Diben y papur hwn yw ystyried a chymeradwyo cynigion a
blaenoriaethau buddsoddi parhaus ac yn y dyfodol ar gyfer Rhaglen Cymunedau
Cynaliadwy ar gyfer Dysgu barhaus y cyngor, i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Disgwylir i Fand B o’r Rhaglen, a elwid yn gynt yn Rhaglen
Ysgolion yr 21ain Ganrif, ddod i ben ar 31 Mawrth 2023, erbyn hynny bydd rhaid
i awdurdodau gyflwyno rhaglen gyfalaf naw mlynedd, gan gynnwys rhagolwg o
gyllid dangosol ar gyfer y naw mlynedd, i’w ystyried tuag at ddarparu ymrwymiad
a chymorth ar gyfer y tair blynedd gyntaf gyda chymorth mewn egwyddor ar gyfer
blynyddoedd 4, 5 a 6. Bwriad blynyddoedd 7 i 9 yw adlewyrchu piblinell tymor
hwy y prosiect.
Bydd gweddill y prosiectau Band B yn cael eu cynnwys yn nhair blynedd gyntaf y rhaglen naw mlynedd.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 15/12/2023
Angen Penderfyniad: 15 Chwe 2024 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg
Cyswllt: Louise Herbert-Evans, Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf E-bost: louise.herbert-evans@swansea.gov.uk.