Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau. Cofnodion: Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau
chwip na chwipiau'r pleidiau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion
y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 17 Awst 2021 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu ar Gyfrifoldebau Portffolio Aelodau'r Cabinet. PDF 251 KB Trafodaeth ar: a) Sbwriel a Glanhau’r
Gymuned (Aelod y Cabinet dros Wella’r
Amgylchedd a Rheoli
Isadeiledd – Y Cynghorydd Mark Thomas) b) Polisi Ynni, gan gynnwys
Cynhyrchu, Cyflenwi a Gwresogi’r Rhanbarth (Aelod y
Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau - Y Cynghorydd Andrea Lewis) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Sbwriel a Glanhau'r Gymuned Roedd Aelod y
Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a swyddogion yn bresennol i
ystyried yr adroddiad ar sbwriel a glanhau'r gymuned. Tynnodd yr Aelod
Cabinet sylw at effaith y pandemig ar y gwasanaeth a
staff a diolchodd i'r holl staff am eu gwaith a'u hymdrech barhaus yn ystod
cyfnod mor anodd. Cafwyd swm digynsail o sbwriel yn ystod y cyfnod hwn, yn
ogystal â'r cyfyngiadau ar faint o staff a allai deithio mewn cerbyd gyda'i
gilydd. Roedd gwaith dal i fyny'n parhau ac roedd 15
aelod ychwanegol o staff wedi'u cyflogi. Cydnabu'r
pwyllgor fod gwaith y staff wedi bod yn rhagorol yn ystod y pandemig,
a chanmolwyd aelodau unigol hefyd am helpu i ddelio â sbwriel yn eu wardiau. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Perfformiadau
a thueddiadau o ran yr Archwiliad Amgylcheddol Lleol a Systemau Rheoli (LEAMS)
- dull monitro oedd hwn o raddio glendid strydoedd a wiriwyd ac a ddilyswyd yn
annibynnol. ·
Defnyddio
cyllidebau Cynghorwyr Cymunedol ar gyfer gwasanaethau glanhau - darparwyd
costau a lefel y gwasanaeth ·
Ymateb
y gwasanaeth i sbwriel a materion glanhau'r gymuned - roedd y gwasanaeth yn
ceisio ymdrin â cheisiadau brys o fewn diwrnod a cheisiadau safonol o fewn 5
niwrnod. ·
Tipio
anghyfreithlon - adnoddau i ymdrin â thipio anghyfreithlon a chymariaethau ag
awdurdodau cyfagos. Y broses o ymdrin â'r sawl sy'n tipio'n anghyfreithlon dro
ar ôl tro a chludwyr gwastraff didrwydded - nodwyd ymgyrch ar y cyd ddiweddar
gyda Heddlu De Cymru yr oedd y canlyniadau hyn i'w cyhoeddi'n fuan ·
Baw
cŵn - roedd y cyngor wedi mabwysiadu ymagwedd ymgysylltu, addysgu ac yna
gorfodi fel dewis olaf, a thynnwyd sylw at anawsterau gorfodi a dal
tramgwyddwyr ·
Gorfodi
- cafwyd trafodaeth ynghylch rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau o gosb benodol
fel ataliad yn ogystal ag ystyried negeseua cyhoeddus e.e. rhybuddion o erlid
ar gerbydau'r cyngor. Nodwyd bod yr ymgyrch 'Paid â thaflu sbwriel' wedi tynnu
sylw pobl. ·
Sbwriel
a draenio - glanhau wyneb gorchuddion draeniau - yn cael ei gynnwys yn
archwiliad arferol y tîm glanhau strydoedd er mwyn galluogi timau gylïau i
ymdrin â draeniau blociedig - darparwyd gwell
gwasanaeth am oddeutu 3 mis yn ystod tymor cwymp y dail ·
Gwelliant
- clywyd bod y gwasanaeth yn gweithio ar brosiect datrysiadau digidol ar gyfer
glanhau a fydd yn cysylltu tipio anghyfreithlon, casgliadau gwastraff swmpus
etc. ·
Effaith
taflu sbwriel ar fywyd gwyllt - trafodwyd y posibilrwydd o gynyddu
ymwybyddiaeth y cyhoedd yn fwy o effaith taflu sbwriel ar fywyd gwyllt. ·
Casglu
sbwriel o draethau - dywedwyd wrthynt am lefelau uchel o sbwriel yn enwedig yn
ystod tymor yr haf, ac yn enwedig dros y 2 haf diwethaf yn ystod y pandemig oherwydd partïon niferus ar y traeth - trafodwyd y
posibilrwydd o godi sbwriel yn gynharach fel bod y traethau'n lân ar gyfer y
rheini sy'n nofio'n gynnar yn y bore. ·
Tîm
Gweithredu Amgylcheddol Cymdogaethau (NEAT) adnabyddus i - does dim bwriad i
ailgychwyn ar hyn o bryd, ond roedd yn boblogaidd iawn ac roedd pawb yn awyddus
i ailddechrau unwaith bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadarnhau ei fod yn
bosib ac yn ddiogel gwneud hynny Polisi Ynni gan gynnwys cynhyrchu, cyflenwi a
gwresogi rhanbarthol Roedd Aelod y
Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau a swyddogion yn
bresennol er mwyn ystyried yr adroddiad ar Sbwriel a'r Strategaeth Ynni. Diolchodd y
Cynghorydd Lewis y tîm am eu gwaith caled yn y maes hwn - roeddent yn dîm bach
y dywedodd hithau eu bod yn gwneud pethau rhyfeddol. Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: - ·
Llywodraethu
- aelodaeth a llywodraeth Bwrdd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd a'r Grŵp
Llywio Newid yn yr Hinsawdd. ·
Cyflenwad
nwy'r cyngor - eglurhad o nwy gwyrdd, y gwahaniaeth rhwng nwy gwyrdd a nwy
naturiol ac i ba raddau y mae'n cael ei ddefnyddio. ·
Dyfodol
y grid a ffynonellau pŵer fel hydrogen, nwyon gwyrdd etc. - maes sy'n
esblygu'n gyson a thechnoleg sy'n
datblygu'n gyson ·
Cynnig
sy'n cael ei arwain gan y brifysgol ar gyfer gorsaf tanwydd hydrogen ar Fabian Way ·
Tyrbinau
hydrogen bach yn ardal y dociau ac ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio coredau
afonydd ·
Cynnydd
o ran y Morlyn Llanw - mae'r cyngor yn ymrwymedig i Ynys Ynni'r Ddraig ac mae
cais wedi'i gyflwyno'n ddiweddar i Gronfa Ynni Cymunedol Llywodraeth y DU i
helpu i baratoi achos busnes amlinellol. ·
Defnyddio
£1.3 miliwn ar gyfer prosiect Cam 1 RE:FIT Cymru (Effeithlonrwydd Ynni) -
uwchraddio goleuadau LED, deunydd insiwleiddio adeiladau, paneli solar ar doeon
etc. ·
Cynnydd
o ran y fferm solar - rhagwelwyd y byddai'r cais arfaethedig yn cael ei
gyflwyno o gwmpas mis Ionawr 2022. ·
Posibilrwydd
o ailgyflwyno cymhorthdal ar fylbiau golau ynni isel ·
Yr
hyn y gallai awdurdodau lleol ei wneud i gefnogi'r argyfwng newid hinsawdd ymhellach
a pha adnoddau, cyllid a phwerau y byddai eu hangen er mwyn gwneud mwy - rôl i
aelodau hyrwyddo'r agenda yn y gymuned h.y. cefnogi busnesau i gael grantiau
etc. Diolchwyd Aelod y
Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r trafodaethau a rhannu barn y pwyllgor. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Sue Jones, Cynullydd, yr Adroddiad Diweddaru ar Berfformiad y
Gwasanaethau i Oedolion Mewn perthynas
â'r adroddiad ysgrifenedig a ddarparwyd, mynegodd bryder yn benodol am ddyfodol
gofal cymdeithasol a thynnodd sylw at y ffaith bod gofalwyr pobl ag anableddau
dysgu'n cael problemau defnyddio'r gwasanaethau dydd gan nad ydynt yn
gweithredu'n llwyr eto. Diolchodd hefyd i'r holl staff am eu hymdrechion. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cynghorydd Sue Jones am y diweddariad. Penderfynwyd nodi'r diweddariad. |
|
Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith. PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd yr Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith Penderfynwyd y bydd yr Adroddiadau Craffu - Adroddiad Effaith yn mynd gerbron y cyngor. |
|
Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. PDF 238 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am aelodaeth paneli a gweithgorau craffu. Penderfynwyd cymeradwyo aelodaeth y Gweithgor Craffu Dinas Iach fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Waith Craffu. PDF 261 KB Trafodaeth am: a)
Gynllun Gwaith y Pwyllgor. b)
Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu. c)
Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad am y Rhaglen Waith Craffu. Trefnwyd cynnal
cyfarfod nesaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 19 Mis Hydref 2021. Y prif eitemau a
drefnwyd oedd diweddariad ar y Cynllun Adfer a Thrawsnewid a'r Adroddiad
Diogelu Corfforaethol Blynyddol. Trefnwyd i'r Cadeirydd Llywodraethu a'r
Pwyllgor Archwilio fynd i'r cyfarfod. Penderfynwyd nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar 'Lythyrau Craffu' er gwybodaeth. Cafodd llythyr ei
gynnwys oddi wrth y Gweithgor Gwasanaethau Bysus. Byddai hyn yn cael ei symud
ymlaen i'r cyfarfod nesaf er mwyn i'r Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, siarad
â'r pwyllgor am waith y gweithgor. Penderfynwyd gohirio'r ohebiaeth sy'n ymwneud â Gweithgor y Gwasanaethau Bysus tan y cyfarfod nesaf, a'i drafod bryd hynny. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. PDF 196 KB Cofnodion: Nodwyd dyddiadau
ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau. |
|
Letter to Cabinet Member - Environment Enhancement & Infrastructure Management PDF 255 KB |
|