Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Mr J Bowen - Eitem 6 yr Agenda (Ysgol Gynradd Casllwchwr) - Personol a niweidiol - fel Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol ac fe adawodd cyn i'r drafodaeth ddechrau.

 

Y Cynghorydd D G Sullivan - Eitem 7 yr Agenda (1) - Personol - Rwy'n adnabod un o'r ymgeiswyr (fel y cyhoeddwyd yn flaenorol)

 

2.

Cofnodion: pdf eicon PDF 56 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2017 yn gofnod cywir.

 

3.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 59 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl.

 

4.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

 

5.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol Gynradd Brynmill - y Cynghorydd Peter May (Ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd Casllwchwr - Mr John Butler (Ailbenodiad) (Sylwer: bu Mr J Lee (Is-Gadeirydd) yn llywyddu ar gyfer yr eitem hon yn unig.)

 

Ysgol Gynradd y Glais - Mr Mark James (Ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd Hendrefoelan - Mrs Kathryn Novis

 

Ysgol Gynradd Treforys - Mr Stephen Griffiths

 

Ysgol Gynradd Sgeti - Mrs Deborah Monaghan

 

Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff - Mr Joseph Blackburn

 

Ysgol Gynradd Waun Wen - Mrs Jeanette Simpson

 

Ysgol Gyfun Gellifedw - Mrs Catherine Watkins

 

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas - Mr Dereck Roberts a Mrs Ann Cook (Ailbenodiadau)

 

Ysgol Gyfun Treforys - Mr Graham Hanford (Ailbenodiad)

 

YGG Bryn-y-môr - Mrs Angharad Brown (Ailbenodiad)

a Mrs Saran Thomas

 

YGG Lôn-las - y Parch Eirian Wyn (Ailbenodiad)

 

YG Gŵyr - Miss Aldyth Williams (Ailbenodiad)

 

 

 

 

 

6.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.