Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

38.

Cofnodion. pdf eicon PDF 280 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021 fel cofnod cywir.

 

39.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

 

Croesawodd y Cadeirydd y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r trefniadau ariannu carlam newydd ar gyfer y Fargen Ddinesig. Bydd hyn yn caniatáu i arian gael ei dderbyn ar gyfer cynlluniau yn llawer gyflymach nag o'r blaen.

 

40.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

41.

Adroddiad Monitro Ariannol - Swydd Rhagolwg Bargen Dinas Bae Abertawe. pdf eicon PDF 895 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Chris Moore (Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cyd-bwyllgor o'r sefyllfa alldro a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn mewn perthynas â'r Cyd-bwyllgor a'r Gronfa Buddsoddi mewn Portffolio.

 

Penderfynwyd y dylid derbyn a chymeradwyo cyfrifon blynyddol y Cyd-bwyllgor a'r sefyllfa alldro a ragwelir ar gyfer y Gronfa Buddsoddi mewn Portffolio.

 

 

42.

Adroddiad Amlygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes (Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe)  adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyd-bwyllgor am gynnydd y gwahanol raglenni a phrosiectau sy'n rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Amlinellodd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r meysydd canlynol:

·         Isadeiledd digidol

·         Prosiect Morol Doc Penfro

·         Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer

·         Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel

·         Campysau Gwyddor Bywyd a Lles

·         Pentre Awel

·         Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau

·         Sgiliau a Doniau

·         Yr Egin

 

43.

Recriwtio mewn Perygl. pdf eicon PDF 593 KB

Cofnodion:

.Cyflwynodd Chris Moore (Swyddog Adran 151 Dinas-ranbarth Bae Abertawe) adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Cyd-bwyllgor mewn perthynas â'r risgiau o recriwtio staff ar gyfer rhaglenni rhanbarthol, cyn cymeradwyo achosion busnes.

 

Amlinellodd yr opsiynau a'r cynigion ar gyfer rhannu'r risgiau ymysg y pedwar awdurdod.

 

Penderfynwyd  

1) adolygu a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

2) bod argymhellion arfaethedig y swyddog o ran opsiwn 2 ac opsiwn B (yr adroddiad) mewn perthynas â'r risgiau sy'n gysylltiedig â recriwtio timau rheoli rhaglenni rhanbarthol cyn cymeradwyo achosion busnes yn cael eu cymeradwyo.

 

</AI7>

<AI8>

 

44.

Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Phil Ryder  (Rheolwr y Swyddfa Rheoli Portffolio) ddiweddariad llafar i'r Cyd-bwyllgor a oedd yn amlinellu bod naratif yr adroddiad wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau, Swyddogion a Phartneriaid er mwyn iddynt wneud sylwadau erbyn 18 Mawrth 2021.

 

Yn yr adroddiad mae adolygiad o'r deuddeg mis diwethaf o weithgareddau, gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer y deuddeng mis nesaf, adroddiadau cynnydd o bob un o'r prosiectau, diweddariad i'r strwythur llywodraethu, crynodeb risg a gwybodaeth monitro a gwerthuso.

 

Yn dilyn sylwadau ac adborth, gellir cwblhau'r adroddiad a'i gynllunio'n broffesiynol cyn bwriadu ei ryddhau ym mis Mai.

 

 

45.

Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 576 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Jonathan Burnes (Cyfarwyddwr Rhaglen Dinas-ranbarth Bae Abertawe) ac Ian Williams (Rheolwr Datblygu Portffolio) adroddiad a oedd yn darparu Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig wedi'i ddiweddaru i'r Cyd-bwyllgor ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

Mae'n ofynnol cyflwyno'r ddogfen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

Amlinellwyd a chyfeiriwyd at y meysydd canlynol a gynhwysir gyda'r ddogfen:

·         Diben yr adroddiad a'r model 5 achos;

·         Prif newidiadau;

·         Hyfywedd economaidd;

·         Crynodeb o'r Buddsoddiad a'r Effaith;

·         Fforddadwyedd;

·         Tebygolrwydd o gyflawni;

·         Llinell amser a chynnydd y prosiect;

·         Blaenoriaethau wrth symud ymlaen:

 

Nodwyd y dylid ystyried yr adroddiad ar y cyd ag eitem 12 yr agenda sy'n rhoi atodiadau masnachol sensitif ychwanegol i'r Cyd-bwyllgor o ran fersiwn ddiweddaraf Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo fersiwn ddiweddaraf Achos Busnes Portffolio BDBA a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

 

 

46.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

47.

Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams (Rheolwr Datblygu Portffolio) adroddiad "er gwybodaeth" a ystyriwyd ar y cyd ag eitem 10 ar yr agenda.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi atodiadau masnachol sensitif ychwanegol i'r Cyd-bwyllgor o ran fersiwn ddiweddaraf Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig, y cytunwyd arni.