Ar 15 Rhagfyr 2016 cymeradwyodd y Cabinet
gynlluniau Cyngor Dinas a Sir Abertawe i adnewyddu ei holl wasanaeth EOTAS yn
sylweddol i ddarparu arfer sy'n arwain y sector. Y nod yw ail-lunio'r
gwasanaeth er mwyn datblygu arfer da presennol, a thrawsnewid y ddarpariaeth i
gefnogi plant diamddiffyn a'u teuluoedd ac i fodloni'r gofyn i ddarparu addysg
amser llawn addas yn brydlon i'r plant a'r bobl ifanc y mae angen iddynt gael
addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol. Mae'n rhaid ystyried hyn hefyd yng
nghyd-destun y polisi cenedlaethol sy'n datblygu, gan gynnwys yr adroddiad
diweddar gan Estyn (Mehefin 2016) yn ogystal â phwysau cyllidebol cenedlaethol
a lleol.
Roedd argymhellion a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr
2016 yn cynnwys cynnig i ailstrwythuro Uned Atgyfeirio Disgyblion Abertawe'n
dri llinyn (ABC), er mwyn cyflwyno addysg mewn awyrgylch dysgu sy'n addas at y
diben.
Cymeradwywyd datblygiad cynllun am Uned
Atgyfeirio Disgyblion newydd ar dir yn Heol y Cocyd a chyflwyniad cais
cynllunio manwl gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2017.
Cymeradwywyd caniatâd cynllunio ar gyfer
dymchwel 3 adeilad ar y safle ac adeiladu cyfleuster pwrpasol 3500m2
ym mis Mawrth 2018.
Cymeradwywyd dyfarniad contract gan y Cabinet ar 18 Hydref 2018 yn unol
â CPR 13.10.
Ar 15 Mawrth 2019 aeth y contractwr a benodwyd, Dawnus Construction Ltd
i ddwylo'r gweinyddwyr ac ni allai gyflawni ymrwymiadau'r contract mwyach.
Ar 15 Mawrth 2019, roedd datblygiad y safle wedi dechrau a'r cyfnod
dymchwel wedi'i gwblhau, ond er bod y gwaith cyn adeiladu yn mynd rhagddo, nid
oedd y prif gam adeiladu wedi dechrau ac roedd yn amodol ar y contractiwr yn
cwblhau elfennau o ddylunio technegol.
Mae'r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer dyfarnu contract
newydd a dewis/penodi contractiwr.
Math o fusnes: Key
Statws: Argymhellion wedi'u Cymeradwyo
Hysbysiad o benderfyniad arfaethedig wedi’i gyhoeddi gyntaf: 12/04/2019
Angen Penderfyniad: 2 Mai 2019 Yn ôl Y Cabinet
Prif Aelod: Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu
Prif Gyfarwyddwr: Cyfarwyddwr Addysg
Cyswllt: Louise Herbert-Evans, Pennaeth yr Uned Cynllunio a Chyflwyno Cyfalaf E-bost: louise.herbert-evans@swansea.gov.uk.