Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

123.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd A S Lewis fudd personol yng Nghofnod 131 “Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/2019-2021/2022”;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 136 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried;

 

3)              Datganodd y Cynghorydd M Thomas fudd personol yng Nghofnod 136 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”.

 

 

124.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

 

125.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â'r gyllideb.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Roedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiwn canlynol:

 

1)              Gofynnodd Arthur Rogers y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 127 “Adolygiad blynyddol o daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2018-2019”:

 

"I ba raddau y mae dadansoddiad cost/budd Abertawe yn mynd ar gyfeiliorn o brofiadau awdurdodau eraill a pham?”

 

Nododd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

126.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan Gynghorwyr mewn perthynas â'r gyllideb.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Roedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiwn canlynol:

 

1)              Gofynnodd y Cynghorydd P M Black y cwestiwn canlynol mewn perthynas â Chofnod 131 “Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/2019-2021/2022”:

 

"Os caiff ysgol ei hadeiladu gan ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac mae’n mynd i ddwylo'r derbynnydd ar ôl iddi gael ei chwblhau, fel y digwyddodd yn achos Carillion, beth sy’n digwydd i’r ased (yr ysgol)?”

 

Nododd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

 

127.

Adolygiad blynyddol o daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2016/17. pdf eicon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn ceisio adolygu newidiadau i Bolisi Codi Tâl y cyngor (y gwasanaethau cymdeithasol) a chytuno ar restr daliadau ar gyfer y flwyddyn 2018-2019.

 

Nodir manylion y taliadau hyn yn y ddolen ganlynol:

 

democracy.swansea.gov.uk/ieIssueDetails.aspx?IId=19283&PlanId=0&Opt=3

 

Cynigodd ddiwygiadau i argymhellion 3 a 4.

 

Penderfynwyd  

 

1)       Derbyn yr adroddiad diwygiedig am Adolygiad Blynyddol Taliadau Gofal Cymdeithasol gan Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

2)       Cymhwyso cynnydd cyffredinol o 5-6% am holl daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol a chynnydd uwch na chwyddiant i daliadau gofal cartref;

 

3)       Cyflwyno tâl ar gyfer gwasanaethau dydd i bobl hŷn ar ôl cynnal asesiadau ariannol ar gyfer holl ddefnyddwyr y gwasanaeth;

 

 

128.

Adborth ar graffu cyn penderfynu ar y gyllideb flynyddol. (llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid, farn y panel mewn perthynas â chynigion y gyllideb.

 

129.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2019/20-2021/22. pdf eicon PDF 332 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd  

 

1)       Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2019-2020 hyd at 2021-2022 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol.

 

130.

Cyllideb Refeniw 2018/19. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018-2019. Roedd yn cynnwys manylion y canlynol:

 

·                 Monitro ariannol 2017-2018;

·                 Setliad cyllid llywodraeth leol 2018-2019;

·                 Y rhagolwg cyllidebol 2018-2019;

·                 Cynigion arbed penodol;

·                 Canlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb;

·                 Goblygiadau staffio;

·                 Gofynion y cronfeydd wrth gefn;

·                 Gofyniad y gyllideb a threth y cyngor 2018-2019;

·                 Crynodeb o gynigion ariannu;

·                 Risgiau ac ansicrwydd.

 

Cyfeiriodd Swyddog Adran 151 at wall argraffyddol ar dudalen 184. Dylid newid ‘Gwasanaeth Cerdd Gorllewin Morgannwg’ i ‘Gwasanaeth Cerdd Abertawe’.

 

Cynigodd Arweinydd y Cyngor, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes ac Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes  y diwygiadau canlynol:

 

 

£

£

Newidiadau pellach i gynigion o ganlyniad i ymatebion ymgynghori

 

 

 

 

 

Hepgor - Adnoddau – Adolygu ariannu cynrychiolwyr undebau

72,000

 

Addysg – Adolygiad Corfforaethol o amodau a thelerau – Taliadau parcio staff ysgolion

150,000

 

Gohirio rhoi rhan ar waith – Gwasanaethau i Oedolion – Polisi Codi Tâl

250,000

 

 

472,000

 

Ariennir fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

Lleihau’r gronfa wrth gefn i £3.45m

 

472,000

 

 

Penderfynwyd:

 

1)      Ystyried canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adran 4.10 yr adroddiad;

 

2)       Nodi'r bwlch presennol mewn adnoddau yn Adran 4.5 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw wedi'i mantoli ar gyfer 2018-2019.

 

3)     Yn ogystal ag adolygiad o gynigion arbed presennol, bydd angen i'r Cabinet:

 

a)              Adolygu a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad hwn;

 

b)              Cytuno ar lefel treth y cyngor ar gyfer 2018/19 i'w argymell i'r cyngor;

 

4)     Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor am gymeradwyaeth:

 

a)       Cyllideb Refeniw ar gyfer 2018-2019;

 

b)       Gofyniad y gyllideb ac ardoll treth y cyngor ar gyfer 2018-2019.

 

131.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2021/22. pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2017-2018 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018-2019 i 2021-2022 (2023-2024 ar gyfer ysgolion Band B).

 

Penderfynwyd:

 

1)       Argymell y Gyllideb Cyfalaf ar gyfer 2017-2018 a Chyllideb Cyfalaf ar gyfer 2018-2019, fel a nodwyd yn Atodiadau A, B, C, Ch, D a Dd yr adroddiad, i'r cyngor eu cymeradwyo.

 

132.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2018/19. pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2018-2019 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)       Cynyddu taliadau rhent yn unol â pholisi rhent Llywodraeth Cymru fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)       Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel yr amlinellir yn Adran 3 yr adroddiad;

 

3)       Cymeradwyo'r cynigion cyllideb refeniw fel y nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad.

 

133.

Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2021/22. pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2017-2018 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018-2019 a 2020-2021.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)         Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r gyllideb ddiwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2017-2018;

 

2)         Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2018-2019 a 2020-2021;

 

3)         Lle caiff cynlluniau unigol a ddangosir yn Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod o 3 blynedd, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol.

 

134.

Adborth craffu cyn penderfyniad - Trosglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli. (llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd M A Jones, Cynullydd y Panel Craffu, farn y panel mewn perthynas â throsglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli.

 

135.

Trosglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i drosglwyddo rheolaeth a chyfrifoldebau gweithredol ar gyfer rhandiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Aelodau Rhandiroedd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Awdurdodi trosglwyddo safleoedd rhandiroedd presennol i Gymdeithasau Aelodau gyda chyfrifoldeb rheoli llawn;

 

2)              Lle nad oes diddordeb gan ddeiliaid rhandiroedd presennol i sefydlu Cymdeithas, dylai'r cyngor fynd ati i geisio trefniad â chyrff eraill i gymryd cyfrifoldeb rheoli llawn.

 

136.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg, ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.

 

1)

Ysgol Gynradd Pontarddulais

Y Cyng. Kevin Griffiths

 

137.

Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 Grant y Gronfa Drafnidiaeth Leol 2017/18 pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn cadarnhau'r cais am grant gan y Gronfa Drafnidiaeth Leol ac yn ceisio cymeradwyaeth i wario ar y cynlluniau a'r prosiectau arfaethedig yn 2017-2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cynlluniau'r Gronfa Drafnidiaeth Leol ynghyd â'u goblygiadau ariannol.

 

138.

Adborth craffu cyn penderfyniad - Priffyrdd a chludiant comisiynu adolygiad. (llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid, y byddai angen rhoi ei adborth mewn sesiwn gaeëdig.

 

139.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd  y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

(Swesiwn Gaeedig)

 

140.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant (llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid, farn y panel mewn perthynas â throsglwyddo rheolaeth o randiroedd o Ddinas a Sir Abertawe i Gymdeithasau Rheoli.

 

141.

Priffyrdd a chludiant comisiynu adolygiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad, a oedd yn dangos yr atodiadau cyfrinachol yn Adroddiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant.

</AI19><TRAILER_SECTION>

 

142.

Sesiwn Agored

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylai’r Cabinet ddychwelyd i sesiwn agored a dylid gofyn i’r cyhoedd ddychwelyd.

(Sesiwn Agored)

 

143.

Priffyrdd a chludiant comisiynu adolygiad pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn amlinellu canfyddiadau Adolygiad Comisiynu Priffyrdd a Chludiant a rhoddwyd y diweddaraf am gynnydd.

 

Penderfynwyd:

1)              Cymeradwyo'r model gweithredu argymelledig;

 

2)              Cymeradwyo cynnydd ar ddatblygu'r ymagwedd strategol tuag at gludiant;

 

3)              Nodi'r cynnydd ar gyflawni arbedion ariannol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.47pm

 

 

Cyhoeddwyd ar: 16 Chwefror 2018