Mae llunio
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid yn ddyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol o dan
Ran 3, Adran 40 Deddf Troseddu ac Anhrefn 1998.
Mae'r cynllun yn
nodi:
a)
sut y dylai gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid gael eu darparu a'u
hariannu, a
b)
sut y bydd y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a sefydlwyd gan yr awdurdod
lleol yn cael ei gynnal a'i ariannu, sut y bydd yn gweithredu a'i swyddogaeth.
Gosododd Deddf Troseddu ac Anhrefn 1998, Adran 39(1) ddyletswydd ar bob
awdurdod lleol, gan weithredu gyda'i bartneriaid statudol (yr Heddlu, y
Gwasanaeth Prawf ac Iechyd) i sefydlu Timau Troseddu Ieuenctid yn eu hardal
leol i ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Gosododd Adran 38(3) y
Ddeddf ddyletswydd ar yr awdurdod lleol a'i bartneriaid statudol i dalu am
dreuliau a geir wrth ddarparu gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.
Bwriad Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin
yw sicrhau bod gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ar gael ar draws ardal Bae'r
Gorllewin; Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n
cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â:
-
Chrynodeb
o gyflawniadau
-
Strwythur
a llywodraethu
-
Adnoddau
a gwerth am arian
-
Trefniadau'r
bartneriaeth
-
Risgiau
i ddarpariaeth y dyfodol yn erbyn mesurau canlyniadau cyfiawnder ieuenctid.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 18/08/2017
Cyfyngiad Disgwyliedig: Agorwch -
Angen Penderfyniad: 21 Medi 2017 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyswllt: Caroline Dyer, Western Bay Youth Offending Service Manager E-bost: caroline.dyer@swansea.gov.uk.