Yn dilyn y tariffau parcio newydd a gymeradwywyd gan y
Cabinet ym mis Ionawr 2023, mae Cyngor Abertawe wedi rhoi cymhorthdal i barcio
yng nghanol y ddinas fel rhan o'r Blaenoriaethau Ychwanegol y cytunwyd arnynt
gan y Cabinet ar 18 Mai 2023.
Cyflwynwyd cynnig parcio newydd o 24 Gorffennaf 2023. Fel yr
amlinellwyd yn Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol - Darpariaeth refeniw ychwanegol
ar gyfer Cronfa Adferiad Economaidd weddilliol 2023/24, mae’r cynnig hwn wedi
derbyn cymhorthdal o ddyraniad o £500,00, fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet ar
18 Mai 2023.
Mae Bwrdd Rhaglen wedi'i sefydlu i adolygu'r proffil
gwariant a ragwelir, casglu data tueddiadau a cheisio cyfleoedd ar gyfer
cymhellion i ddenu ymwelwyr i ganol y ddinas, gan roi ystyriaeth i breswylwyr a
busnesau.
Argymhellir bod y Cabinet yn cymeradwyo cyllid ychwanegol i ganiatáu estyn y cynnig parcio i 31 Mawrth 2024.
Math o fusnes: Allweddol
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 15/09/2023
Cyfyngiad Disgwyliedig: Agorwch -
Angen Penderfyniad: 19 Hyd 2023 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd), Aelod y Cabinet - Yr Amgylchedd ac Isadeiledd
Prif Gyfarwyddwr: Pennaeth Gwasanaeth - Priffyrdd a Chludiant
Cyswllt: Matthew Bowyer, Prif Beirianydd Telematics E-bost: Matthew.Bowyer@swansea.gov.uk.