Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Mae’r adroddiad
hwn yn gwneud argymhellion i’r cyngor o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/19
a’i hariannu.
Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb
Refeniw ar gyfer 2018-2019. Roedd yn cynnwys manylion y canlynol:
·
Monitro ariannol
2017-2018;
·
Setliad cyllid llywodraeth
leol 2018-2019;
·
Y rhagolwg cyllidebol
2018-2019;
·
Cynigion arbed penodol;
·
Canlyniad yr ymgynghoriad
ar y gyllideb;
·
Goblygiadau staffio;
·
Gofynion y cronfeydd wrth
gefn;
·
Gofyniad y gyllideb a
threth y cyngor 2018-2019;
·
Crynodeb o gynigion
ariannu;
·
Risgiau ac ansicrwydd.
Cyfeiriodd Swyddog Adran 151 at wall argraffyddol ar dudalen 184. Dylid
newid ‘Gwasanaeth Cerdd Gorllewin Morgannwg’ i ‘Gwasanaeth Cerdd Abertawe’.
Cynigodd Arweinydd y Cyngor, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a
Gweithrediadau Busnes ac Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol
Oes y diwygiadau canlynol:
|
£ |
£ |
Newidiadau
pellach i gynigion o ganlyniad i ymatebion ymgynghori |
|
|
|
|
|
Hepgor - Adnoddau – Adolygu
ariannu cynrychiolwyr undebau |
72,000 |
|
Addysg – Adolygiad
Corfforaethol o amodau a thelerau – Taliadau parcio staff ysgolion |
150,000 |
|
Gohirio rhoi rhan ar waith –
Gwasanaethau i Oedolion – Polisi Codi Tâl |
250,000 |
|
|
472,000 |
|
Ariennir fel a
ganlyn: |
|
|
|
|
|
Lleihau’r gronfa wrth gefn i
£3.45m |
|
472,000 |
Penderfynwyd:
1)
Ystyried canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw
newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r
sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adran 4.10 yr adroddiad;
2) Nodi'r bwlch presennol mewn adnoddau yn
Adran 4.5 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn
Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb
Refeniw wedi'i mantoli ar gyfer 2018-2019.
3) Yn ogystal
ag adolygiad o gynigion arbed presennol, bydd angen i'r Cabinet:
a)
Adolygu a chymeradwyo'r
trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad hwn;
b)
Cytuno ar lefel treth y
cyngor ar gyfer 2018/19 i'w argymell i'r cyngor;
4) Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd, mae'r
Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor am gymeradwyaeth:
a) Cyllideb
Refeniw ar gyfer 2018-2019;
b) Gofyniad
y gyllideb ac ardoll treth y cyngor ar gyfer 2018-2019.
Awdur yr adroddiad: Ben Smith
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/02/2018 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: