Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

49.

Cofnodion. pdf eicon PDF 89 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod

cywir

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir

50.

Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

51.

Arweiniad i awdurdodau lleol ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad 'er gwybodaeth' a amlinellodd ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

52.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Llwybr Cyhoeddus Honedig ar hyd Heol Rhyd, Craig-cefn-parc yng nghymuned Mawr. pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, adroddiad ar ran Pennaeth Dros Dro'r  Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ystyried a ddylid derbyn neu wrthod y cais i wneud Gorchymyn Addasu i gofnodi llwybr cyhoeddus ar hyd Heol Rhyd, Craig-cefn-parc ar Fap a Datganiad Diffiniol Hawliau Tramwy Cyhoeddus y cyngor.

 

Cafodd yr hanes cefndir, arfarniad o'r dystiolaeth a gyflwynywyd, y gwrthwynebiadau a'r sylwadau o blaid eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn y cais a gwneud gorchymyn addasu.

 

53.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod gyda (#)

 

PENDERFYNWYD:

 

(1)            CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

(Eitem 1) Cais Cynllunio 2016/1860 - 115 Teras Rhydings, Brynmill, Abertawe

 

Anerchodd y Cynghorydd Nick Davies (Cynghorydd Ward Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

#(Eitem 3) Cais Cynllunio 2016/1553 - 101 a 101A, Heol Port Tennant, Abertawe

 

Anerchodd C E Lloyd a J A Hale (Aelodau Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

(Eitem 5) Cais Cynllunio 2016/1523 – Tŷ Sun Alliance, Heol San Helen, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar gwblhau cytundeb Adran 106 a'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

2) GWRTHOD y ceisiadau cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod:

 

(Eitem 2) Cais Cynllunio 2016/3076 - 124 Rhodfa San Helen, Brynmill, Abertawe

 

Anerchodd y Cynghorydd Nick Davies (Cynghorydd Ward Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

GWRTHODWYD y cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol:

 

Byddai'r cynnig, ar y cyd â Thai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn Rhodfa San Helen yn arwain at grynhoad niweidiol o HMO yn y stryd a'r ardal ehangach.  Byddai'r effaith gronnus hon yn arwain at niweidio cymeriad yr ardal a chydlynad cymdeithasol gyda lefelau uwch o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd tymor hir a theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath effaith, yn y tymor hir, yn arwain at gymunedau na fyddent yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O ganlyniad, mae'r cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun Datblygu Unedol Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9 Tachwedd 2016), sef creu cymunedau cymysg cynaliadwy a chynhwysol.

 

(3) Caiff y cais cynllunio isod ei GYMERADWYO a'i GYFEIRIO at CADW ac yn destun yr amodau diwygiedig nodir isod:

 

#(Eitem 4) Cais Cynllunio 2016/3287/LBC - Pont Rufeinig, Mill Lane, Maylas, Abertawe

 

Anerchodd Gordon Gibson a Tim McCarthy (gwrthwynebwyr) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cynllun.

 

Anerchodd Chris Grigson (ymgeisydd) y Pwyllgor gan siarad o blaid y cais.

 

Anerchodd y Cynghorwyr Linda Tyler-Lloyd a Cheryl Philpott (Cynghorwyr Ward Lleol) y Pwyllgor gan siarad o blaid y cynllun.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Adroddwyd am 1 llythyr arsylwi hwyr. Adroddwyd am 1 llythyr gwrthwynebu hwyr . Adroddwyd am 8 llythyr cefnogi hwyr.

 

Diwygiwyd amodau 1 a 2 i ddarllen fel y ganlyn:

 

1.     O fewn 3 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn caiff strategaeth ysgrifenedig ei chyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer cywiro'r llethrau ochr planedig a fydd hefyd yn cynnwys cynllun ar gyfer rheoli'r llystyfiant. Caiff y cynllun cymeradwy ei roi ar waith ar y safle o fewn 3 mis i ddyddiad  cymeradwyo’r manylion ac ar ôl hynny cychwynnir plannu yn unol â'r strategaeth gymeradwy. 

 

2.     O fewn 3 mis i ddyddiad y penderfyniad hwn caiff cynllun ysgrifenedig ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn dangos adleoliad y gatiau a'r ffens i leoliad y tu allan i'r ardal restredig. Caiff y cynllun cymeradwy ei roi ar waith ar y safle o fewn 3 mis i'r dyddiad y cymeradwyir manylion.

 

 

54.

Cais cynllunio 2016/1604 - Newid defnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO ar gyfer 4 o bobl (Dosbarth C4) - 3 Stryd Lewis, St Thomas, Abertawe. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad wedi'i ddiweddaru ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Cafodd y cais ei ohirio dan y broses bleidleisio dau gam yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr er mwyn darparu rhagor o gyngor o ran y rhesymau posib dros wrthod a godwyd gan Aelodau.

 

Manylwyd ar y prif faterion mewn perthynas â'r rhesymau posib dros wrthod yn yr adroddiad, yn ogystal â'r cyngor o ran cyfreithlonedd, neu fel arall, y rhesymau a'r cyngor o ran costau gan y Swyddfa Gymreig.

 

Nodwyd nad oedd argymhelliad y swyddog i gymeradwyo'r cais wedi newid.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd y Cynghorwyr Clive Lloyd a Joe Hale (Cynghorwyr Ward Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais.

 

PENDERFYNWYD GOHIRIO'R  cais cynllunio dan y broses bleidleisio dau gam er mwyn cynnal arolwg parcio o'r stryd ac ystyried effaith y datblygiad ar amwynder drwy rinwedd 'aflonyddiad arall' dan feini prawf (i) Polisi HC5.

 

55.

Canllawiau cynllunio atodol ar dai amlfeddiannaeth a llety myfyrwyr pwrpasol - Drafft at ddiben ymgynghori. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad a oedd yn darpau trosolwg o'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) drafft ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr ac yn ceisio caniatâd i ymgymryd ag ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus â rhanddeiliaid.

 

Amlinellwyd cefndir CCA arfaethedig, cyd-destun y cynllunio a'r polisi, sylfaen y dystiolaeth, yr argymhellion arfaethedig, yr ardaloedd yr effeithir arnynt ac amserlen yr ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r CCA drafft fel y'u hatodir yn atodiad A gael eu cymeradwyo at ddiben ymgynghoriad cyhoeddus.

 

56.

Mabwysiadu canllaw dylunio blaenau siopau a thu blaenau masnachol fel canllawiau cynllunio atodol. pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad oedd yn darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynglŷn â'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad diweddar ar Canllaw Dylunio Blaenau Siopau ac Thu Blaenau Masnachol ac i gytuno ar y diwygiadau arfaethedig i'r canllaw drafft a'i fabwysiadu fel canllawiau cynllunio atodol (CCA).

 

PENDERFYNWYD

 

1)    Y dylid cytuno ar y diwygiadau arfaethedig i'r Canllaw Dylunio Blaenau Siopau a Thu Blaenau Masnachol fel y'u hamlinellir yn atodiad B yr adroddiad.

 

2)    Y dylid cymeradwyo’r CCA, fel y'u diwygiwyd.

 

3)    Y dylid cytuno ar y Canllaw Arweiniad Dylunio Blaenau Siopau ac Thu Blaenau Masnachol fel canllaw cynllunio atodol a’i fabwysiadu.