Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw datganwyd buddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cabinet a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2020 yn amodol ar nodi
bod y Cynghorydd M C Child yn bresennol. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaeth Arweinydd y Cyngor unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Questions must relate to matters on the open part of the Agenda of the meeting and will be dealt with in a 10 minute period. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer ymestyn ac ailfodelu Y G Gwyr. PDF 497 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer cynllun i ymestyn ac ailfodelu YG Gŵyr yn amodol ar
gymeradwyaeth grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru. Ceisiwyd caniatâd hefyd
i ddyfarnu'r contract i Dendr Rhif 2 yn amodol ar gadarnhau grant a chytundeb â
Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad
hefyd yn cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglenni ac Arfarniadau
Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen
Gyfalaf. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r cynllun i ymestyn ac ailfodelu YG Gŵyr
yn amodol ar gymeradwyaeth grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru; 2)
dyfarnu'r
contract i Dendr Rhif 2, yn amodol ar gymeradwyaeth grant a chontract
Llywodraeth Cymru; 3)
Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd yn yr
adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant
a chytundeb â Llywodraeth Cymru. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer cynllun adeilad newydd yn YGG Tirdeunaw yn destun
cymeradwyaeth grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru. Ceisiwyd caniatâd hefyd i ddyfarnu'r contract
adeiladu i Dendr Rhif 2 yn amodol ar gadarnhau grant a chytundeb â Llywodraeth
Cymru. Nododd yr adroddiad
hefyd y gofyniad i ddiwygio'r dyddiad gweithredu i ymestyn safle YGG Tirdeunaw
yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig
y prosiect, ac y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet cyn y
dyddiad gweithredu gwreiddio ym mis Ionawr 2021, er mwyn ceisio cymeradwyaeth
am yr oedi a diwygio'r dyddiad gweithredu. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Dyfarnu'r contract ar gyfer gweddill y dyluniad ac i godi
adeilad newydd ar gyfer YGG Tirdeunaw ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Heol
Gwyrosydd i Dendr Rhif 2 yn amodol ar gymeradwyaeth grant a chytundeb â
Llywodraeth Cymru; 2)
Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd yn yr
adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn
Ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru. |
|
Adroddiad Blynyddol Cwynion 2018-19. PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad er gwybodaeth a oedd yn adrodd
am nifer, natur a chanlyniadau'r cwynion a wnaed yn erbyn yr awdurdod, ynghyd â
manylion y gwersi a ddysgwyd a syniadau am wella gwasanaethau. Paratowyd yr
adroddiadau canlynol ar wahân ac ar y cyd â'r adroddiad hwn, ac fe'u hadodwyd at ddibenion
gwybodaeth: ·
Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion; ·
Cwynion y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd; ·
Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth); ·
Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA). |
|
Y Diweddaraf am y Rhaglen Datblygu Mwy o Gartrefi. PDF 169 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau
adroddiad a oedd yn nodi dyheadau'r cyngor i gyflwyno cartrefi fforddiadwy
newydd dros 10 mlynedd. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Bydd y cyngor yn gosod targed i gyflwyno 1,000 o gartrefi
cyngor newydd trwy'r Cyfrif Refeniw Tai, a 4,000 o gartrefi fforddiadwy eraill
fel rhan o'i nod o gyflwyno mwy na 5,000 o gartref fforddiadwy newydd dros y
cyfnod rhwng 2021 a 2031; 2)
Yn unol â gofynion cyllido grantiau Llywodraeth Cymru,
llunnir rhaglen dreigl 3 blynedd o gynlluniau datblygiadau, sy'n nodi lle caiff
y cartrefi eu cyflwyno a nodir y bydd unrhyw newidiadau i'r rhagdybiaethau ariannol yn yr
adroddiad hwn yn arwain at gynnydd neu leihad yn nifer yr unedau y gall y
cyngor eu fforddio; 3)
Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r
broses uchod eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros
Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau, a chaiff cynlluniau datblygu yn y
dyfodol eu nodi a'u cymeradwyo trwy adroddiad blynyddol Cyllideb Cyfalaf y
Refeniw Tai. |
|
Marchnata Safleoedd Cyfrif Refeniw Tai (CRT) a Chyfle Menter ar y Cyd PDF 257 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau
adroddiad a oedd yn amlinellu bwriad y cyngor i gyflawni ymarfer caffael i
benodi partner neu bartneriaid datblygu er mwyn cyflwyno cynlluniau tai
daliadaeth gymysg ar amrywiaeth o safleoedd Cyfrif Refeniw Tai fel cytundeb menter
ar y cyd. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Bydd y cyngor yn
parhau i gyflawni ymarfer caffael i benodi partner neu bartneriaid datblygu i
ddatblygu rhai safleoedd Cyfrif Refeniw Tai; 2)
Cyn dechrau'r ymarfer caffael, bydd y cyngor yn ymgymryd
â'r diwydrwydd dyladwy sy'n ofynnol; 3)
Caiff cefnogaeth gyfreithiol, ariannol a chynllunio addas
ei chaffael i gefnogi'r broses yn ôl yr angen; 4)
Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r
broses eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni
a Thrawsnewid Gwasanaethau. |
|
Y Diweddaraf am gynnydd blaenoriaethau'r Cyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer 2018-2019. PDF 281 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau'r diweddaraf
am gynnydd o ran bodloni'r blaenoriaethau amlinellol a nodwyd ar gyfer Blwyddyn
Academaidd 2018-2019 a'r blaenoriaethau amlinellol a nodwyd ar gyfer Blwyddyn
Academaidd 2019-2020. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi'r cynnydd. |
|
Bwriad i gymryd meddiant o 70-72 Heol Alexandra, Gorseinon, Abertawe. PDF 242 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a
Pherfformiad adroddiad a oedd yn ystyried a ddylid adfeddu 70-72 Heol
Alexandra, Gorseinon o dan Adran 122 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at
ddibenion tai. Mae'r tir y cynigir ei
adfeddu ar hyn o bryd yn dir gwasanaethau cymdeithasol y cyngor ac ystyrir nad
oes ei angen mwyach at y dibenion hyn. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Ystyried yr eiddo a nodwyd ar y cynllun yn Atodiad B yr
adroddiad fel eiddo nad oes ei angen mwyach at ddibenion y gwasanaethau
cymdeithasol; 2)
Adfeddu'r eiddo a nodir isod o dan Adran 122 o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion tai, sef darparu dwy uned breswyl ar gyfer
tai cyngor. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y
dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Cynigion Datblygu Eiddo'r Cyngor. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad
manwl ynghylch y prosiect peilot Datblygu Eiddo'n Uniongyrchol a Hysbysiad o
Wybodaeth Flaenorol (HWF). Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |