Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 60 "Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

2)             Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personal a rhagfarnol â chofnod 60 “Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleola gadawon y cyfarfod cyn ei ystyried.

3)             Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies, A S Lewis a R C Stewart gysylltiad personol â chofnod 60 “Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol”.

 

52.

Cofnodion. pdf eicon PDF 246 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)             Y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023.

53.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

54.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

55.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

56.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Proses Cau Prosiect Oracle a Newid i Fodel Gweithredu Newydd. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd P M Black yr adborth craffu cyn penderfynu.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

57.

Proses Cau Prosiect Oracle a Newid i Fodel Gweithredu Newydd.* pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau ddiweddariad ar ddiwedd gweithrediad y system Oracle Fusion. Mae'r system bellach yn fyw felly bydd y prosiect yn cau cyn bo hir ac yn trosglwyddo i'r model gweithredu Oracle newydd cyn bo hir.

 

Penderfynwyd:

 

1)    cymeradwyo'r gyllideb wrth gefn o £500,000 i'r prosiect aros yn y Gronfa Oracle Wrth Gefn a glustnodwyd, i'w defnyddio ar gyfer y ceisiadau newid sydd ar ddod gan wasanaethau ac unrhyw gostau trwydded ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn dilyn adolygiad.

 

2)    nodi'r gweithgareddau Oracle sy'n trosglwyddo o'r prosiect i'r model gweithredu parhaol newydd.

58.

Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANLl) ar gyfer Abertawe. pdf eicon PDF 275 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cefnogaeth y Cabinet o'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol drafft ar gyfer Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANLl) ar gyfer Abertawe a nodi ei bwysigrwydd fel fframwaith partneriaeth hollgynhwysol i fynd ati i Adfer Natur.

59.

Cynllun Rheoli Cyrchfannau Abertawe 2023-2026. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth y Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) 2023-2026 ar gyfer Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo Cynllun Rheoli Cyrchfannau Abertawe ar gyfer y cyfnod 2023-2026.

60.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

1.    Ysgol Gynradd y Gors

Y Cynghorydd Elliot King

2.    Ysgol Gynradd Grange

Mr Mark Child

3.    Ysgol Gynradd Pontlliw

Mr David Mathias

4.    Ysgol Gynradd Seaview

Mrs Sue James

5.    Ysgol Gynradd San Helen

Mrs Susan Davey

6.    Ysgol Gynradd y Garreg Wen

Mrs Charlotte Stillwell

7.    YGG Tan-y-lan

Y Parchedig Hugh Lervy

8.    YGG Tirdeunaw

Mrs Jodie Jones

9.    Ysgol Gyfun Treforys

Mr Paul Relf
Y Cynghorydd Ceri Evans

 

61.

Gwaredu Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden dan y Polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol. pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau’r Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth a Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo, mewn egwyddor, drosglwyddo asedau cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden, gan gynnwys unrhyw dir hamdden ac adeiladau cysylltiedig, i sefydliadau, clybiau a chymdeithasau cymunedol yn unol â Pholisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y cyngor, am bris llai na'r gorau er mwyn galluogi buddsoddiad, gwelliant a chynaliadwyedd tymor hir

 

Penderfynwyd:

 

1)    cymeradwyo'r trosglwyddiadau arfaethedig o'r lleiniau a restrir yn 2.4 -Tabl 1 dan Bolisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor 2021 mewn egwyddor.

 

2)    Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd gymeradwyo prydlesi hir am gyfnodau priodol yn unol â'r egwyddorion a nodwyd ym mharagraff 2.3, (mewn perthynas â'r lleiniau a restrir yn Adran 2.4 - Tabl 1) i'r lesddalwyr arfaethedig am y rhesymau arfaethedig fel y nodir yn y tabl, ar yr amod bod Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo wedi ystyried pob un o'r trosglwyddiadau arfaethedig dan Reolau Gweithdrefnau Gwerthu a Phrynu Tir y cyngor a'i fod yn argymell cymeradwyo pob trosglwyddiad. Cymeradwyo'r prydlesi am bris llai na'r gorau yn unol â Pholisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y cyngor

 

3)    Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr perthnasol mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Eiddo ac Aelod o'r Cabinet benderfynu ar y llwybr adrodd priodol i ystyried yn llawn unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir drwy'r Hysbysiad Gwaredu Mannau Agored, yn unol ag adran 6 o'r adroddiad hwn.

 

4)    Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Eiddo drafod a phenderfynu ar delerau'r prydlesi arfaethedig (ac unrhyw Weithredoedd Amrywio angenrheidiol wedi hynny) a dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol gwblhau'r ddogfennaeth gyfreithiol angenrheidiol i amddiffyn buddiannau'r cyngor.

62.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2023/24. pdf eicon PDF 554 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Adran 151 am fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2023/24 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    nodi'r sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd materol uwch, a nodwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

2)    cymeradwyo'r trosglwyddiadau a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel y nodir yn 3.2 a'r ddarpariaeth chwyddiant fel y nodir yn 4.3 yn amodol ar unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog A.151 yn ystod y flwyddyn.

3)    Mae angen i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau gwariant gwasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan gydnabod bod y gyllideb yn gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar hyn o bryd dim ond drwy ddibynnu ar ad-daliad tebygol yn y dyfodol (ond ymhell o fod yn gwbl sicr) gan Lywodraeth Cymru, cyllidebau wrth gefn a ddelir yn ganolog ac atgyfnerthu cronfeydd wrth gefn.

4)    Nodi'r gorwario dangosol ym mharagraff 6.1 yr adroddiad gyda chamau gweithredu pellach i'w cadarnhau yn y chwarteri dilynol unwaith y bydd rhagor o wybodaeth am gost derfynol debygol y codiad cyflog yn yr arfaeth.

63.

Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23. pdf eicon PDF 371 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau Lythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23 ar gyfer Cyngor Abertawe, er gwybodaeth.

64.

Darpariaeth Refeniw Ychwanegol ar gyfer Cynigion Parcio 2023/24. pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a'r Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cronfeydd ychwanegol i barhau â'r cynnig parcio cyfredol (1,2,3,4,5) am gyfnod cyfyngedig hyd at 31 Mawrth 2024.

 

Penderfynwyd:

 

Cymeradwyo'r cronfeydd untro ychwanegol o £850,000 i barhau â'r cynnig parcio cyfredol (1,2,3,4,5) am gyfnod cyfyngedig hyd at 31 Mawrth 2024 a nodi'r risgiau i'r cynorthwywyr a amlygwyd yn benodol gan y Swyddog A151.