Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

49.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

nol. www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

50.

Cofnodion. pdf eicon PDF 66 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Awst 2017;

 

2)              Cyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Medi 2017.

51.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

52.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

53.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau i gynghorwyr.

54.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2017/18. pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

55.

Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb 2016-17. pdf eicon PDF 61 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol adroddiad a oedd yn amlinellu'r Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb ar gyfer 2016-2017 fel sy'n ofynnol yn ôl Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

 

RESOLVED that:

 

1)              Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi a'i gyflwyno i'r rheolydd (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) yn amodol ar wneud y newid canlynol i Dudalen 75, Cyllid a Chyflwyno, Colofn 3, Ail Baragraff:

 

Dileu'r geiriau "...neu beidio â dod..." a rhoi "...neu heb ddod..." yn eu lle.

 

 

 

56.

Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 Grant y Gronfa Rhwydwaith Drafnidiaeth Leol 2017/18. pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn cadarnhau'r cais am grant gan y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Lleol ac yn ceisio cymeradwyaeth i wario ar y cynlluniau a'r prosiectau arfaethedig yn 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Cymeradwyo'r prosiect, ynghyd â'i oblygiadau ariannol, a'i gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2017-2018.

57.

Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid blynyddol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin 2017/2018. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad er gwybodaeth a oedd yn darparu cefndir a chrynodeb o gynnwys Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid blynyddol drafft Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin 2017-2018.

58.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel a ddiwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

59.

Cael gwared ar ddepo Glanfa Pipehouse, Heol y Morfa, Abertawe SA1 2EN.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn ystyried opsiynau ar gyfer cael gwared ar Ddepo Glanfa Pipehouse, Heol y Morfa, Abertawe.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r argymhellion fel a nodwyd yn yr adroddiad yn amodol ar newid argymhelliad 2 fel a nodwyd yn y cyfarfod.