Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

41.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

42.

Cofnodion. pdf eicon PDF 208 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2024 fel cofnod cywir.

 

 

43.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

44.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) - 2021/3027/S73 - Cymeradwywyd

 

(2) - 2020/2588/RES - Cymeradwywyd

 

(3) - 2023/1991/FUL - Cymeradwywyd

 

(4) - 2023/2627/S73 - Cymeradwywyd

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod.)

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2021/3027/S73 - Amrywio ar amod 1 caniatâd cynllunio 2018/1001/RES a roddwyd ar 11 Mawrth 2019 i ddiwygio cynllun y datblygiad a gymeradwywyd ar gyfer 36 o anheddau newydd. (yn cynnwys 17 o anheddau teras cysylltiedig, 5 pâr o dai pâr, 1 annedd ar wahân ac 8 fflat mewn 2 floc deulawr yn ogystal â mynediad, parcio, tirlunio a man agored cysylltiedig.) ar dir oddi ar Brithwen Road, Waunarlwydd, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Phil Baxter (asiant ar gyfer yr ymgeiswyr) y Pwyllgor.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Dylid diwygio amod 1 i ddarllen:

1. Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol:

2457 - carthffosydd storm (amod 9 2008/0512)

2457-520 Diwygiad C - cynllun peirianneg (amod 9 2008/0512)

Derbyniwyd 10 Ionawr 2024

2251-200-15B diwygiad B - bloc 2 - gweddluniau - plotiau 5-7

2251-200-16C diwygiad C - bloc 2 - gweddluniau 2 - plotiau 5-7 

2251-200-18B diwygiad B - bloc 3 - gweddluniau - plotiau 14-16

2251-200-19B diwygiad B - bloc 3 - gweddluniau 2 - plotiau 2-16

2251-200-21A diwygiad B - bloc 4 - gweddluniau - plotiau 31-33

2251-200-22B diwygiad B - bloc 4 - gweddluniau 2 - plotiau 31-33

2251-200-24C diwygiad C - bloc 5 - gweddluniau - plotiau 17-20

2251-200-25C diwygiad C - bloc 5 - gweddluniau 2 - plotiau 17-20

2251-200-27B diwygiad B - bloc 6 - gweddluniau - plotiau 21-24

2251-200-28B diwygiad B - bloc 6 - gweddluniau 2 - plotiau 21-24

2251-200-34 diwygiad A - cynlluniau llawr - math o dŷ 851 - plot 36 - 3 ystafell wely

 

2251-200-35 diwygiad A - gweddluniau - math o dŷ 851 - plot 36 - 3 ystafell wely

2251-200-37 diwygiad A - gweddluniau - math o dŷ 764 a 851 - plotiau 34 a 35 - 3 ystafell wely

Derbyniwyd 8 Ionawr 2024

         

2251-102 diwygiad K - cynllun gwaith allanol (amod 15 2008/0512)

2251-103 diwygiad J - cynllun deunyddiau

TDA2284.01 diwygiad F - cynigion tirlunio meddal manwl (amod 11 2008/0512)

Derbyniwyd 23 Tachwedd 2023

 

2251-101 diwygiad V - cynllun y safle

Derbyniwyd 15 Tachwedd 2023

 

2251-200-04 Diwygiad C - cynlluniau llawr - math o dŷ 851 - 3 ystafell wely

2251-200-05 Diwygiad C - gweddluniau - math o dŷ 851 - 3 ystafell wely

Derbyniwyd 4 Hydref 2023

 

2251-200-01 diwygiad B - cynlluniau llawr - math o dŷ 764 - 2 ystafell wely

2251-200-02A diwygiad B - gweddluniau - math o dŷ 764 - 2 ystafell wely

2251-200-03 diwygiad B - gweddluniau - math o dŷ 764 - 2 ystafell wely

2251-200-06 diwygiad B - gweddluniau - math o gynllun 851 - 3 ystafell wely

2251-200-07 diwygiad B - llawr - math o gynllun 211 - 1 ystafell wely

2251-200-08 diwygiad B - gweddluniau - math o gynllun 211 - fflat un ystafell wely

2251-240A - Strydlun

Derbyniwyd 28 Medi 2023

 

2251-100 diwygio cynllun lleoliad safle

Arolwg Clymog Japan Elcot, (amod 11 2008/0512),

Derbyniwyd 1 Mai 2018.

 

cynllun rheoli manyleb tirlunio (amod 11 2008/0512), derbyniwyd 4 Gorffennaf 2018.

 

TDA.2284.02 - manylion adeiladu pyllau coed (amod 11 2008/0512), derbyniwyd ar 28 Awst 2018.

 

2251-200-30 manylion storio biniau

2251-200-31 manylion storio beiciau

derbyniwyd 14 Chwefror 2019 (2018/1001/res)

 

adroddiad coedyddiaeth (amod 18 a 19 2008/0512)

derbyniwyd 29 Tachwedd 2021

 

cynllun bloc/cynllun safle, derbyniwyd ar 6 Awst 2009. (2008/0512)

 

rheswm: i osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

 

·       Diwygiwyd amod 3 yn ystod cyfarfod y Pwyllgor i ddarllen:

3. Cyn meddiant llesiannol yr annedd gyntaf, bydd manylion llawn y trefniadau arfaethedig ar gyfer rheoli a chynnal a chadw'r strydoedd arfaethedig o fewn y datblygiad yn y dyfodol, (gan gynnwys mesurau gostegu traffig ac arwyddion) yn cael eu cyflwyno a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Caiff y strydoedd eu cynnal a'u cadw'n dilyn hynny'n unol â'r manylion rheoli a chynnal a chadw cymeradwy hyd nes bod cytundeb wedi'i gyflwyno o dan adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980 neu bod cwmni rheoli a chynnal a chadw preifat wedi'i sefydlu.

Rheswm: I sicrhau bod gan y datblygiad mynediad i gerbydau boddhaol er budd diogelwch y cyhoedd ac yn unol â Pholisïau PS2, T1

 

 

(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2020/2588/RES - Cynnig i roi terfyn ar dirlenwi a gweithrediadau eraill, gan alluogi datblygiad preswyl o oddeutu 300 annedd, man cyhoeddus agored, a gwaith priffordd ac ategol arall (manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint y datblygiad yn unol â chais amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar apêl ar 11 Ionawr 2018) ar gyfer camau 5 (19 annedd), man agored ac isadeiledd ategol yn Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd, Great Western Terrace, Cwmrhydyceirw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd A S Lewis (Aelod Lleol) a siaradodd am y problemau methan a dŵr/draenio ar y safle.

 

·       Ychwanegu nodiadau ychwanegol:

5. Atgoffir y datblygwr o ofynion amod 7 y caniatâd cynllunio amlinellol mewn perthynas â datblygiad arfaethedig cam 5 a'r gofyniad i gyflwyno cynllun i ymchwilio a monitro'r safle ar gyfer presenoldeb nwyon a, lle bo angen, rhoi mesurau diogelu rhag nwyon ar waith i sicrhau eu bod yn gwasgaru neu'n rheoli nwyon mewn modd diogel a diniwed

 

 

(Eitem 3) - Cais Cynllunio 2023/1991/FUL - Newid defnydd deli i siop cludfwyd poeth (A3) yn 32 St Teilo Street, Pontarddulais, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diwygio rheswm yn Amod 3 drwy newid 'complimentary' i 'complementary'.

 

 

(Eitem 4) - Cais Cynllunio 2023/2627/S73 - Adeiladu 44 annedd (tai fforddiadwy 100%) gyda thirlunio, mynediad a gwaith cysylltiedig (Amrywio amod 2 (Cynlluniau Cymeradwy) caniatâd cynllunio 2020/2357/FUL a roddwyd ar 29 Medi 2021) i ychwanegu Celloedd Ffotofoltäig a Phympiau Gwres Ffynhonnell yr Aer at yr anheddau a'r bloc o fflatiau arfaethedig yn Fferm Pencefnarda, Pencefnarda Road, Gorseinon, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan James Scarborough (asiant ar gyfer ymgeiswyr).

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.