Clerc Cyngor Cymuned sy'n cynghori'r Cyngor Cymuned ac yn eu cynorthwyo
i ddatblygu polisïau i'w dilyn
wrth ymgymryd â'u gweithgareddau. Y Clerc hefyd sy'n
cynhyrchu'r holl wybodaeth y mae
ei hangen i wneud penderfyniadau
effeithiol a'u gweithredu.
Clerc y Cyngor Cymuned sy'n bennaf gyfrifol
am weinyddiaeth a chyllid y
Cyngor Cymuned. Y Clerc sy'n gweithredu
fel Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor Cymuned.
Mae prif ddyletswyddau
Clerc Cyngor Cymuned yn cynnwys:
· Cymryd cofnodion mewn
cyfarfodydd a'u dosbarthu.
· Ysgrifennu llythyrau a gwneud
galwadau ffôn ynghylch materion a godwyd mewn cyfarfodydd.
· Derbyn post a pharatoi rhestrau a dosbarthu gwybodaeth i Gynghorwyr rhwng
cyfarfodydd.
· Cysylltu â'r Cadeirydd.
· Paratoi Agendâu.
· Delio â cheisiadau cynllunio
yn y Gymuned a phan fo hynny'n
berthnasol cysylltu â Chyngor y Ddinas ynghylch cynlluniau o'r fath.
· Paratoi cyfrifon diwedd
y flwyddyn i'w harchwilio.
· Hysbysu Cyngor y Ddinas ynghylch unrhyw swyddi gwag sy'n
codi ar y Cyngor a delio â'r swyddi gwag
hynny yn unol â chyfraith statudol.
Cyswllt:
Clerc
Cyfeiriad:
Council Offices
Walters Crescent
Mumbles
Abertawe
SA3 4BB
Ffôn: 01792 363598
E-bost: kerryleighgrabham@mumbles.gov.uk
Gwefan: www.mumbles.gov.uk
Nid yw Swansea Council yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol