Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Rhaglen Chraffu
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Sbwriel a Glanhau'r Gymuned
Roedd Aelod y
Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a swyddogion yn bresennol i
ystyried yr adroddiad ar sbwriel a glanhau'r gymuned.
Tynnodd yr Aelod
Cabinet sylw at effaith y pandemig ar y gwasanaeth a
staff a diolchodd i'r holl staff am eu gwaith a'u hymdrech barhaus yn ystod
cyfnod mor anodd. Cafwyd swm digynsail o sbwriel yn ystod y cyfnod hwn, yn
ogystal â'r cyfyngiadau ar faint o staff a allai deithio mewn cerbyd gyda'i
gilydd. Roedd gwaith dal i fyny'n parhau ac roedd 15
aelod ychwanegol o staff wedi'u cyflogi.
Cydnabu'r
pwyllgor fod gwaith y staff wedi bod yn rhagorol yn ystod y pandemig,
a chanmolwyd aelodau unigol hefyd am helpu i ddelio â sbwriel yn eu wardiau.
Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: -
·
Perfformiadau
a thueddiadau o ran yr Archwiliad Amgylcheddol Lleol a Systemau Rheoli (LEAMS)
- dull monitro oedd hwn o raddio glendid strydoedd a wiriwyd ac a ddilyswyd yn
annibynnol.
·
Defnyddio
cyllidebau Cynghorwyr Cymunedol ar gyfer gwasanaethau glanhau - darparwyd
costau a lefel y gwasanaeth
·
Ymateb
y gwasanaeth i sbwriel a materion glanhau'r gymuned - roedd y gwasanaeth yn
ceisio ymdrin â cheisiadau brys o fewn diwrnod a cheisiadau safonol o fewn 5
niwrnod.
·
Tipio
anghyfreithlon - adnoddau i ymdrin â thipio anghyfreithlon a chymariaethau ag
awdurdodau cyfagos. Y broses o ymdrin â'r sawl sy'n tipio'n anghyfreithlon dro
ar ôl tro a chludwyr gwastraff didrwydded - nodwyd ymgyrch ar y cyd ddiweddar
gyda Heddlu De Cymru yr oedd y canlyniadau hyn i'w cyhoeddi'n fuan
·
Baw
cŵn - roedd y cyngor wedi mabwysiadu ymagwedd ymgysylltu, addysgu ac yna
gorfodi fel dewis olaf, a thynnwyd sylw at anawsterau gorfodi a dal
tramgwyddwyr
·
Gorfodi
- cafwyd trafodaeth ynghylch rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau o gosb benodol
fel ataliad yn ogystal ag ystyried negeseua cyhoeddus e.e. rhybuddion o erlid
ar gerbydau'r cyngor. Nodwyd bod yr ymgyrch 'Paid â thaflu sbwriel' wedi tynnu
sylw pobl.
·
Sbwriel
a draenio - glanhau wyneb gorchuddion draeniau - yn cael ei gynnwys yn
archwiliad arferol y tîm glanhau strydoedd er mwyn galluogi timau gylïau i
ymdrin â draeniau blociedig - darparwyd gwell
gwasanaeth am oddeutu 3 mis yn ystod tymor cwymp y dail
·
Gwelliant
- clywyd bod y gwasanaeth yn gweithio ar brosiect datrysiadau digidol ar gyfer
glanhau a fydd yn cysylltu tipio anghyfreithlon, casgliadau gwastraff swmpus
etc.
·
Effaith
taflu sbwriel ar fywyd gwyllt - trafodwyd y posibilrwydd o gynyddu
ymwybyddiaeth y cyhoedd yn fwy o effaith taflu sbwriel ar fywyd gwyllt.
·
Casglu
sbwriel o draethau - dywedwyd wrthynt am lefelau uchel o sbwriel yn enwedig yn
ystod tymor yr haf, ac yn enwedig dros y 2 haf diwethaf yn ystod y pandemig oherwydd partïon niferus ar y traeth - trafodwyd y
posibilrwydd o godi sbwriel yn gynharach fel bod y traethau'n lân ar gyfer y
rheini sy'n nofio'n gynnar yn y bore.
·
Tîm
Gweithredu Amgylcheddol Cymdogaethau (NEAT) adnabyddus i - does dim bwriad i
ailgychwyn ar hyn o bryd, ond roedd yn boblogaidd iawn ac roedd pawb yn awyddus
i ailddechrau unwaith bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadarnhau ei fod yn
bosib ac yn ddiogel gwneud hynny
Polisi Ynni gan gynnwys cynhyrchu, cyflenwi a
gwresogi rhanbarthol
Roedd Aelod y
Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau a swyddogion yn
bresennol er mwyn ystyried yr adroddiad ar Sbwriel a'r Strategaeth Ynni.
Diolchodd y
Cynghorydd Lewis y tîm am eu gwaith caled yn y maes hwn - roeddent yn dîm bach
y dywedodd hithau eu bod yn gwneud pethau rhyfeddol.
Roedd y
cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: -
·
Llywodraethu
- aelodaeth a llywodraeth Bwrdd y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd a'r Grŵp
Llywio Newid yn yr Hinsawdd.
·
Cyflenwad
nwy'r cyngor - eglurhad o nwy gwyrdd, y gwahaniaeth rhwng nwy gwyrdd a nwy
naturiol ac i ba raddau y mae'n cael ei ddefnyddio.
·
Dyfodol
y grid a ffynonellau pŵer fel hydrogen, nwyon gwyrdd etc. - maes sy'n
esblygu'n gyson a thechnoleg sy'n
datblygu'n gyson
·
Cynnig
sy'n cael ei arwain gan y brifysgol ar gyfer gorsaf tanwydd hydrogen ar Fabian Way
·
Tyrbinau
hydrogen bach yn ardal y dociau ac ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio coredau
afonydd
·
Cynnydd
o ran y Morlyn Llanw - mae'r cyngor yn ymrwymedig i Ynys Ynni'r Ddraig ac mae
cais wedi'i gyflwyno'n ddiweddar i Gronfa Ynni Cymunedol Llywodraeth y DU i
helpu i baratoi achos busnes amlinellol.
·
Defnyddio
£1.3 miliwn ar gyfer prosiect Cam 1 RE:FIT Cymru (Effeithlonrwydd Ynni) -
uwchraddio goleuadau LED, deunydd insiwleiddio adeiladau, paneli solar ar doeon
etc.
·
Cynnydd
o ran y fferm solar - rhagwelwyd y byddai'r cais arfaethedig yn cael ei
gyflwyno o gwmpas mis Ionawr 2022.
·
Posibilrwydd
o ailgyflwyno cymhorthdal ar fylbiau golau ynni isel
·
Yr
hyn y gallai awdurdodau lleol ei wneud i gefnogi'r argyfwng newid hinsawdd ymhellach
a pha adnoddau, cyllid a phwerau y byddai eu hangen er mwyn gwneud mwy - rôl i
aelodau hyrwyddo'r agenda yn y gymuned h.y. cefnogi busnesau i gael grantiau
etc.
Diolchwyd Aelod y
Cabinet a'r Swyddogion gan y Cadeirydd
Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelodau'r Cabinet i adlewyrchu'r trafodaethau a rhannu barn y pwyllgor.
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/09/2021 - Pwyllgor Rhaglen Chraffu
Dogfennau Cefnogol: