Clerc Cyngor Cymuned
sy'n cynghori'r Cyngor Cymuned ac yn eu cynorthwyo
i ddatblygu polisïau i'w dilyn
wrth ymgymryd â'u gweithgareddau. Y Clerc hefyd sy'n
cynhyrchu'r holl wybodaeth y mae
ei hangen i wneud penderfyniadau
effeithiol a'u gweithredu.
Clerc y Cyngor Cymuned sy'n bennaf gyfrifol
am weinyddiaeth a chyllid y Cyngor Cymuned. Y Clerc
sy'n gweithredu fel Swyddog Ariannol
Cyfrifol y Cyngor Cymuned.
Mae prif ddyletswyddau
Clerc Cyngor Cymuned yn cynnwys:
· Cymryd cofnodion mewn
cyfarfodydd a'u dosbarthu.
· Ysgrifennu llythyrau a gwneud
galwadau ffôn ynghylch materion a godwyd mewn cyfarfodydd.
· Derbyn post a pharatoi rhestrau a dosbarthu gwybodaeth i Gynghorwyr
rhwng cyfarfodydd.
· Cysylltu â'r Cadeirydd.
· Paratoi Agendâu.
· Delio â cheisiadau cynllunio
yn y Gymuned a phan fo hynny'n berthnasol cysylltu â Chyngor y Ddinas ynghylch cynlluniau o'r fath.
· Paratoi cyfrifon diwedd
y flwyddyn i'w harchwilio.
· Hysbysu Cyngor y Ddinas
ynghylch unrhyw swyddi gwag sy'n
codi ar y Cyngor a delio â'r swyddi gwag
hynny yn unol â chyfraith statudol.
Cyswllt:
Susan Bagley, Clerk
Cyfeiriad:
90 Summerland Park
Upper Killay
Abertawe
SA2 7AJ
Ffôn: 01792 208281
E-bost: sue.bagley.killay@gmail.com
Gwefan: www.killaycommunitycouncil.com
Nid yw Swansea Council yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol