Mae'r prosiect
hwn yn rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac, os caiff ei
gymeradwyo, fe'i hariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Yn dilyn proses ymgynghori
statudol ym mis Mawrth 2019, cymeradwyodd y Cabinet gynllun i ehangu maint YGG
Tirdeunaw i 525 o leoedd yn ogystal â meithrinfa mewn ysgol newydd ar safle YGG
Bryn Tawe, oddi ar Heol Gwyrosydd.
Mae'r prosiect yn
destun cymeradwyaeth achos busnes lawn gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r adroddiad
hwn yn ceisio cymeradwyaeth i ddyfarnu'r contract yn unol â Rheol 13.10 y
Gweithdrefnau Contract, ac ymrwymo'r cynllun i'r rhaglen gyfalaf yn unol â
Gweithdrefn Ariannol 7.
Bydd yr adroddiad
a gyflwynir i'r tîm Briffio Corfforaethol yn cael ei gwblhau cyn i'r Cabinet
Arbennig gwrdd ar 23 Ionawr unwaith y cynhelir y broses dendro yn unol â
Rheoliadau Gorchmynion Traffig 2015 a Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r
cyngor.
Mae angen i'r Cabinet Arbennig gwrdd er mwyn i'r Cabinet gymeradwyo dyfarnu contract a'r ymrwymiad i'r rhaglen gyfalaf cyn gynted â phosib ac i osgoi unrhyw oedi posib wrth gyflwyno'r prosiect.
Math o fusnes: Allweddol
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 11/10/2019
Cyfyngiad Disgwyliedig: Agorwch -
Angen Penderfyniad: 23 Ion 2020 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg
Cyswllt: Alayne Smith E-bost: Alayne.Smith@swansea.gov.uk.