Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y Cyngor Plwyf

The Community/Town Council Clerk can be contacted using the details below.

Cyngor Tref Gorseinon

Disgrifiad

Clerc Cyngor Tref sy'n cynghori'r Cyngor Tref ac yn eu cynorthwyo i ddatblygu polisïau i'w dilyn wrth ymgymryd â'u gweithgareddau. Y Clerc hefyd sy'n cynhyrchu'r holl wybodaeth y mae ei hangen i wneud penderfyniadau effeithiol a'u gweithredu.

Clerc y Cyngor Tref sy'n bennaf gyfrifol am weinyddiaeth a chyllid y Cyngor Tref. Y Clerc sy'n gweithredu fel Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor Tref.

Mae prif ddyletswyddau Clerc Cyngor Tref yn cynnwys:

·   Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd a'u dosbarthu.

·   Ysgrifennu llythyrau a gwneud galwadau ffôn ynghylch materion a godwyd mewn cyfarfodydd.

·   Derbyn post a pharatoi rhestrau a dosbarthu gwybodaeth i Gynghorwyr rhwng cyfarfodydd.

·   Cysylltu â'r Cadeirydd.

·   Paratoi Agendâu.

·   Delio â cheisiadau cynllunio yn y Gymuned a phan fo hynny'n berthnasol cysylltu â Chyngor y Ddinas ynghylch cynlluniau o'r fath.

·   Paratoi cyfrifon diwedd y flwyddyn i'w harchwilio.

·   Hysbysu Cyngor y Ddinas ynghylch unrhyw swyddi gwag sy'n codi ar y Cyngor a delio â'r swyddi gwag hynny yn unol â chyfraith statudol.

 

 

Gwybodaeth gyswllt

Cyswllt:
John Millard, Clerk

Cyfeiriad: 
39 Gorseinon Road
Penllergaer
Abertawe
SA4 9AE

Ffôn:  01792 895690

E-bost:  clerk@gorseinontowncouncil.gov.uk

Gwefan:  www.gorseinontowncouncil.gov.uk

Nid yw Swansea Council yn gyfrifol am gynnwys unrhyw linc allanol