Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

119.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Cyfreithiol gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib a all fod gan gynghorwyr a/neu swyddogion ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" dim ond os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan. Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan. Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr S Bennett, P N Bentu, J P Curtice, C M J Evans, C A Holley, E J King, J W Jones, L R Jones, M H Jones, H Lawson, P Lloyd, N L Matthews, K M Roberts, M S Tribe a T M White  gysylltiad personol â Chofnod Rhif 126 "Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2024/25 - 2026/27".

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, J P Curtice, P Downing, M Durke, C M J Evans, C R Evans, V M Evans, E W Fitzgerald, L S Gibbard, K M Griffiths, J A Hale, C A Holley, D H Jenkins, J W Jones, L R Jones, M Jones, M H Jones, E J King, H Lawson, M B Lewis, R D Lewis, N L Matthews, P N May, F D O’Brien, A Pugh, S J Rice, K M Roberts, R V Smith, A H Stevens, M S Tribe a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 128 "Cyllideb Refeniw 2023/24".

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, J P Curtice, M Durke, C M J Evans, V M Evans, L S Gibbard, F M Gordon, H J Gwilliam, C A Holley, L James, J W Jones, M Jones, L R Jones, M H Jones, S A Joy, H Lawson, P M Matthews, A S Lewis, W G Lewis, N L Matthews, P N May, A Pugh, K M Roberts, R V Smith, A H Stevens, L V Walton a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 130 "Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23- 2027/28".

 

4)              Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 129 "Cyllideb Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2023/24”.

 

5)              Datganodd y Cynghorydd T J Hennegan gysylltiad personol â Chofnod 131 "Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2026/27”.

 

6)              Datganodd y Cynghorydd S Bennett gysylltiad personol â Chofnod Rhif 132 "Penderfyniadau i'w Gwneud yn Unol â Rheoliadau Pennu Treth y Cyngor 2023/24”.

120.

Cofnodion. pdf eicon PDF 421 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo'r cofnodion canlynol a'u llofnodi fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod Cyffredin y cyngor a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023 yn amodol ar ddiwygio Cofnod Rhif 108 "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" i gynnwys y Cynghorwyr R D Lewis a F D O'Brien fel rhai a ddatganodd gysylltiad personol â Chofnod Rhif 115 "Datganiad Polisi Cyflog 2023/24".

121.

Ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Diwethaf y Cyngor. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi'r ymatebion ysgrifenedig i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod cyffredin diwethaf o'r cyngor.

122.

Cyhoeddiadau'r Aelod Llywyddol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

 

Cofnodion:

a)              Coleg Gŵyr Abertawe - Gwobrau Prentisiaethau 2023

 

Llongyfarchodd yr Aelod Llywyddol bump o weithwyr Cyngor Abertawe a'r cyngor ei hun am lwyddiant yng ngwobrau Prentisiaeth 2023 Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar.

 

Cynhelir y Gwobrau'n flynyddol i ddathlu'r llu o gynlluniau prentisiaeth llwyddiannus sy'n cael eu rhedeg gan Goleg Gŵyr Abertawe. Mae'r gwobrau'n cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan brentisiaid, cyflogwyr a staff y Coleg dros flwyddyn. Llongyfarchiadau i:

 

Ø    Cieron Redden – Prentis Gosod  Brics y Flwyddyn.

Ø    Louise Rigby – Prentis Cymorth Cymwysiadau Digidol y Flwyddyn.

Ø    Christopher Davies – Prentis Arweinyddiaeth a Rheoli'r Flwyddyn.

Ø    Jemma Davies – Prentis Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol y Flwyddyn.

Ø    Iestyn Thomas – Prentis Cefnogi Dysgu ac Addysgu'r Flwyddyn.

Ø    Cyngor Abertawe – Prentis Gyflogwr y Flwyddyn (250+ o gyflogwyr).

123.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Dim

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau.

124.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Penderfyniad:

Nodwyd

Cofnodion:

Gofynnodd pedwar aelod o'r cyhoedd gwestiynau. Roedd y cwestiynau'n ymwneud ag Eitem 19 "Cwestiynau'r Cynghorwyr - Cwestiynau 3 a 5 ac Eitem 9 "Cyllideb Refeniw 2023/24".

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth ac Arweinydd y Cyngor.

125.

Adroddiadau Cyllideb - Trosolwg o'r Cyflwyniad.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 adroddiad technegol bras mewn perthynas â'r adroddiadau am y gyllideb. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol cyffredinol.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor adroddiad bras am y gyllideb.

 

Dywedodd yr aelod llywyddol y dylid gofyn cwestiynau penodol ynghylch adroddiadau unigol a'u trafod pan fyddai’r adroddiad hwnnw'n cael ei drafod.

126.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2024/25 - 2026/27. pdf eicon PDF 1003 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, gan fanylu ar y prif dybiaethau ariannu ar gyfer y cyfnod ac yn cynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25 i 2026/27 fel sail am gynllunio ariannol ar gyfer gwasanaethau'r dyfodol.

127.

Council Procedure Rule 4 "Smoking / Refreshments / Mobile Phones / Comfort Break.

Penderfyniad:

Yn unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso egwyl tŷ bach o 10 munud.

Cofnodion:

Yn unol â Rheol 4 Gweithdrefn y Cyngor gohiriodd yr Aelod Llywyddol y cyfarfod er mwyn hwyluso egwyl tŷ bach o 10 munud.

128.

Cyllideb Refeniw 2023/24. pdf eicon PDF 2 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Nododd yr Aelod Llywyddol y broses y byddai'n ei dilyn ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 yr adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariad bach ynghylch ffigur setliad terfynol y grant llywodraeth leol. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau technegol i'r Swyddog Adran 151. Ymatebodd Swyddog Adran 151.

 

Cynigiwyd yr adroddiad gwreiddiol gan y Cynghorydd R C Stewart. Eiliwyd gan y Cynghorydd D H Hopkins.

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol fod tri diwygiad i'r gyllideb wedi dod i law. Un o Grŵp Uplands, un o'r Grŵp Ceidwadol ac un gan y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau

 

Diwygiad Grŵp Uplands

Cynigiwyd gan y Cynghorydd S J Rice. Eiliwyd gan y Cynghorydd S A Joy.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

i)                 Lleihau’r Ddarpariaeth Chwyddiant Ynni ar gyfer 2023/25 o £15m i £12.658 (gan arbed £2.342m).

 

ii)               Cynyddu Treth y Cyngor 4.95% yn hytrach na 5.95% (cost o £1.342m).

 

iii)              Dileu cynyddu Gwasanaethau Cymdeithasol - Gwasanaethau i Oedolion Cynyddu cyfraniad cleientiaid ac adolygu'r holl ffïoedd a chostau er mwyn cynnwys cynnydd chwyddiant amcangyfrifedig o 10% yn unol â chyfyngiadau gwariant (cost o £1m) ar Dudalen 84.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, methodd y diwygiad.

 

Diwygiad y Grŵp Ceidwadol

Cynigiwyd gan y Cynghorydd W G Thomas. Eiliwyd gan y Cynghorydd L R Jones.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

Rydym ni (y Grŵp Ceidwadol) yn cynnig cael gwared ar y taliad cydnabyddiaeth ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau Datblygu Corfforaethol. Byddai hyn yn arbed £60,000 y flwyddyn yn fras. Cynigiwn y dylai’r cyllid hwn gael ei ddargyfeirio i gadw'r swydd wag bresennol yn y tîm Craffu a dylid defnyddio'r arian dros ben i leihau'r toriadau arfaethedig yn yr adran archwilio.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, methodd y diwygiad.

 

Diwygiad y Democratiaid Rhyddfrydol/Grŵp Annibynnol y Gwrthbleidiau

Cynigiwyd gan y Cynghorydd P M Black. Eiliwyd gan y Cynghorydd S Bennett.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

Mae'r gyllideb hon wedi gweld sawl cynnydd mewn sawl maes yn y cyngor o ran ffïoedd a thaliadau.

 

Hoffem awgrymu nad yw ffïoedd meysydd parcio'n cynyddu er mwyn annog defnydd o ardal canol y ddinas, sy'n brif egwyddor yn agenda adfywio'r cyngor.

 

Er mwyn annog y defnydd o ganol y ddinas a lleoliadau eraill, rydym hefyd yn awgrymu y dylai'r ap newydd ar gyfer Abertawe, a fydd yn rhoi ffïoedd parcio gostyngol i breswylwyr Abertawe, ddarparu gostyngiad o 25% oddi ar gostau tocynnau bysus ar lwybrau a dargedwyd. Dylai hyn gael ei drafod â’r cwmnïau bysus a dylid cynnal y cynllun peilot hwn am flwyddyn ynghyd â rhewi costau meysydd parcio yng nghanol y ddinas.

 

Dylid defnyddio arian wrth gefn y gronfa adferiad economaidd er mwyn ariannu'r rhain, a dylai hynny gostio £500,000.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, methodd y diwygiad.

 

Cynnig annibynnol

Cynhaliwyd trafodaeth ar y cynnig annibynnol.

 

Yn unol â Rheol 30 Gweithdrefn y Cyngor sef "Pleidlais", gofynnwyd am bleidlais gofnodedig. Cofnodwyd y bleidlais ar y newid fel a ganlyn:

 

O blaid (42 o gynghorwyr)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

C Anderson

J A Hale

P Lloyd

P N Bentu

T J Hennegan

N L Matthews

J P Curtice

V A Holland

P M Matthews

A Davis

D H Hopkins

D Phillips

P Downing

Y V Jardine

J E Pritchard

C R Doyle

D H Jenkins

S Pritchard

M Durke

M Jones

A Pugh

C R Evans

S E Keeton

K M Roberts

V M Evans

E J King

R V Smith

R A Fogarty

E T Kirchner

A H Stevens

R Francis-Davies

H Lawson

R C Stewart

L S Gibbard

A S Lewis

L V Walton

F M Gordon

M B Lewis

T M White

H J Gwilliam

W G Lewis

R A Williams

 

Yn erbyn (6 Cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

P R Hood-Williams

R D Lewis

A J O’Connor

L R Jones

F D O’Brien

W G Thomas

 

Ymwrthod (19 cynghorydd)

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

Y Cynghorwyr

M Bailey

L James

J D McGettrick

S Bennett

A J Jeffery

C L Philpott

P B Black

J W Jones

S J Rice

C M J Evans

M H Jones

B J Rowlands

N Furlong

S A Joy

L G Thomas

K M Griffiths

M W Locke

M S Tribe

C A Holley

-

-

 

Wedi gadael y cyfarfod oherwydd datganiad o fudd (0 cynghorydd)

Cynghorydd

Cynghorydd

Cynghorydd

-

-

-

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24 fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 fel y nodwyd yn Adran 9 yr adroddiad.

 

129.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2023/24. pdf eicon PDF 428 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Penderfynwyd cymeradwy'r cynigion ar gyfer y Gyllideb Refeniw fel y nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

130.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23- 2027/28. pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 - 2027-28.

 

Diwygiad Grŵp Uplands

Cynigiwyd gan y Cynghorydd S J Rice. Eiliwyd gan y Cynghorydd S A Joy.

 

Dyma'r diwygiad a gynigiwyd:

 

i)                Dileu Caffaeliad Canol y Ddinas a rhoi Rhaglen Gwella Effeithlonrwydd Ynni ac Ansawdd Aer Ysgolion (£2.825m) yn ei le ar dudalen 140.

 

Yn dilyn dadl a phleidlais, methodd y diwygiad.

 

Cynnig annibynnol

Cynhaliwyd trafodaeth ar y cynnig annibynnol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022-23 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 24-2024 – 2027-2028 fel y nodir yn Atodiadau A, B C, D, E, F a G yr adroddiad.

 

Sylwer: Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice, "Faint bydd yn cael ei wario ar atgyweirio ac adnewyddu ysgolion yn y flwyddyn sydd ar ddod?"

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

131.

Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2026/27. pdf eicon PDF 844 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2022/23 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 - 2026-27.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2022/23.

 

2)              Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2023/24 - 2026/27.

 

3)              Cymeradwyo'r cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B sydd wedi'u rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd.

132.

Penderfyniad statudol - dylid gwneud penderfyniadau yn unol â'r rheoliadau wrth bennu Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24. pdf eicon PDF 316 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn amlinellu sawl penderfyniad statudol i'w gwneud yn unol â'r Rheoliadau o ran gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023-2024.

 

O ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i Gyllideb Refeniw 2023-2024 a hefyd y newid i'r setliad gan Lywodraeth Cymru, newidiwyd y ffigurau yn y penderfyniad statudol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi a mabwysiadu'r penderfyniadau statudol fel y'u hamlinellwyd.

 

2)              Nodi bod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr 2022, wedi cyfrifo'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2023/2024 yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Adran 33(5) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i diwygiwyd):

 

a)              91,454 oedd y swm a gyfrifwyd gan y cyngor, yn unol â Rheoliad 3 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995, fel y'i diwygiwyd, fel ei sylfaen Treth y Cyngor am y flwyddyn.

 

b)              Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

2,006

Clydach

2,561

Gorseinon

3,232

Tre-gŵyr

1,966

Pengelli a Waungron

447

Llanilltud Gŵyr

343

Cilâ

2,131

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

517

Llangyfelach

943

Llanrhidian Uchaf

1,539

Llanrhidian Isaf

339

Casllwchwr

3,411

Mawr

755

Y Mwmbwls

9,909

Penllergaer

1,418

Pennard

1,539

Pen-rhys

483

Pontarddulais

2,299

Pontlliw a Thircoed

1,006

Porth Einon

467

Reynoldston

317

Rhosili

207

Y Crwys

698

Cilâ Uchaf

598

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd gan y cyngor, yn unol â Rheoliad 6 y Rheoliadau fel symiau ei sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal y mae eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

3)              Caiff y symiau canlynol eu cyfrifo gan y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2023/2024 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:

 

(a)            £876,287,922 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(2)(a) i (d) o'r Ddeddf.

 

(b)            £314,924,933 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodir yn Adrannau 32(3)(a), 32(3)(c) a 32(3a) o'r Ddeddf.

 

(c)            £561,362,989 yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfanswm yn 3(a) uchod a'r cyfanswm yn 3(b) uchod, ac mae'n swm a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf fel ei ofyniad cyllidebol ar gyfer y flwyddyn.

 

(d)            £417,864,475 yw cyfanswm y symiau y mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy i Gronfa'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chyfraddau annomestig wedi'u hailddosbarthu, a'r Grant Cynnal Refeniw heb gymorth trethi annomestig dewisol.

 

(e)            £1,549.08 yw'r swm yn (3)(c) heb y swm yn (3)(d) uchod, wedi'i rannu gan y swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, fel swm sylfaenol ei Dreth y Cyngor am y flwyddyn.

 

(f)              £1,829,076 yw cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o'r Ddeddf.

 

(g)            £1,549.08 yw'r swm yn (3)(e) heb y canlyniad a roddir trwy rannu'r swm yn (3)(f) uchod â'r swm yn (2)(a) uchod, a gyfrifwyd gan y cyngor yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, fel swm sylfaenol Treth y Cyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(h)            Rhannau o ardal y cyngor:

 

Llandeilo Ferwallt

1,588.96

Clydach

1,607.90

Gorseinon

1,591.08

Tre-gŵyr

1,566.31

Pengelli a Waungron

1,575.93

Llanilltud Gŵyr

1,568.58

Cilâ

1,560.58

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,564.36

Llangyfelach

1,580.89

Llanrhidian Uchaf

1,654.55

Llanrhidian Isaf

1,568.25

Casllwchwr

1,588.99

Mawr

1,641.80

Y Mwmbwls

1,609.97

Penllergaer

1,556.84

Pennard

1,608.33

Pen-rhys

1,575.98

Pontarddulais

1,608.91

Pontlliw a Thircoed

1,588.85

Porth Einon

1,566.21

Reynoldston

1,588.51

Rhosili

1,573.23

Y Crwys

1,592.17

Cilâ Uchaf

1,580.85

 

dyma'r symiau a roddwyd drwy adio'r swm yn (3)(e) uchod a symiau'r eitemau arbennig sy'n ymwneud ag anheddau yn y rhannau hynny o ardal y cyngor a grybwyllwyd uchod, sydd wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn (2)(b) uchod, a'u cyfrifo gan y cyngor yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, fel symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i anheddau yn rhannau hynny o'i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol iddynt.

 

(i)              Rhannau o ardal y cyngor:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,059.31

1,235.86

1,412.41

1,588.96

1,942.06

2,295.16

2,648.27

3,177.92

3,707.57

Clydach

1,071.93

1,250.59

1,429.24

1,607.90

1,965.21

2,322.52

2,679.83

3,215.80  

3,751.77

Gorseinon

1,060.72

1,237.51

1,414.29

1,591.08

1,944.65

2,298.23

2,651.80

3,182.16

3,712.52

Tre-gŵyr

1,044.21

1,218.24

1,392.28

1,566.31

1,914.38

2,262.45

2,610.52

3,132.62

3,654.72

Pengelli a Waungron

1,050.62

1,225.72

1,400.83

1,575.93

1,926.14

2,276.34

2,626.55

3,151.86

3,677.17

Llanilltud Gŵyr

1,045.72

1,220.01

1,394.29

1,568.58

1,917.15

2,265.73

2,614.30

3,137.16

3,660.02

Cilâ

1,040.39

1,213.78

1,387.18

1,560.58

1,907.38

2,254.17

2,600.97

3,121.16

3,641.35

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,042.91

1,216.72

1,390.54

1,564.36

1,912.00

2,259.63

2,607.27

3,128.72

3,650.17

Llangyfelach

1,053.93

1,229.58

1,405.24

1,580.89

1,932.20

2,283.51

2,634.82

3,161.78

3,688.74

Llanrhidian Uchaf

1,103.03

1,286.87

1,470.71

1,654.55

2,022.23

2,389.91

2,757.58

3,309.10

3,860.62

Llanrhidian Isaf

1,045.50

1,219.75

1,394.00

1,568.25

1,916.75

2,265.25

2,613.75

3,136.50

3,659.25

Casllwchwr

1,059.33

1,235.88

1,412.44

1,588.99

1,942.10

2,295.21

2,648.32

3,177.98

3,707.64

Mawr

1,094.53

1,276.96

1,459.38

1,641.80

2,006.64

2,371.49

2,736.33

3,283.60

3,830.87

Y Mwmbwls

1,073.31

1,252.20

1,431.08

1,609.97

1,967.74

2,325.51

2,683.28

3,219.94

3,756.60

Penllergaer

1,037.89

1,210.88

1,383.86

1,556.84

1,902.80

2,248.77

2,594.73

3,113.68

3,632.63

Pennard

1,072.22

1,250.92

1,429.63

1,608.33

1,965.74

2,323.14

2,680.55

3,216.66

3,752.77

Pen-rhys

1,050.65

1,225.76

1,400.87

1,575.98

1,926.20

2,276.42

2,626.63

3,151.96

3,677.29

Pontarddulais

1,072.61

1,251.37

1,430.14

1,608.91

1,966.45

2,323.98

2,681.52

3,217.82

3,754.12

Pontlliw a Thircoed

1,059.23

1,235.77

1,412.31

1,588.85

1,941.93

2,295.01

2,648.08

3,177.70

3,707.32

Porth Einon

1,044.14

1,218.16

1,392.19

1,566.21

1,914.26

2,262.30

2,610.35

3,132.42

3,654.49

Reynoldston

1,059.01

1,235.51

1,412.01

1,588.51

1,941.51

2,294.51

2,647.52

3,177.02

3,706.52

Rhosili

1,048.82

1,223.62

1,398.43

1,573.23

1,922.84

2,272.44

2,622.05

3,146.46

3,670.87

Y Crwys

1,061.45

1,238.35

1,415.26

1,592.17

1,945.99

2,299.80

2,653.62

3,184.34

3,715.06

Cilâ Uchaf

1,053.90

1,229.55

1,405.20

1,580.85

1,932.15

2,283.45

2,634.75

3,161.70

3,688.65

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

1,032.72

1,204.84

1,376.96

1,549.08

1,893.32

2,237.56

2,581.80

3,098.16

3,614.52

 

dyma'r symiau a gyfrifwyd drwy luosi'r symiau yn (3)(g) a (3)(h) uchod â'r nifer sydd, yn ôl cyfanswm y boblogaeth a nodwyd yn Adran 5 (1) Y Ddeddf, yn gymwys i anheddau a restrir mewn band prisio penodol, wedi'u rhannu â'r nifer sydd, yn y gyfran honno, yn gymwys i anheddau a restrir ym mand D a gyfrifir gan y cyngor yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, fel y symiau i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn mewn perthynas â chategorïau'r anheddau a restrir yn y bandiau prisio gwahanol;

 

4)              Nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi nodi'r symiau canlynol ar gyfer y flwyddyn 2023/2024 mewn preseptau a gyflwynwyd i'r cyngor yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

216.31

252.37

288.42

324.47

396.57

468.68

540.78

648.94

757.10

 

5)              Ar ôl cyfrifo'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn (3)(I) a (4) uchod, mae'r cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth leol 1992, yn gosod, trwy hyn, y symiau canlynol fel y symiau Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 ar gyfer pob un o'r categorïau anheddau a gaiff eu dangos isod:

 

 

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

Band

 

A

B

C

D

E

F

G

H

I

 

£

£

£

£

£

£

£

£

£

Llandeilo Ferwallt

1,275.62

1,488.23

1,700.83

1,913.43

2,338.63

2,763.84

3,189.05

3,826.86

4,464.67

Clydach

1,288.24

1,502.96

1,717.66

1,932.37

2,361.78

2,791.20

3,220.61

3,864.74

4,508.87

Gorseinon

1,277.03

1,489.88

1,702.71

1,915.55

2,341.22

2,766.91

3,192.58

3,831.10

4,469.62

Tre-gŵyr

1,260.52

1,470.61

1,680.70

1,890.78

2,310.95

2,731.13

3,151.30

3,781.56

4,411.82

Pengelli a Waungron

1,266.93

1,478.09

1,689.25

1,900.40

2,322.71

2,745.02

3,167.33

3,800.80

4,434.27

Llanilltud Gŵyr

1,262.03

1,472.38

1,682.71

1,893.05

2,313.72

2,734.41

3,155.08

3,786.10

4,417.12

Cilâ

1,256.70

1,466.15

1,675.60

1,885.05

2,303.95

2,722.85

3,141.75

3,770.10

4,398.45

Llangynydd, Llanmadog a Cheriton

1,259.22

1,469.09

1,678.96

1,888.83

2,308.57

2,728.31

3,148.05

3,777.66

4,407.27

Llangyfelach

1,270.24

1,481.95

1,693.66

1,905.36

2,328.77

2,752.19

3,175.60

3,810.72

4,445.84

Llanrhidian Uchaf

1,319.34

1,539.24

1,759.13

1,979.02

2,418.80

2,858.59

3,298.36

3,958.04

4,617.72

Llanrhidian Isaf

1,261.81

1,472.12

1,682.42

1,892.72

2,313.32

2,733.93

3,154.53

3,785.44

4,416.35

Casllwchwr

1,275.64

1,488.25

1,700.86

1,913.46

2,338.67

2,763.89

3,189.10

3,826.92

4,464.74

Mawr

1,310.84

1,529.33

1,747.80

1,966.27

2,403.21

2,840.17

3,277.11

3,932.54

4,587.97

Y Mwmbwls

1,289.62

1,504.57

1,719.50

1,934.44

2,364.31

2,794.19

3,224.06

3,868.88

4,513.70

Penllergaer

1,254.20

1,463.25

1,672.28

1,881.31

2,299.37

2,717.45

3,135.51

3,762.62

4,389.73

Pennard

1,288.53

1,503.29

1,718.05

1,932.80

2,362.31

2,791.82

3,221.33

3,865.60

4,509.87

Pen-rhys

1,266.96

1,478.13

1,689.29

1,900.45

2,322.77

2,745.10

3,167.41

3,800.90

4,434.39

Pontarddulais

1,288.92

1,503.74

1,718.56

1,933.38

2,363.02

2,792.66

3,222.30

3,866.76

4,511.22

Pontlliw a Thircoed

1,275.54

1,488.14

1,700.73

1,913.32

2,338.50

2,763.69

3,188.86

3,826.64

4,464.42

Porth Einon

1,260.45

1,470.53

1,680.61

1,890.68

2,310.83

2,730.98

3,151.13

3,781.36

4,411.59

Reynoldston

1,275.32

1,487.88

1,700.43

1,912.98

2,338.08

2,763.19

3,188.30

3,825.96

4,463.62

Rhosili

1,265.13

1,475.99

1,686.85

1,897.70

2,319.41

2,741.12

3,162.83

3,795.40

4,427.97

Y Crwys

1,277.76

1,490.72

1,703.68

1,916.64

2,342.56

2,768.48

3,194.40

3,833.28

4,472.16

Cilâ Uchaf

1,270.21

1,481.92

1,693.62

1,905.32

2,328.72

2,752.13

3,175.53

3,810.64

4,445.75

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Holl rannau eraill ardal y cyngor

1,249.03

1,457.21

1,665.38

1,873.55

2,289.89

2,706.24

3,122.58

3,747.10

4,371.62

 

133.

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw 2023/24, Adroddiad Adolygu Blynyddol Dros Dro Rheoli'r Trysorlys 2023/24, Rheoli'r Trysorlys 2021/22. pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodus, y Strategaeth Buddsoddi a'r Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2023/24 a nodi Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2022/2023.

 

Penderfynwyd

 

1)              Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus (Adrannau 2-7 yr adroddiad).

 

2)              Cymeradwyo'r Strategaeth Buddsoddi (Adran 8 yr adroddiad).

 

3)              Cymeradwyo'r Datganiad Darpariaeth Isafswm Refeniw (Adran 9 yr adroddiad).

 

4)              Nodi Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2022/23 (Atodiad H yr adroddiad).

 

5)              Nodi Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 (Atodiad I o'r adroddiad).

134.

Strategaeth Gyfalaf 2023/24- 2027/28. pdf eicon PDF 706 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio ac yn llywio'r rhaglen gyfalaf saith blynedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Strategaeth Gyfalaf 2022/23 - 2027/28.

135.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021/22. pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn cyflwyno drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 y cyngor, sy'n bodloni'r gofynion statudol i gyhoeddi adroddiad hunanasesu blynyddol ac adroddiad blynyddol ar les o dan Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu tro.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cyhoeddi'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 drafft ("yr Adolygiad").

136.

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Abertawe Adroddiad Adolygu a Amnewid. pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu canfyddiadau 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol CDLl Abertawe a gofynnodd am gymeradwyaeth i ymarfer ymgynghori gael ei gynnal ar Adroddiad Adolygu drafft CDLl Abertawe a Chytundeb Cyflawni CDLl Newydd Abertawe.

 

Penderfynwyd

 

1)              Nodi canfyddiadau 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol CDLl Abertawe (a atodir yn Atodiad A i'r adroddiad) a chyflwyno'r ddogfen i Lywodraeth Cymru.

 

2)              Nodi canfyddiadau Adroddiad Adolygu drafft CDLl Abertawe (a atodir yn Atodiad B i'r adroddiad) a chyflwyno'r ddogfen i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ymgynghori arni.

 

3)              Cymeradwyo Cytundeb Cyflawni drafft CDLl Newydd Abertawe (a atodir yn Atodiad C i'r adroddiad) er mwyn i'r cyhoedd a rhanddeiliad ymgynghori arni.

 

4)              Awdurdodi Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu'r Swyddog dirprwyedig priodol, i wneud unrhyw ddiwygiadau teipograffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r 3ydd Adroddiad Monitro Blynyddol, Adroddiad Adolygu drafft y CDLl a Chytundeb Cyflawni drafft y CDLl Newydd.

137.

Aelodaeth Pwyllgorau. pdf eicon PDF 112 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r enwebiadau/diwygiadau i wahanol Gyrff y Cyngor.

 

Penderfynwyd diwygio aelodaeth cyrff y cyngor a restrir isod fel a ganlyn:

 

Pwyllgor y Rhaglen Graffu

Tynnu'r Cynghorydd T J Hennegan

Ychwanegu lle Llafur gwag.

138.

Cwestiynau gan y Cynghorwyr. pdf eicon PDF 579 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth

Cofnodion:

1)       ‘Cwestiynau Atodol’ Rhan A’

 

Cyflwynwyd dau ar bymtheg (17) o 'Gwestiynau Atodol' ar gyfer Rhan A. Ymatebodd Aelod(au) perthnasol y Cabinet ar ffurf atebion ysgrifenedig a gynhwyswyd yng Ngwŷs y Cyngor.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

 

2)       ‘Cwestiynau nad oes angen Cwestiynau Atodol ar eu cyfer' Rhan B

 

Cyflwynwyd naw (9) ‘cwestiwn Rhan B nad oedd angen cwestiynau atodol ar eu cyfer’.