Y Cyngor Plwyf
Cyngor Tref Pontarddulais
Disgrifiad
Clerc Cyngor Tref sy'n cynghori'r Cyngor Tref ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu polisïau i'w dilyn wrth
ymgymryd â'u gweithgareddau. Y Clerc hefyd sy'n cynhyrchu'r
holl wybodaeth y mae ei hangen i wneud penderfyniadau effeithiol a'u gweithredu.
Clerc y Cyngor Tref sy'n bennaf
gyfrifol am weinyddiaeth a chyllid y Cyngor Tref. Y Clerc sy'n gweithredu fel Swyddog
Ariannol Cyfrifol y Cyngor Tref.
Mae prif ddyletswyddau Clerc Cyngor Tref
yn cynnwys:
· Cymryd cofnodion
mewn cyfarfodydd a'u dosbarthu.
· Ysgrifennu llythyrau a gwneud galwadau ffôn ynghylch
materion a godwyd mewn
cyfarfodydd.
· Derbyn post a pharatoi rhestrau a dosbarthu
gwybodaeth i Gynghorwyr rhwng cyfarfodydd.
· Cysylltu â'r Cadeirydd.
· Paratoi Agendâu.
· Delio â cheisiadau cynllunio
yn y Gymuned a phan fo hynny'n
berthnasol cysylltu â Chyngor y Ddinas ynghylch cynlluniau o'r fath.
· Paratoi cyfrifon diwedd
y flwyddyn i'w harchwilio.
· Hysbysu Cyngor y Ddinas ynghylch unrhyw swyddi gwag sy'n codi ar y Cyngor a delio â'r swyddi gwag
hynny yn unol â chyfraith statudol.
Gwybodaeth gyswllt
Cyswllt:
Hilary Davies, Clerk
Cyfeiriad:
45 St Teilo Street
Pontarddulais
Abertawe
SA4 8SY
Ffôn: 01792 885890
E-bost: clerk@pontarddulaistowncouncil.gov.uk
Gwefan: www.pontarddulaistowncouncil.gov.uk
Nid yw Swansea Council yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol