Venue: Multi-Location Meeting - Gloucester Room, Guildhall / MS Teams. View directions
Contact: Scrutiny Officer
No. | Item |
---|---|
Disclosure of Personal and Prejudicial Interests. Minutes: Dim |
|
Prohibition of Whipped Votes and Declaration of Party Whips Minutes: Dim |
|
Minutes: Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Minutes: Derbyniodd y Panel y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet a oedd yn ymwneud â'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr. |
|
Public Questions Questions can be submitted in writing to scrutiny@swansea.gov.uk up until noon on the working day prior to the
meeting. Written questions take precedence. Public may attend and ask questions
in person if time allows. Questions must relate to items on the open part of
the agenda and will be dealt with in a 10-minute period. Minutes: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Annual Budget Proposals - as they relate to Education matters Invited to attend are Cllr Robert Smith (Cabinet Member for Education and Skills) and Education Officers Link to relevant
Budget Cabinet Papers for 15 February 2023 will be available online from 9 Feb
2023 Minutes: Diolchodd y Panel
i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu a'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg
am ddod i'r cyfarfod i drafod y Gyllideb Flynyddol fel y mae'n ymwneud â
materion addysg. Darparwyd cyflwyniad a
oedd yn cynnwys y canlynol: ·
Cyllideb
ysgolion ar gyfer 2024-25 ·
Cyllideb
ganolog a staffio canolog ·
Anghenion
Dysgu Ychwanegol ·
Adolygiad
o wasanaethau ·
Ffïoedd ar gyfer ysgolion ·
Arbedion
Eraill Nodwyd y pwyntiau
canlynol gan y Panel a byddant yn cael eu hanfon ymlaen at Banel Craffu
Perfformiad Gwella Gwasanaethau, Cyllid ac Adfywio i'w trafod a byddant yn cael
eu cynnwys yn eu llythyr at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a
Strategaeth. ·
Rydym yn cydnabod ei bod yn gyllideb heriol ond cawsom
ein calonogi bod Aelod y Cabinet a’r adran addysg wedi ystyried yn ofalus yr
opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn gwneud y gorau o’r arian sydd ar gael. ·
Rydym yn bryderus iawn am y gostyngiad parhaus yn lefel y
cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion.
Er ein bod yn cydnabod yr angen i’r arian gael ei wario’n ddoeth, mae’n
bwysig bod gan ysgolion lefel dda o gronfeydd wrth gefn i'w defnyddio fel
'clustog' os bydd angen gwneud hynny. ·
Nodwyd gennym o gyfraniad Fforwm Cyllideb Ysgolion
Abertawe, sef un o’r ymgyngoreion statudol, fod y
setliad y mae Abertawe’n ei dderbyn gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer addysg yn 'gymharol wael ar safle 17/18 o'r 22 awdurdod lleol
Cymru.' Fel Panel, byddem yn cefnogi
rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithio i wella sefyllfa Abertawe. ·
Croesawyd y newyddion am y cynllun peilot bws mini ADY ac
edrychwn ymlaen at glywed mwy am hyn wrth iddo ddatblygu. ·
Croesawyd y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn debygol o
dalu am y cynnydd o £5 miliwn (a dderbyniwyd fel rhan o symiau canlyniadol Barnett) yng nghostau pensiwn athrawon yn Abertawe. ·
Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod y grantiau a
dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwastatáu a’r effaith y bydd hyn yn ei
chael ar ein gwariant cyffredinol ar addysg. ·
Teimlwn ei bod yn dda bod y Cyngor wedi derbyn taliad untro eleni, ond fe wnaethom fynegi pryder ynghylch yr hyn
a all ddigwydd yn y dyfodol. ·
Nodwyd y gorwariant ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol eto
eleni. Byddwn yn cadw llygad ar sut mae
hyn yn datblygu dros y flwyddyn i ddod. ·
Rydym yn croesawu gwella darpariaeth ‘o fewn y sir’, a
thrwy hynny leihau’r potensial ar gyfer cymaint o leoliadau y tu allan i’r
sir. Fodd bynnag, sylweddolom fod yna
arbedion mawr wedi'u rhagamcanu ar gyfer ADY a theimlwn ei bod yn bwysig nad yw
hyn yn effeithio ar y canlyniadau ADY cyffredinol yn Abertawe yn y dyfodol. · Yn olaf, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r ddwy ysgol a’r tîm addysg canolog am y gwaith y maent yn ei wneud yn y cyfnod heriol hwn. |
|
Minutes: Derbyniodd y Panel y rhaglen waith gan nodi bod cyfarfod ychwanegol ar 19 Chwefror wedi’i drefnu i edrych ar drefniadaeth ysgolion mewn perthynas â chyfuno ysgolion arbennig yn Abertawe. |
|
For Information - Recent Individual School Inspection Outcomes List PDF 63 KB Minutes: Nodwyd yr wybodaeth gan y panel. Gofynnodd y Panel fod adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys ychydig mwy o gyd-destun, gan gynnwys rhai o'r pethau cadarnhaol am yr ysgolion. |