147 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiwn 7".  Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd.

139.

Cyflwyniad Cyhoeddus - RNIB Abertawe a Nam ar y Golwg Gorllewin Morgannwg.

Cofnodion:

Rhoddodd Anita Davies a Susan Thomas gyflwyniad ar waith Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion a Nam ar y Golwg Gorllewin Morgannwg.

 

Diolchodd y Cynghorydd M C Child iddynt am y cyflwyniad.

140.

Mabwysiadu'r cynllun gostyngiad treth y cyngor. pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn esbonio'r gofyniad i ystyried yn flynyddol a oes angen adolygu neu ddisodli Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor presennol y cyngor, a'r gofyniad i naill ai mabwysiadu cynllun newydd neu ail-fabwysiadu'r cynllun presennol erbyn 31 Ionawr 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ("Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig") gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (LlCC) ar 26 Tachwedd 2013;

 

2)              Nodi'r diwygiadau i "Reoliadau’r Gofynion Rhagnodedig" a gynhwyswyd yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018, wedi'u hystyried a'u cytuno arnynt gan LlCC ar 9 Ionawr 2018;

 

3)              Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd ar feysydd dewisol y cynllun presennol gan y cyngor ym mis Rhagfyr 2014;

 

4)              Y bydd y cynllun presennol (2017/2018) o ran y meysydd dewisol (fel a nodwyd yn adran 3 yr adroddiad) yn aros yr un peth o 2018/2019;

 

5)              Mabwysiadu'r cynllun fel a nodwyd yn adran 3 yr adroddiad ac adlewyrchu unrhyw ddiwygiadau a wnaed gan LlCC yn y cynllun.

141.

Gweithio tuag at ffyniant i bawb yn Abertawe' a Strategaeth Trechu Tlodi i Abertawe 2017-2020 pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach adroddiad a oedd yn pennu’r Strategaeth Trechu Tlodi ddiwygiedig a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig i'w cymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus estynedig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Strategaeth Trechu Tlodi, 'Gweithio tuag at ffyniant i bawb yn Abertawe', a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig.

142.

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach adroddiad a oedd yn cyflwyno ymateb partneriaeth strategol ar gyfer cyflwyno blaenoriaethau er mwyn dod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben yn Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

143.

Adroddiad Hunanarfarnu Abertawe ar gyfer Gwasanaethau Addysg i Blant a Phobl Ifanc yr Awdurdod Lleol 2017. pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn cyflwyno fersiwn derfynol adroddiad hunanwerthuso'r Adran Addysg.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi canfyddiadau adroddiad hunanwerthuso 2017.

144.

Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i HMS Cambria pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth er mwyn cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i HMS Cambria.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd Dinas a Sir Abertawe i HMS Cambria;

 

2)              Cynnal cyfarfod seremonïol y cyngor ar 17 Mawrth 2018 i gyflwyno'r teitl Rhyddid er Anrhydedd.

145.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad yn amlinellu enwebiadau/diwygiadau i gyrff y cyngor.

 

Dywedodd nad oedd Arweinydd y Cyngor wedi gwneud unrhyw newidiadau i aelodaeth cyrff allanol yr awdurdod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

i)                Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu enw'r Cynghorydd J P Curtice.

Ychwanegu'r Cynghorydd W G Lewis.

 

ii)              Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol

Tynnu enw’r Cynghorydd B J Rowlands.

 

iii)            Panel Ymddiriedolwyr

Ychwanegu'r Cynghorydd M B Lewis.

146.

Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

147.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

1)              ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A

 

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Chwarterol.

 

Cyflwynwyd chwe (6) 'Chwestiwn Atodol' Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng ngwŷs y cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau atodol.

 

2)       ‘Cwestiynau Rhan B nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer'

 

Cyflwynwyd un (1) 'cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol' Rhan B.