Clerc Cyngor Cymuned sy'n cynghori'r Cyngor Cymuned ac yn eu
cynorthwyo i ddatblygu polisïau i'w dilyn wrth ymgymryd â'u gweithgareddau. Y
Clerc hefyd sy'n cynhyrchu'r holl wybodaeth y mae ei hangen i wneud
penderfyniadau effeithiol a'u gweithredu.
Clerc y Cyngor Cymuned sy'n bennaf gyfrifol am weinyddiaeth
a chyllid y Cyngor Cymuned. Y Clerc sy'n gweithredu fel Swyddog Ariannol
Cyfrifol y Cyngor Cymuned.
Mae prif ddyletswyddau Clerc Cyngor Cymuned yn cynnwys:
· Cymryd cofnodion
mewn cyfarfodydd a'u dosbarthu.
· Ysgrifennu
llythyrau a gwneud galwadau ffôn ynghylch materion a godwyd mewn cyfarfodydd.
· Derbyn post a
pharatoi rhestrau a dosbarthu gwybodaeth i Gynghorwyr rhwng cyfarfodydd.
· Cysylltu â'r
Cadeirydd.
· Paratoi Agendâu.
· Delio â
cheisiadau cynllunio yn y Gymuned a phan fo hynny'n berthnasol cysylltu â
Chyngor y Ddinas ynghylch cynlluniau o'r fath.
· Paratoi cyfrifon
diwedd y flwyddyn i'w harchwilio.
· Hysbysu Cyngor y
Ddinas ynghylch unrhyw swyddi gwag sy'n codi ar y Cyngor a delio â'r swyddi
gwag hynny yn unol â chyfraith statudol.
Cyswllt:
Allison James, Clerk
Cyfeiriad:
11 Glyn Rhosyn
Tregŵyr
Abertawe
SA4 6HX
Ffôn: 07545 251945
E-bost: Clerk@Gowertoncc.org.uk
Gwefan: www.gowertoncc.org.uk/
Nid yw Swansea Council yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol