Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

104.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 118 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

105.

Cofnodion. pdf eicon PDF 320 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024.

106.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

107.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnodd Alec Thraves (Cyngor Undebau Llafur Abertawe), Dave Warren (Cyngor Undebau Llafur Abertawe a’r Cylch) a Linda Thraves (Cyngor Undebau Llafur Abertawe)  gwestiynau mewn perthynas â Chofnod Rhif 111 “Cyllideb Refeniw 2024/25”.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

108.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

109.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Adroddiadau am y Gyllideb (llafar)

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd C A Holley adborth ar graffu cyn penderfynu mewn perthynas â'r adroddiadau am y gyllideb.

110.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2027/28.* pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu:  Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac yn manylu ar y prif dybiaethau ariannu ar gyfer y cyfnod ac yn cynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 i 2027/28 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol.

111.

Cyllideb Refeniw 2024/25.* pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu:  Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y Cabinet.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw newidiadau i'r Cynigion Cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel y'u nodwyd yn Adran 4.15 a 4.17 yr adroddiad yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

·            Gostyngiad yn y cynnydd ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a ariennir drwy dreth y cyngor o £1m i £0.6m.

 

·            Dyrannu £0.4m o'r grant craidd gwerth £1.1m sy'n ddisgwyliedig i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, yn lle.

 

·            Nodi, gan gynnal felly ein hymrwymiad bwriadedig, y byddwn yn defnyddio'r £1m ychwanegol cyffredinol i gynyddu cyllidebau'r Gwasanaethau Cymdeithasol, gan amrywio'r cymysgedd o gyllid drwy grantiau a threth y cyngor.

 

·            Dyrannu'r £0.7m sy'n weddill o'r cyllid grant ychwanegol o £1.1m i adfer y cyllid o £0.7m y flwyddyn o Gronfeydd wrth Gefn TGCh Ysgolion ond ni fyddwn  fel arall yn cynyddu cyfanswm cyffredinol cynnig arian parod yr ysgolion ar gyfer 2024-25, gan gydnabod ein bod eisoes wedi talu mwy na £7m o flaen law o'r gronfa wrth gefn, wrth ddisgwyl cyllid ychwanegol, gan gadw peth arian felly yn y gronfa wrth gefn ar gyfer 2025-26.

 

·            Ailgyfeirio'r £0.4m o rym gwario a ryddhawyd o'r cyllid treth y cyngor a gynigir ar hyn o bryd i ehangu'r cynnig bysus lleol am ddim i 2024-25.

 

·            Bod y Swyddog A151 yn adlewyrchu'r £1.1 o newidiadau sy'n ddisgwyliedig oherwydd grant hwyr ym mhapurau'r cyngor ond hefyd ei fod yn cael ei ddirprwyo i wneud mân newidiadau canlyniadol yn unig i'r ddarpariaeth wrth gefn a/neu chwyddiant fel y gwêl yn dda os bydd y cynnig ychwanegol gwirioneddol yn amrywio o gwbl o'r £1.1m tybiedig. Bod y Swyddog A151 yn dweud wrth y cyngor yn glir ar 6 Mawrth am unrhyw fân newidiadau o'r fath y mae'n eu gwneud wrth dderbyn y setliad llywodraeth leol terfynol.

 

2)             Nodi cyfanswm y gofyniad ariannu presennol a grybwyllwyd yn Adran 4.6 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw gytbwys ar gyfer 2024/25. 

 

3)             Yn ogystal ag adolygu'r cynigion arbed arian presennol, gwnaeth y Cabinet y canlynol:

 

a)         Adolygu a chymeradwyo'r cronfeydd wrth gefn i'w trosglwyddo sy'n cael eu hargymell yn yr adroddiad.

b)         Cytuno ar lefel treth y cyngor ar gyfer 2024-25 i'w hargymell i'r cyngor.

 

4)             Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ac a restrwyd uchod, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

a)         Cyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25;

b)         Gofyniad y gyllideb ac ardoll treth y cyngor ar gyfer 2024/25.

112.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2028/29.* pdf eicon PDF 299 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu:  Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2024/25 - 2028-29.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 a'r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2024/25 - 2028/29 fel y nodwyd yn Atodiadau A, B, C, D, E, F a G yr adroddiad.

113.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2024/25.* pdf eicon PDF 428 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu:  Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25 ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)             Cynigion y gyllideb refeniw fel y nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

114.

Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2023/24 - 2027/28.* pdf eicon PDF 818 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu:  Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2024/25 - 2027/28.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)             Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2023/24.

 

2)             Cymeradwyo cynigion cyllidebol ar gyfer 2024/25 - 2027/28.

 

3)             Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu neilltuo a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd.

 

4)             Cymeradwyo'r ymagwedd blaenoriaethu at osod y rhaglen waith sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad.

115.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2023/24.* pdf eicon PDF 642 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu:  Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn amlinellu monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2023/24 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd perthnasol parhaus ynghylch y ddarpariaeth cyflog cyfartal, a nodwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn ceisio mynd i'r afael â 'r rhain.

 

2)             Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad a'r ddarpariaeth chwyddiant fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad yn amodol ar unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog Adran 151 yn ystod y flwyddyn.

 

3)             Bod y Cabinet yn atgyfnerthu'r angen i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau gwariant gwasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan ddarparu cynlluniau adennill clir lle maent yn gorwario, a chydnabod bod y gyllideb yn gytbwys yn gyffredinol ar hyn o bryd, ond trwy ddibynnu ar ad-daliad (sy'n bell o fod yn sicr) gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, cyllidebau wrth gefn a ddelir yn ganolog a mwy na'r hyn sy'n ddelfrydol o gronfeydd wrth gefn a glustnodir.

 

4)             Bod y Cabinet yn cydnabod bod yn rhaid lleihau gorwariant costau'r Gyfarwyddiaeth yn llwyr, trwy gynlluniau adennill yn y flwyddyn gyfredol, drwy gamau adennill wedi'u targedu gyda disgwyliad clir o ddewisiadau ail-seilio 'anodd' i gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer rownd cyllideb 2024/25.

 

5)             Nodi'r gorwariant dangosol ym mharagraff 6.1, gyda chamau gweithredu pellach i'w cadarnhau yn yr alldro unwaith bydd yr wybodaeth am gost derfynol debygol y dyfarniad cyflog cyfartal yn gliriach.

116.

Adolygiad Blynyddol o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2022/23. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad, sef yr adolygiad blynyddol diweddaraf o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol, gwelliannau a wnaed yn ystod y flwyddyn a rhestr arfaethedig o daliadau i'w cymhwyso yn 2024/25.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Derbyn canfyddiadau'r adroddiad am yr adolygiad blynyddol o daliadau.

 

2)             Cymeradwyo’r cynnydd chwyddiannol o 6% i'w gymhwyso i'r holl daliadau gwasanaethau cymdeithasol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2024

 

3)             Cymeradwyo rhestr o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol, a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2024, ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

4)             Rhoi caniatâd i'r Gwasanaethau i Oedolion i wneud rhagor o waith yn 2024/25 ar godi tâl ychwanegol ar gyfer y llinell fywyd, i dalu costau gosod a chostau rhai newydd.

 

5)             Cytuno ar y rhestr ddiwygiedig o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol 2024/25 (Atodiad 1), a'u hatodi i bolisi Codi Tâl (Gwasanaethau Cymdeithasol) y Cyngor.

117.

Addysg o Safon (AoS) - Cynigion Arfaethedig a Blaenoriaethau Buddsoddi ar gyfer Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.(Treigl) pdf eicon PDF 486 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad i ystyried a chymeradwyo'r Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Treigl) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Ailgadarnhau'r nodau allweddol a ffocws y Rhaglen Amlinellol Strategol a gefnogwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru.

 

2)             Cymeradwyo'r blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf arfaethedig y dyfodol ar gyfer y Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (treigl), gan gydnabod nad oes ymrwymiad llwyr i'r cyllid ar naill ai'r Cyngor na Llywodraeth Cymru gan y caiff ei gymeradwyo maes o law fesul achos hyd yn oed os yw'r RhAS yn cael ei gymeradwyo fel arall gan y Cyngor neu Lywodraeth Cymru.

 

3)             Nodi faint o gyllid sydd ei angen yn gyffredinol a'r strategaeth ariannu arfaethedig i gyflawni cyfraniad lleol y Cyngor, gan gydnabod y bydd penderfyniadau cyllido a fforddiadwyedd manwl yn y dyfodol ar gyfer Cynghorau'r dyfodol, cyllidebau'r dyfodol a chynlluniau tymor canolig yn gynnar yn y 2030au.

118.

Penodiadau Llwyodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y Cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

1.    Ysgol Gynradd Gendros

Mrs Kathryn David

2.    YGG Gellionnen

Mr Ian Tolley

3.    Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Mrs Joanne Meller

 

 

 

119.

Adroddiad Dyfarnu Contract - Contractau ar gyfer Gwasanaethau Bysus Lleol (PT 24-29). pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn manylu ar ganlyniad y tendrau diweddar ar gyfer gwasanaethau bysus lleol a gofynnodd am ganiatâd i ddyfarnu contractau.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Derbyn y prisiau tendro a argymhellwyd gan y Panel Gwerthuso Tendrau ac a nodir yn Atodlen B yr adroddiad fel y tendrau mwyaf manteisiol yn economaidd.

 

2)             Dyfarnu contractau i'r cwmnïau a nodir yn Atodlen B yr adroddiad.

120.

Cymeradwyaeth I Dderbyn Grant - Cronfa Cymhelliad Ariannol Cartrefi Fel Gorsafoedd Pwer y Fargen Ddinesig ac Ecosystemau Pontio Gwyrdd (GTE) - Prosiect Trawsnewid Tai a Chartrefi ar Gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. pdf eicon PDF 259 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer 3 chais grant yn ymwneud â:

 

·   Chronfa Cymhelliad Ariannol Bargen Ddinesig HAPS (x2) ac

·   Ecosystemau Pontio Gwyrdd (GTE) - Prosiect Trawsnewid Tai a Chartrefi ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r cais am gyllid grant ar gyfer yr Ecosystemau Pontio Gwyrdd (GTE) - Prosiect Trawsnewid Tai a Chartrefi ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol a nodir yn 2.0.

 

2)             Cymeradwyo'r 2 gais am gyllid grant a nodir yn 3.0 ar gyfer:

·            Cronfa Cymhelliad Ariannol Bargen Ddinesig HAPS ar gyfer Cynllun Adeilad Newydd Rhagor o Gartrefi Tŷ Brondeg ac

·            Ecosystemau Pontio Gwyrdd (GTE) - Prosiect Trawsnewid Tai a Chartrefi ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

3)             Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Prif Swyddog Cyllid ymrwymo i unrhyw gytundebau sy'n angenrheidiol i sicrhau y caiff y prosiectau eu cyflawni ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor. 

 

4)             Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i adennill yr holl wariant perthnasol sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiectau o Gronfa Cymhelliad Ariannol Bargen Ddinesig HAPS a Phrifysgol Caerfaddon.

 

5)             Dirprwyo unrhyw benderfyniadau pellach sy'n ymwneud â'r cyllid hwn i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau. Bydd y cyllid yn cefnogi cynlluniau a gymeradwywyd drwy adroddiad blynyddol Cyllideb Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai.