Manylion y mater

Dyfarnu'r Contract (Adeiladu) Cam Cyntaf ac Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf perthnasol ar gyfer y Prosiect Ailfodelu ac Ailwampio yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac os caiff ei gymeradwyo, fe’i hariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.

 

Mae’r prosiect yn amodol ar gymeradwyo’r cais cynllunio ac ar Lywodraeth Cymru’n cymeradwyo achosion busnes.

 

Diben y gwaith i ailfodelu ac adnewyddu’r adeilad presennol yw mynd i’r afael â materion cyflwr ac addasrwydd. Cyflwynir y rhaglen waith fesul cam fel y bo’n briodol er mwyn blaenoriaethu’r ardaloedd lle mae’r angen mwyaf. Bydd y cynnig yn gwella cyfleusterau’r ysgol ond ni fydd yn cynyddu nifer y lleoedd i ddisgyblion sy’n 1094 ar hyn o bryd. Hefyd bydd angen dymchwel yr hen gabanau presennol sy’n is na’r safon.

Math o fusnes: Allweddol

Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo

Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 04/01/2019

Cyfyngiad Disgwyliedig: Agorwch  -

Angen Penderfyniad: 21 Maw 2019 Yn ôl Y Cabinet

Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu

Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg

Cyswllt: Sarah Rees E-bost: Sarah.Rees@swansea.gov.uk E-bost: sarah.rees@swansea.gov.uk.

Eitemau agenda