Strategaeth Partneriaeth yw hon i amlinellu'n dyheadau partneriaeth ar y
cyd o ran mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol (VAWDASV) yn Abertawe. Mae'r strategaeth hon yn berthnasol i holl
ddinasyddion Abertawe ac rydym yn cydnabod bod gan Abertawe boblogaeth amrywiol
gyda chefndiroedd a demograffeg wahanol. Rydym am i'n gwasanaethau fod yn
hygyrch i bawb y mae eu hangen arno a bydd yn ymdrechu i gyflwyno gwasanaethau sy'n
diwallu'r anghenion hyn. Mae'r strategaeth hon yn cydnabod bod Trais yn erbyn
Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn fater cymhleth ac amlochrog ac
ni ellir mynd i'r afael â'r materion hyn drwy ddefnyddio un asiantaeth yn unig.
Felly, ymagwedd bartneriaeth amlasiantaeth yw'r ffordd orau o nodi unrhyw
anghenion er mwyn sicrhau darparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.
Mae'r strategaeth
hon yn cyd-fynd â Strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru a Deddf VAWDASV (Cymru)
2015 i sicrhau gwasanaethau cyfartal ar draws Cymru. Mae'r strategaeth yr un
mor bwysig â Fframwaith Partneriaeth VAWDASV a'r Cylch Gorchwyl o ran sicrhau
bod system gadarn ar waith i gyflwyno a monitro.
Math o fusnes: Allweddol
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 15/12/2017
Angen Penderfyniad: 25 Ion 2018 Yn ôl Y Cyngor
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Plant
Prif Gyfarwyddwr: Director of People
Cyswllt: Ali Morris, Domestic Abuse Co-ordinator E-bost: Ali.Morris@Swansea.gov.uk.