Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. nol. www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Awst 2017; 2) Cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Medi 2017. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored
agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau i gynghorwyr. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2017/18. PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes adroddiad a oedd yn amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer
Chwarter 1 2017-2018. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio
penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n
berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|
Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb 2016-17. PDF 61 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol adroddiad a oedd yn
amlinellu'r Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb ar gyfer 2016-2017 fel sy'n
ofynnol yn ôl Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. RESOLVED that: 1) Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi a'i gyflwyno i'r rheolydd (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) yn amodol ar wneud y newid canlynol i Dudalen 75, Cyllid a Chyflwyno, Colofn 3, Ail Baragraff: Dileu'r geiriau "...neu beidio â
dod..." a rhoi "...neu heb ddod..." yn eu lle. |
|
Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 Grant y Gronfa Rhwydwaith Drafnidiaeth Leol 2017/18. PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd
yn cadarnhau'r cais am grant gan y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol ac yn
ceisio cymeradwyaeth i wario ar y cynlluniau a'r prosiectau arfaethedig yn
2017-2018. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo'r prosiect, ynghyd â'i oblygiadau ariannol,
a'i gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2017-2018. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad er gwybodaeth a oedd yn darparu cefndir a chrynodeb o gynnwys Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid blynyddol drafft Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin 2017-2018. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 69 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel a ddiwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Cael gwared ar ddepo Glanfa Pipehouse, Heol y Morfa, Abertawe SA1 2EN. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes adroddiad a oedd yn ystyried opsiynau ar gyfer cael gwared ar Ddepo
Glanfa Pipehouse, Heol y Morfa, Abertawe. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r argymhellion fel a nodwyd yn yr adroddiad
yn amodol ar newid argymhelliad 2 fel a nodwyd yn y cyfarfod. |