Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Clywodd y
Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim
o'r cyfeiriad cartref i Goleg Gŵyr Abertawe.
Yna cyflwynodd
rhieni’r disgybl a'u cynrychiolydd cyfreithiol sylwadau llafar i’r Pwyllgor i
gefnogi eu cyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellwyd amgylchiadau penodol eu
hapêl mewn perthynas â’r plentyn a’i amgylchiadau a’i amodau personol.
Cyfeiriwyd at y
dystiolaeth a gyflwynwyd yn flaenorol a chyfeiriwyd at y dogfennau ychwanegol a
gyflwynwyd y diwrnod cyn y cyfarfod.
Gwnaeth
swyddogion yr adrannau Addysg a Thrafnidiaeth sylwadau llafar hefyd i gefnogi
eu cyflwyniadau ysgrifenedig, fel y gwnaeth y swyddog o Goleg Gŵyr
Abertawe.
Amlinellwyd y
materion ynghylch y polisi a oedd yn ymwneud â'r pellter o'r eiddo i'r ysgol, y
llwybrau cerdded/bws sydd ar gael ac argaeledd rhieni i gludo'r plentyn i'r
ysgol ac amgylchiadau teuluol ychwanegol y manylwyd arnynt gan y swyddogion i'r
pwyllgor.
Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd
yn briodol.
Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig a wnaed gan y rhiant yn
llawn.
Penderfynwyd: -
1)
Cadarnhau'r
apêl ar ran y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn
teimlo bod amgylchiadau eithriadol i'r achos.
2)
Bydd
y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Adran Addysg yn cydweithio i ddod o hyd i'r
ffordd fwyaf cost-effeithiol o gludo'r disgybl ac aelod arall o'r teulu i'w
sefydliad addysg presennol.
3)
Er
lles pennaf y plentyn, bydd yn parhau yn ei sefydliad addysgol presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2024
Dyddiad y penderfyniad: 08/01/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/01/2024 - Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau
Dogfennau Cefnogol: