Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd A H Stevens
– Cais Cynllunio 2017/1663/S73 (Eitem 3) – Personol a Rhagfarnol - Aelod o Glwb
Rygbi Casllwchwr - gadawodd cyn i'r drafodaeth ddechrau. Y Cynghorydd D W W Thomas - Cais Cynllunio 2017/1676/FUL (Eitem 4) –
Personol – Aelod o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (mae'r ymgeisydd
yn swyddog yn yr awdurdod). Y Cynghorydd T M
White - Cais Cynllunio 2016/1573 (Eitem 6) – Mae safle'r cais yn fy ward |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhad o Orchymyn Cadw Coed 632, Eglwys Teilo Sant, Pontarddulais. PDF 819 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau, fel
gorchymyn llawn, orchymyn dros dro 632 GCC ar dir yn nhir yn Eglwys Teilo Sant,
Pontarddulais. Amlinellwyd y
sylwadau a dderbyniwyd ynghylch y cynnig yn yr adroddiad, gan fanylu arnynt. Penderfynwyd cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed 632 ar dir
yn Eglwys Teilo Sant, Pontarddulais. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod(#): (#)(Eitem 1)
Cais Cynllunio 2017/1342/FUL - Adeiladu 11 o anheddau ar wahân ar dir i'r de o
28, Christopher Rise Pontlliw, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Christine Rowlands (gwrthwynebydd) a Geraint John
(asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd D G Sullivan (aelod lleol) a
siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Derbyniwyd pedwar llythyr o wrthwynebiad a oedd yn codi pryderon am y
mathau o anheddau a gynigir, colli preifatrwydd, tir na fydd dan reolaeth yr
ymgeisydd, mynediad a thagfeydd traffig. Bu llythyr hwyr o ddim gwrthwynebiad gan CNC. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar weithred amrywio ar y cytundeb Adran 106
ac yn amodol ar y diwygiadau/amodau isod: Mae Rheolwr Cadwraeth a Dylunio'r cyngor wedi codi pryderon am leoli
safleoedd i'r de mewn perthynas â'r coed wrth gefn y safle. Mae hyn yn debygol
o achosi cysgod ac effeithio ar amwynderau preswyl. Dylid symud y garejys a'r
lleoedd parcio ar leiniau 1 ac 11 i gefn y lleiniau hyn gan osod ffenestri
ochr/drysau patio ychwanegol yn yr ystlysluniau i ganiatáu mynediad i'r gerddi
ochr a golygfeydd drostynt a ffenestri ystafell y gellir byw ynddo yn
ystlysluniau lleiniau 1 ac 11 lle y maent yn wynebu'r ffordd. Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig
sy'n mynd i'r afael â'r materion fel a ganlyn: Aildrefnu
lleiniau 01 ac 11 ·
Symud garejys, i fod ar wahân ac wrth gefn yr eiddo -
bydd hyn yn caniatáu mynediad i'r eiddo drwy'r ffordd fynediad newydd yn
hytrach na thrwy Christopher Rise, fel a
gynigiwyd yn flaenorol;
Aildrefnu lleiniau 09 a 10
Rhaid ymgymryd
â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol:
AS17.05.L.93.00.P2
- Cynlluniau gwaith allanol (derbyniwyd ar 8 Ionawr 2018);
Rheswm: I osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a
gymeradwywyd. Yn amod 4,
dylid newid 'cynllun AS17.05L 93.00 P2' i 'cynllun AS17.05L 93.00 P3’. Yn amod 6, dylid newid 'Cynlluniau AS17.05.L.02.10.P3, AS17.05.L.02.11 P2' i
‘Cynlluniau AS17.05.L.02.10.P4 ac AS17.05.L.02.11 P3’ Yn amod 13, dylid newid ‘cynllun AS17.05.L.01.00.P4’, i 'cynllun AS17.05.L.01.00.P5’ Dylid dileu
amod 14 a rhoi'r amod canlynol yn ei le: 14. Er y cynlluniau a gyflwynwyd, ni fydd unrhyw ddatblygiad na gwaith
clirio ar y safle yn cychwyn nes y bydd cynllun tirlunio manwl yn cael ei
gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'i gymeradwyo ganddo'n ysgrifenedig, a
dylai'r cynllun hwn gynnwys rhywogaethau, bylchau ac uchder yr holl blanhigion
newydd ar ôl iddynt gael eu plannu. Dylai'r cynllun hefyd gynnwys manylion yr
holl goed (gan gynnwys lledaeniad a rhywogaeth) a'r holl wrychoedd sydd ar y
tir ar hyn o bryd, gan nodi'r rhai i'w cadw ac amlinellu mesurau ar gyfer eu
gwarchod drwy gydol y broses ddatblygu. Caiff yr holl waith plannu, hadu neu
dywarchu a nodir yn y cynllun tirlunio a gymeradwyir ei wneud yn ystod y
tymhorau plannu a hadu cyntaf yn dilyn defnydd buddiol cyntaf yr adeiladau neu
gwblhad y datblygiad, p'un bynnag fydd gyntaf; a chaiff planhigion o faint a
rhywogaeth debyg eu plannu yn ystod y tymor plannu nesaf lle bydd unrhyw goed
neu blanhigion yn marw, yn cael eu symud neu'n cael eu difrodi'n ddifrifol
neu'n afiach o fewn 5 mlynedd o gwblhau'r datblygiad. (#)(Eitem
2) Cais Cynllunio 2017/1558FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 6
ystafell wely i 6 pherson (Dosbarth C4) yn 7 Teras Kilvey, St. Thomas,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr C E Lloyd a J Hale (aelodau lleol) a
siaradon nhw yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Cododd un llythyr o wrthwynebiad bryderon am barcio, sŵn ac effeithiau
ar y gymuned. (#)(Eitem
3) Cais cynllunio 2017/1663/S73 - Amrywio amod 20 caniatâd cynllunio 2014/0306 a
roddwyd ar 27/08/2014 i alluogi'r llifoleuadau i weithredu rhwng dydd Llun a
dydd Gwener 16:30 - 20:15 ar gae chwaraeon Casllwchwr, Ffordd Cae Duke,
Gorseinon, Abertawe Darllenodd y cadeirydd lythyr o gefnogaeth gan y Cynghorydd R V Smith
(aelod ward gyfagos). (#)(Eitem
4) Cais cynllunio 2017/1676/FUL - Annedd ar wahân a garej ar wahân ar dir wrth
gefn 101 Heol Llandeilo Ferwallt, Llandeilo Ferwallt, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Mark Evans (asiant) a Steve Davies (ymgeisydd). Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Diwygio amod 7 fel a ganlyn: Ni wneir
unrhyw waith datblygu'r safle na gwaith clirio coed a llystyfiant nes y
cyflwynir Datganiad o Ddull ar gyfer symud y gwrych ac ystyried ymlusgiaid yn
ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio lleol a bod hwnnw wedi'u cymeradwyo. Bydd y
Datganiad o Ddull yn rhoi manylion ynghylch sut gwneir y symudiad, gan gynnwys
manylion am leoliad y derbynle; amseriadau; triniaeth perthi cyn, ac yn syth ar
ôl, symud; yr hyn a wneir os bydd y weithdrefn yn methu, etc. Bydd hefyd yn
cynnwys gwybodaeth am sut caiff ymlusgiaid eu hystyried yn briodol yn ystod y
gwaith a bydd yn ehangu ar egwyddorion sylfaenol Arfarniad Ecolegol
Rhagarweiniol a derbyniwyd ar 7 Rhagfyr 2017. Rhoddir y Datganiad o Ddull
cymeradwy ar waith yn unol â'r manylion a gymeradwyir trwy hynny. Rheswm:
Sicrhau bod unrhyw rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion a chynefinoedd a
restrir dan Reoliad Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 yn cael eu
gwarchod yn ddigonol, a gwarchod a gwella cymeriad a golwg y safle a'i leoliad
yn yr ardal. (#)(Eitem
5) Cais Cynllunio 2017/2271/FUL - Datblygiad arfaethedig ar gyfer
annedd-dŷ deulawr ar wahân a garej ar wahân yng ngardd The Dingle, Caswell,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Mr Phillips (gwrthwynebydd) a Geraint John
(asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd W G Thomas (aelod lleol) a siaradodd
yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Derbyniwyd llythyr hwyr gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent -
mae'r safle ym mharc cofrestredig a gardd The Dingle, ac mae rhan ohono yn
AoHNE Gŵyr. Nid ydym yn credu byddai'r datblygiad arfaethedig yn cael
effaith andwyol ar unrhyw un o'r dynodiadau hyn. Mae'n annhebygol y ceir
gweddillion archaeolegol yn ystod y gwaith. Fodd bynnag, nid yw'r cofnod yn
bendant a gellir aflonyddu ar ddeunydd archaeolegol yn ystod y gwaith. Os bydd
hyn yn digwydd, cysylltwch yr adran hon o'r Ymddiriedolaeth. Er hynny, fel
ymgynghorwyr archaeolegol i'ch aelodau, nid oes gennym wrthwynebiad cyn
penderfyniad ar y cais. (#)(Eitem
6) Cais cynllunio 2016/1573 - Dymchwel
adeiladau/adeileddau presennol ar y safle ac adeiladu llety myfyrwyr pwrpasol
(hyd at 706 o ystafelloedd gwely) (Sui Generis) o fewn mynediad
arwyddol/cynllun o 5 bloc a pharamedrau graddfa o 4 i 6 llawr gyda 4 uned
fasnachol ar lawr gwaelod Bloc 1 (A1/A2/A3 a B1) ac un siop fanwerthu nwyddau
cyfleus ar y llawr gwaelod (A1)/1 uned fasnachol (A1/A2/A3 a B1) ym Mloc 2 ar y
cyd â defnyddiau cymunedol ategol, gan gynnwys rheoli/golchdy/lolfa (defnyddiau
D1 a D2), man parcio/gwasanaethu ceir/beiciau, peirianneg gysylltiedig,
draenio, gwaith isadeiledd a thirlunio cysylltiedig (cais amlinellol - holl faterion wedi'u cadw'n ôl) ar dir safle
hen laethdy Unigate, Heol y Morfa, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd R C Stewart (Arweinydd) a siaradodd i
gefnogi'r cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Derbyniwyd un llythyr o wrthwynebiad. Roedd yr ymateb yn codi pryderon
cyffredinol am ansawdd pensaernïaeth yr adeilad sy'n wynebu'r afon; mae'r tu
blaen i Heol y Morfa'n wynebu priffyrdd - does dim ymdrech i fynd i'r afael â'r
strydlun; diffyg cydlyniad gofodol/trefn grid y stryd; does dim cysylltiad
amlwg rhwng yr afon a'r stryd a dim ymdeimlad o ansawdd gofodol. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106 ac ychwanegu "a
golau" ar ôl teledu cylch cyfyn yn argymhelliad b) ar d115. (#)(Eitem
7) Cynllun cynllunio 2017/1948/FUL - Datblygu 61 o anheddau gyda mannau agored
cysylltiedig, tirlunio, trefniadau mynediad, gwaith isadeiledd a pheirianneg
cysylltiedig ar dir oddi ar Lôn Summerland, Newton, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor
gan Graham Carlisle (a oedd yn cynrychioli gwrthwynebiadau Cyngor Cymuned y
Mwmbwls) a Gareth Williams (asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd W G Thomas (aelod lleol) a siaradodd
yn erbyn y cais. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd R Francis-Davies (Aelod y Cabinet) a
siaradodd i gefnogi'r cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae'r frawddeg
olaf ar dudalen 125 yn anghywir gan ei bod yn nodi y derbyniwyd deiseb o wrthwynebiad
sy'n cynnwys 96 o lofnodion. Dylai'r frawddeg olaf nodi'r canlynol: "Derbyniwyd
wythdeg dau (82) o lythyrau o wrthwynebiad a deiseb o wrthwynebiad sy'n cynnwys
132 o lofnodion, wedi'i llofnodi gan bobl o 93 o dai unigol." Derbyniwyd dau
lythyr hwyr o wrthwynebiad ychwanegol - pryderon ychwanegol a godwyd: Tanc carthion
presennol yn eiddo cymydog - nid yw'r ymgeisydd wedi cysylltu â'r preswylydd o
gwbl ac nid yw'r preswylydd wedi gweld unrhyw gynigion i sicrhau y bydd
carthffosiaeth yn parhau i gael ei gwaredu o'r eiddo; pwy sy'n elwa - nid y
preswylwyr; ardaloedd hamdden bach iawn: nid oes unrhyw ardaloedd hamdden o
fewn 2km. Adeilad dwysedd uchel: 2 i 3 gwaith mwy dwys na'r ardal o'i gwmpas;
posibilrwydd o lygru carthffosiaeth/dŵr wyneb; nid oes unrhyw sôn am
barcio yn ystod yr haf - Rhodfa Caswell a'r ardaloedd cyfagos yn orlawn â
pharcio i fynd i'r traeth. Rhennir
mynediad trac sengl ar Lôn Summerland gan breswylwyr presennol a chymuned y
byngalos yng Nghoed yr Esgob; tai fforddiadwy - sut y cynhelir hyn; nid yw'r
ardal yn ymarferol ar gyfer beicio oherwydd topograffi; gwasanaeth bysus gwael
iawn. Mae'r cais yn
amodol ar gytundeb Adran 106 |
|
Cynllun mynediad cefn gwlad. PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio adroddiad a amlinellodd yr angen i ddarparu Cynllun
Mynediad i Gefn Gwlad wedi'i ddiweddaru a'i adolygu. Bydd y cynllun
bellach yn amodol ar broses ymgynghori cyhoeddus 12 wythnos. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Dylid diwygio paragraff 5
i nodi: 5. Goblygiadau Cyfreithiol 5.1 O dan Adran 60 Deddf Cefn Gwlad
a Hawliau Tramwy 2000, mae'n rhaid i'r awdurdod benderfynu a yw am lunio
Cynllun Mynediad i Gefn Gwlad (Cynllun Gwella Hawliau Tramwy) diwygiedig neu
beidio, ac yna naill ai cyhoeddi cynllun newydd neu ddarparu adroddiad sy'n
esbonio pan nad oes angen diwygiadau. Penderfynwyd bydd yr awdurdod yn adolygu ac yn
diweddaru Cynllun Mynediad i Gefn Gwlad 2007-17 ac yn ymgynghori ar gynllun
drafft ar gyfer y deng mlynedd nesaf. |