Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023 - 2024. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd J P Curtice Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd J P Curtice yn
Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024. (Bu'r Cynghorydd J P Curtice yn llywyddu) |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2023 - 2024. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd W G Lewis Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd W G Lewis yn
Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion
Cyfarfodydd y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 22 Medi 2022 fel
cofnod cywir. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd Polisi
Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd Teithio
gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Llywodraeth
Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol
fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol.
Penderfyniad: Apêl
a ganiateir Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim
o'r cyfeiriad cartref i Goleg Gŵyr Abertawe. Yna cyflwynodd
rhieni’r disgybl a'u cynrychiolydd cyfreithiol sylwadau llafar i’r Pwyllgor i
gefnogi eu cyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellwyd amgylchiadau penodol eu
hapêl mewn perthynas â’r plentyn a’i amgylchiadau a’i amodau personol. Cyfeiriwyd at y
dystiolaeth a gyflwynwyd yn flaenorol a chyfeiriwyd at y dogfennau ychwanegol a
gyflwynwyd y diwrnod cyn y cyfarfod. Gwnaeth
swyddogion yr adrannau Addysg a Thrafnidiaeth sylwadau llafar hefyd i gefnogi
eu cyflwyniadau ysgrifenedig, fel y gwnaeth y swyddog o Goleg Gŵyr
Abertawe. Amlinellwyd y
materion ynghylch y polisi a oedd yn ymwneud â'r pellter o'r eiddo i'r ysgol, y
llwybrau cerdded/bws sydd ar gael ac argaeledd rhieni i gludo'r plentyn i'r
ysgol ac amgylchiadau teuluol ychwanegol y manylwyd arnynt gan y swyddogion i'r
pwyllgor. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd
yn briodol. Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig a wnaed gan y rhiant yn
llawn. Penderfynwyd: - 1)
Cadarnhau'r
apêl ar ran y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn
teimlo bod amgylchiadau eithriadol i'r achos. 2)
Bydd
y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Adran Addysg yn cydweithio i ddod o hyd i'r
ffordd fwyaf cost-effeithiol o gludo'r disgybl ac aelod arall o'r teulu i'w
sefydliad addysg presennol. 3)
Er
lles pennaf y plentyn, bydd yn parhau yn ei sefydliad addysgol presennol. |