Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd A S Lewis fudd personol yng
Nghofnod 131 “Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/2019-2021/2022”; 2)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor fudd Personol a
Rhagfarnol yng Nghofnod 136 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a
gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried; 3)
Datganodd y Cynghorydd M Thomas fudd personol yng
Nghofnod 136 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd
nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â'r gyllideb. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Roedd angen ymateb ysgrifenedig
ar y cwestiwn canlynol: 1)
Gofynnodd Arthur Rogers
y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 127 “Adolygiad blynyddol o
daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2018-2019”: "I ba raddau y mae dadansoddiad cost/budd Abertawe yn mynd ar
gyfeiliorn o brofiadau awdurdodau eraill a pham?” Nododd Arweinydd y Cyngor ac
Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb
ysgrifenedig yn cael ei ddarparu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o
gwestiynau gan Gynghorwyr mewn perthynas â'r gyllideb. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn
briodol. Roedd angen ymateb ysgrifenedig
ar y cwestiwn canlynol: 1)
Gofynnodd y
Cynghorydd P M Black y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 131 “Cyllideb
a Rhaglen Gyfalaf 2018/2019-2021/2022”: "Os caiff ysgol ei
hadeiladu gan ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac mae’n mynd i
ddwylo'r derbynnydd ar ôl iddi gael ei chwblhau, fel y digwyddodd yn achos
Carillion, beth sy’n digwydd i’r ased (yr ysgol)?” Nododd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y
Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael
ei ddarparu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad blynyddol o daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2016/17. PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn ceisio
adolygu newidiadau i Bolisi Codi Tâl y cyngor (y gwasanaethau cymdeithasol) a
chytuno ar restr daliadau ar gyfer y flwyddyn 2018-2019. Nodir manylion y taliadau hyn yn y ddolen ganlynol: democracy.swansea.gov.uk/ieIssueDetails.aspx?IId=19283&PlanId=0&Opt=3 Cynigodd ddiwygiadau i argymhellion 3 a 4. Penderfynwyd 1) Derbyn yr
adroddiad diwygiedig am Adolygiad Blynyddol Taliadau Gofal Cymdeithasol gan
Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol; 2) Cymhwyso
cynnydd cyffredinol o 5-6% am holl daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol a
chynnydd uwch na chwyddiant i daliadau gofal cartref; 3) Cyflwyno
tâl ar gyfer gwasanaethau dydd i bobl hŷn ar ôl cynnal asesiadau ariannol
ar gyfer holl ddefnyddwyr y gwasanaeth; |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth ar graffu cyn penderfynu ar y gyllideb flynyddol. (llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid, farn
y panel mewn perthynas â chynigion y gyllideb. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2019/20-2021/22. PDF 332 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran
151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig,
a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig
strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys. Penderfynwyd 1)
Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2019-2020 hyd at 2021-2022 i'r
cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb Refeniw 2018/19. PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb
Refeniw ar gyfer 2018-2019. Roedd yn cynnwys manylion y canlynol: ·
Monitro ariannol
2017-2018; ·
Setliad cyllid llywodraeth
leol 2018-2019; ·
Y rhagolwg cyllidebol
2018-2019; ·
Cynigion arbed penodol; ·
Canlyniad yr ymgynghoriad
ar y gyllideb; ·
Goblygiadau staffio; ·
Gofynion y cronfeydd wrth
gefn; ·
Gofyniad y gyllideb a
threth y cyngor 2018-2019; ·
Crynodeb o gynigion
ariannu; ·
Risgiau ac ansicrwydd. Cyfeiriodd Swyddog Adran 151 at wall argraffyddol ar dudalen 184. Dylid
newid ‘Gwasanaeth Cerdd Gorllewin Morgannwg’ i ‘Gwasanaeth Cerdd Abertawe’. Cynigodd Arweinydd y Cyngor, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a
Gweithrediadau Busnes ac Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol
Oes y diwygiadau canlynol:
Penderfynwyd: 1)
Ystyried canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw
newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r
sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adran 4.10 yr adroddiad; 2) Nodi'r bwlch presennol mewn adnoddau yn
Adran 4.5 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn
Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb
Refeniw wedi'i mantoli ar gyfer 2018-2019. 3) Yn ogystal
ag adolygiad o gynigion arbed presennol, bydd angen i'r Cabinet: a)
Adolygu a chymeradwyo'r
trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad hwn; b)
Cytuno ar lefel treth y
cyngor ar gyfer 2018/19 i'w argymell i'r cyngor; 4) Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd, mae'r
Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor am gymeradwyaeth: a) Cyllideb
Refeniw ar gyfer 2018-2019; b) Gofyniad
y gyllideb ac ardoll treth y cyngor ar gyfer 2018-2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2021/22. PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer
2017-2018 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018-2019 i 2021-2022 (2023-2024 ar
gyfer ysgolion Band B). Penderfynwyd: 1) Argymell
y Gyllideb Cyfalaf ar gyfer 2017-2018 a Chyllideb Cyfalaf ar gyfer 2018-2019,
fel a nodwyd yn Atodiadau A, B, C, Ch, D a Dd yr
adroddiad, i'r cyngor eu cymeradwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2018/19. PDF 147 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd
yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2018-2019 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y
Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w
cymeradwyo: 1) Cynyddu taliadau rhent yn unol â pholisi
rhent Llywodraeth Cymru fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad; 2) Cymeradwyo ffïoedd,
taliadau a lwfansau fel yr amlinellir yn Adran 3 yr adroddiad; 3) Cymeradwyo'r cynigion cyllideb refeniw
fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2021/22. PDF 167 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a
oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2017-2018 a Chyllideb
Gyfalaf ar gyfer 2018-2019 a 2020-2021. Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo: 1) Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng
cynlluniau a'r gyllideb ddiwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2017-2018; 2) Cymeradwyo cynigion cyllidebol
2018-2019 a 2020-2021; 3) Lle caiff cynlluniau unigol a
ddangosir yn Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod o 3 blynedd,
caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol
ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth craffu cyn penderfyniad - Trosglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli. (llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd M A Jones, Cynullydd y Panel Craffu, farn y panel mewn perthynas â
throsglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau
Rheoli. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i
drosglwyddo rheolaeth a chyfrifoldebau gweithredol ar gyfer rhandiroedd o
Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Aelodau Rhandiroedd. Penderfynwyd: 1)
Awdurdodi trosglwyddo
safleoedd rhandiroedd presennol i Gymdeithasau Aelodau gyda chyfrifoldeb rheoli
llawn; 2)
Lle nad oes diddordeb gan
ddeiliaid rhandiroedd presennol i sefydlu Cymdeithas, dylai'r cyngor fynd ati i
geisio trefniad â chyrff eraill i gymryd cyfrifoldeb rheoli llawn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 96 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymhellwyd gan y Prif
Swyddog Addysg, ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol
Oes.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 Grant y Gronfa Drafnidiaeth Leol 2017/18 PDF 228 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn cadarnhau'r
cais am grant gan y Gronfa Drafnidiaeth Leol ac yn ceisio cymeradwyaeth i wario
ar y cynlluniau a'r prosiectau arfaethedig yn 2017-2018. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cynlluniau'r Gronfa Drafnidiaeth Leol ynghyd â'u goblygiadau
ariannol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth craffu cyn penderfyniad - Priffyrdd a chludiant comisiynu adolygiad. (llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
C A Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid, y byddai
angen rhoi ei adborth mewn sesiwn gaeëdig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr
eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y
cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Swesiwn Gaeedig) |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant (llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid,
farn y panel mewn perthynas â throsglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a
Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Priffyrdd a chludiant comisiynu adolygiad. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r
Amgylchedd adroddiad, a oedd yn dangos yr atodiadau cyfrinachol yn Adroddiad
Comisiynu Priffyrdd a Chludiant. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Sesiwn Agored Cofnodion: Penderfynwyd y dylai’r
Cabinet ddychwelyd i sesiwn agored a dylid gofyn i’r cyhoedd ddychwelyd. (Sesiwn
Agored) |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Priffyrdd a chludiant comisiynu adolygiad PDF 3 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn amlinellu
canfyddiadau Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant a rhoddwyd y diweddaraf
am gynnydd. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r model
gweithredu argymelledig; 2)
Cymeradwyo cynnydd ar
ddatblygu'r ymagwedd strategol tuag at gludiant; 3)
Nodi'r cynnydd ar gyflawni
arbedion ariannol. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.47pm Cyhoeddwyd
ar: 16 Chwefror
2018 |