Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Mynegodd y Cynghorydd J A
Raynor gysylltiad personol â chofnod 177 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros, siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol; 2)
Mynegodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â chofnod 178 "Adeiladu Rhaglen Cynnal a Chadw
Cyfalaf 2019-2020”. |
||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019. |
||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu Cyfarfod Dywedodd yr Aelod
Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu
cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen
Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei
recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y
cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd
bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei
gyhoeddi ar-lein. 2)
Diwygiadau/Cywiriadau i Agenda'r Cabinet Eitem
12 "Dyfarnu'r Contract (Adeiladu) Cam Cyntaf ac Awdurdodi'r Rhaglen
Gyfalaf perthnasol ar gyfer y Prosiect Ailfodelu ac Ailwampio yn Ysgol Gyfun
Llandeilo Ferwallt.". Dywedodd Arweinydd y
Cyngor y dylid newid Argymhelliad 1 i ddarllen fel a ganlyn: “Penodi contractwr 4 i gynnal y gwasanaeth cyn adeiladu hyd at £392,000 yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy ariannol priodol. Ystyrir mai contractwr 4 yw'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd a'r un sy'n rhoi gwerth gorau i'r awdurdod”. |
||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd a oedd yn gysylltiedig
â chofnod rhif 174 “Trefniadaeth Ysgolion sy’n gysylltiedig â Chynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg - Gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a
Chynyddu Maint ac Ail-leoli YGG Tan-y-Lan ac YGG Tirdeunaw” a 175 “Adolygiad
ysgol bach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc”. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol. Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd BJ Rowlands y cwestiwn
canlynol yn ymwneud â chofnodion174 “Trefniadaeth Ysgolion sy’n gysylltiedig â Chynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg - Gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a
Chynyddu Maint ac Ail-leoli YGG Tan-y-Lan ac YGG Tirdeunaw” a 175 “Adolygiad
ysgol bach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc” “Pa gymorth a chefnogaeth a roddwyd i blant yr
ysgolion hyn i gynorthwyo eu lles meddyliol yn ystod y broses hon?” Nododd Aelod perthnasol y Cabinet y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
||||||||||||||||
Ymchwiliad Craffu i'r Amgylchedd Naturiol. PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd P Jones, Cynullydd Panel Ymchwiliad Craffu - Yr Amgylchedd
Naturiol, y canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion yn deillio o Ymchwiliad
y Panel i'r Amgylchedd Naturiol. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
adroddiad, a chafodd aelod perthnasol y Cabinet y dasg o gyflwyno ymateb
ysgrifenedig i'r Cabinet. |
||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2018-19 PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r
Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2018/19 a oedd yn ceisio helpu i
gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n
berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Penderfynwyd nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad
i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a,
lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
||||||||||||||||
Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2019/20. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth er
mwyn ystyried mabwysiadu Cynllun Cymorth Ardrethi dros dro newydd ar gyfer y
Stryd Fawr, yn ymwneud ag Ardrethi Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar
gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Penderfynwyd: 1)
Nodi
manylion y cynllun a'r cais; 2)
Mabwysiadu'r
Cynllun Cymorth Ardrethi a'r broses ymgeisio fel y'u nodir yn yr adroddiad hwn,
ar gyfer 2019/20. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio rhoi
ystyriaeth i wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol
a gofynnodd am benderfyniad ar y cynigion yn yr adroddiad: i)
Cau Ysgol
Gynradd Gymraeg Felindre'n weithredol o 31 Awst 2019; ii) Cynyddu maint Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan ar safle newydd o fis Ionawr 2021; iii) Cynyddu maint Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw ar safle newydd o fis Ionawr 2021; iv) Rhoi newidiadau dalgylch sy’n gysylltiedig â 2) a 3) uchod ar waith o fis Medi 2021. Penderfynwyd: 1) Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre'n weithredol o 31 Awst 2019; 2) Cymeradwyo cyhoeddiad yr Adroddiad
Gwrthwynebu ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre (fersiwn ddrafft yn Atodiad
A yr adroddiad); 3) Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd
Gymraeg Tan-y-lan i 420 ynghyd â meithrinfa mewn ysgol newydd ei hadeiladu yn
Heol Beacons View yn y Clâs
o fis Ionawr 2021, gyda newidiadau dalgylch cysylltiedig yn cael eu rhoi ar
waith o fis Medi 2021; 4) Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd
Gymraeg Tirdeunaw i 545 ynghyd â meithrinfa mewn ysgol newydd ei hadeiladu ar
safle Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe oddi ar Heol Gwyrosydd o fis Ionawr 2021,
gyda newidiadau dalgylch cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2021. |
||||||||||||||||
Adolygiad ysgol bach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc. PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio rhoi
ystyriaeth i wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol
a gofynnodd am benderfyniad ar y cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn
weithredol o 31 Awst 2019. Penderfynwyd: 1)
Rhoi
ystyriaeth i a nodi’r adroddiad gwrthwynebu (Atodiad A yr adroddiad); 2)
Cymeradwyo'r
cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn weithredol o 31 Awst 2019; 3)
Cymeradwyo
cyhoeddiad yr Adroddiad Gwrthwynebu. |
||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad
gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu
a Sgiliau, a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i: i)
Ddyfarnu contract Cam
Un ar gyfer y gwaith i Dendr
Rhif 4; ii)
Ceisio caniatâd i ymrwymo
cyfanswm o £551,469 i'r rhaglen gyfalaf i ariannu costau'r
cyfnod cyn adeiladu. Cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol ac awdurdodi cynllun newydd i'r Rhaglen Gyfalaf.
Penderfynwyd: 1)
Penodi contractwr 4 i gynnal y gwasanaeth cyn adeiladu hyd
at £392,000 yn amodol ar gwblhau diwydrwydd
dyladwy ariannol priodol. Ystyrir mai contractwr
4 yw'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd a'r
un sy'n rhoi gwerth gorau i'r
awdurdod”. 2)
Ymrwymo £554,469 i'r Rhaglen Gyfalaf
i ariannu costau'r cyfnod cyn adeiladu, gan
gynnwys gwasanaeth cyn adeiladu contractwyr
a ffïoedd mewnol; 3)
Awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol
i lunio dogfennaeth
angenrheidiol i gwblhau'r contract a chyflawni'r prosiect; 4) Dylid cyflwyno adroddiad pellach ar ddiwedd 2019 i ystyried cymeradwyo dyfarniad contract Cam Dau ac yn amodol ar gadarnhad a derbynioldeb costau adeiladu i ymrwymo cost y prosiect i'r Rhaglen Gyfalaf cyn i unrhyw waith ffisegol gael ei wneud. |
||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. PDF 104 KB Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||||||||
Adeiladu Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2019/20. PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb
ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo Cynlluniau Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer Gwasanaethau Adeiladu, fel y'u rhestrir yn Atodiad A; 2) Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet gymeradwyo cynlluniau Gwasanaethau Cymdeithasol unigol; 3) Cymeradwyo a chynnwys y goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad C a D yn y Rhaglen Gyfalaf. |
||||||||||||||||
Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2019-2020. PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio
cadarnhad am y Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r dyraniadau arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A, ac y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf; 2)
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i Bennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant ar y cyd ag
Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i flaenoriaethu, cwblhau
a dyrannu cyllid i'r cynlluniau hynny a gynhwysir o fewn cwmpas yr adroddiad hwn
ond nad oes cyfeiriad penodol atynt. |
||||||||||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2019/20 PDF 133 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn darparu manylion y Rhaglen
Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella ac yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys
cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2019/20, er mwyn cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) ac i ymrwymo i’r
cynlluniau a’u cymeradwyo yn unol â'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella, fel y'i
nodwyd, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, ac y dylid ei chynnwys yng
Nghyllideb Gyfalaf 2019/20. |