Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2024 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod.) #(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2021/3027/S73 -
Amrywio ar amod 1 caniatâd cynllunio 2018/1001/RES a roddwyd ar 11 Mawrth 2019
i ddiwygio cynllun y datblygiad a gymeradwywyd ar gyfer 36 o anheddau newydd.
(yn cynnwys 17 o anheddau teras cysylltiedig, 5 pâr o dai pâr, 1 annedd ar
wahân ac 8 fflat mewn 2 floc deulawr yn ogystal â mynediad, parcio, tirlunio a
man agored cysylltiedig.) ar dir oddi ar Brithwen
Road, Waunarlwydd, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Phil
Baxter (asiant ar gyfer yr ymgeiswyr) y Pwyllgor. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Dylid diwygio
amod 1 i ddarllen: 1. Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r
cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol: 2457 - carthffosydd storm (amod 9 2008/0512) 2457-520 Diwygiad C - cynllun peirianneg (amod 9
2008/0512) Derbyniwyd 10
Ionawr 2024 2251-200-15B diwygiad B - bloc 2 - gweddluniau -
plotiau 5-7 2251-200-16C diwygiad C - bloc 2 - gweddluniau 2 -
plotiau 5-7 2251-200-18B diwygiad B - bloc 3 - gweddluniau -
plotiau 14-16 2251-200-19B diwygiad B - bloc 3 - gweddluniau 2 -
plotiau 2-16 2251-200-21A diwygiad B - bloc 4 - gweddluniau -
plotiau 31-33 2251-200-22B diwygiad B - bloc 4 - gweddluniau 2 -
plotiau 31-33 2251-200-24C diwygiad C - bloc 5 - gweddluniau -
plotiau 17-20 2251-200-25C diwygiad C - bloc 5 - gweddluniau 2 -
plotiau 17-20 2251-200-27B diwygiad B - bloc 6 - gweddluniau -
plotiau 21-24 2251-200-28B diwygiad B - bloc 6 - gweddluniau 2 -
plotiau 21-24 2251-200-34
diwygiad A - cynlluniau llawr - math o dŷ 851 - plot 36 - 3 ystafell wely 2251-200-35 diwygiad A - gweddluniau - math o
dŷ 851 - plot 36 - 3 ystafell wely 2251-200-37 diwygiad A - gweddluniau - math o
dŷ 764 a 851 - plotiau 34 a 35 - 3 ystafell wely Derbyniwyd 8 Ionawr 2024
2251-102 diwygiad K - cynllun gwaith allanol (amod
15 2008/0512) 2251-103 diwygiad J - cynllun deunyddiau TDA2284.01 diwygiad F - cynigion tirlunio meddal
manwl (amod 11 2008/0512) Derbyniwyd 23 Tachwedd 2023 2251-101 diwygiad V - cynllun y safle Derbyniwyd 15 Tachwedd 2023 2251-200-04 Diwygiad C - cynlluniau llawr - math o
dŷ 851 - 3 ystafell wely 2251-200-05 Diwygiad C - gweddluniau - math o
dŷ 851 - 3 ystafell wely Derbyniwyd 4
Hydref 2023 2251-200-01 diwygiad B - cynlluniau llawr - math o
dŷ 764 - 2 ystafell wely 2251-200-02A diwygiad B - gweddluniau - math o
dŷ 764 - 2 ystafell wely 2251-200-03 diwygiad B - gweddluniau - math o
dŷ 764 - 2 ystafell wely 2251-200-06 diwygiad B - gweddluniau - math o
gynllun 851 - 3 ystafell wely 2251-200-07 diwygiad B - llawr - math o gynllun 211
- 1 ystafell wely 2251-200-08 diwygiad B - gweddluniau - math o
gynllun 211 - fflat un ystafell wely 2251-240A - Strydlun Derbyniwyd 28 Medi 2023 2251-100 diwygio cynllun lleoliad safle Arolwg Clymog Japan Elcot,
(amod 11 2008/0512), Derbyniwyd 1 Mai 2018. cynllun rheoli manyleb tirlunio (amod 11
2008/0512), derbyniwyd 4 Gorffennaf 2018. TDA.2284.02 - manylion adeiladu pyllau coed (amod 11 2008/0512), derbyniwyd
ar 28 Awst 2018. 2251-200-30 manylion storio biniau 2251-200-31 manylion storio beiciau derbyniwyd 14 Chwefror 2019 (2018/1001/res) adroddiad coedyddiaeth (amod 18 a 19 2008/0512) derbyniwyd 29 Tachwedd 2021 cynllun bloc/cynllun safle, derbyniwyd ar 6 Awst
2009. (2008/0512) rheswm: i osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfiaeth
â'r cynlluniau a gymeradwywyd. ·
Diwygiwyd amod 3 yn ystod cyfarfod y Pwyllgor i ddarllen: 3. Cyn meddiant llesiannol yr annedd gyntaf, bydd
manylion llawn y trefniadau arfaethedig ar gyfer rheoli a chynnal a chadw'r strydoedd
arfaethedig o fewn y datblygiad yn y dyfodol, (gan gynnwys mesurau gostegu
traffig ac arwyddion) yn cael eu cyflwyno a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr
Awdurdod Cynllunio Lleol. Caiff y strydoedd eu cynnal a'u cadw'n dilyn hynny'n
unol â'r manylion rheoli a chynnal a chadw cymeradwy hyd nes bod cytundeb
wedi'i gyflwyno o dan adran 38 o Ddeddf Priffyrdd 1980 neu bod cwmni rheoli a
chynnal a chadw preifat wedi'i sefydlu. Rheswm: I sicrhau bod gan y datblygiad mynediad i gerbydau boddhaol er budd
diogelwch y cyhoedd ac yn unol â Pholisïau PS2, T1 (Eitem 2) – Cais Cynllunio 2020/2588/RES - Cynnig
i roi terfyn ar dirlenwi a gweithrediadau eraill, gan alluogi datblygiad
preswyl o oddeutu 300 annedd, man cyhoeddus agored, a gwaith priffordd ac
ategol arall (manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint y datblygiad yn unol â
chais amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar apêl ar 11 Ionawr 2018) ar gyfer camau
5 (19 annedd), man agored ac isadeiledd ategol yn Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd, Great Western Terrace, Cwmrhydyceirw, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd A S Lewis (Aelod Lleol) a siaradodd am y problemau
methan a dŵr/draenio ar y safle. ·
Ychwanegu nodiadau ychwanegol: 5. Atgoffir y
datblygwr o ofynion amod 7 y caniatâd cynllunio amlinellol mewn perthynas â
datblygiad arfaethedig cam 5 a'r gofyniad i gyflwyno cynllun i ymchwilio a
monitro'r safle ar gyfer presenoldeb nwyon a, lle bo angen, rhoi mesurau
diogelu rhag nwyon ar waith i sicrhau eu bod yn gwasgaru neu'n rheoli nwyon
mewn modd diogel a diniwed (Eitem 3) -
Cais Cynllunio 2023/1991/FUL - Newid defnydd deli i siop cludfwyd
poeth (A3) yn 32 St Teilo Street, Pontarddulais,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diwygio rheswm yn Amod 3 drwy newid 'complimentary' i 'complementary'. (Eitem 4) - Cais Cynllunio 2023/2627/S73 -
Adeiladu 44 annedd (tai fforddiadwy 100%) gyda thirlunio, mynediad a gwaith
cysylltiedig (Amrywio amod 2 (Cynlluniau Cymeradwy) caniatâd cynllunio
2020/2357/FUL a roddwyd ar 29 Medi 2021) i ychwanegu Celloedd Ffotofoltäig a Phympiau Gwres Ffynhonnell yr Aer at yr
anheddau a'r bloc o fflatiau arfaethedig yn Fferm Pencefnarda,
Pencefnarda Road, Gorseinon, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan James Scarborough (asiant ar gyfer ymgeiswyr). Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar gytundeb Adran 106. |