Mae Cynghorwyr Hyrwyddo'n bodoli i roi llais i grwpiau sydd
wedi'u tangynrychioli'n draddodiadol, neu faterion y mae angen eu cadw ar flaen
busnes y cyngor er nad ydynt efallai'n gyfrifoldeb i unrhyw unigolyn neu
bwyllgor.
Mae Cynghorwyr Hyrwyddo, (weithiau o'r enw Aelodau Arweiniol neu
Aelodau Hyrwyddo), yn ychwanegol at eu cyfrifoldebau eraill, yn sicrhau bod y
mater neu'r grŵp maent yn ei hyrwyddo'n cael ei ystyried wrth lunio
polisi'r cyngor a gwneud penderfyniadau.
Gall Cynghorwyr weithredu fel hyrwyddwyr nifer o feysydd megis
gwrthdlodi, bioamrywiaeth, plant, cydraddoldebau, gwella iechyd, digartrefedd,
cefnogi a datblygu aelodau, pobl hŷn, craffu a phobl ifanc. Nid yw'r
rhestr hon yn gynhwysfawr.
Penodir Cynghorwyr Hyrwyddo gan Arweinydd y Cyngor
Yn nodweddiadol, bydd yr Cynghorwyr Hyrwyddo'n:
·
sicrhau yr ystyrir ei faes diddordeb wrth lunio polisi neu wneud
penderfyniadau;
·
gofyn cwestiynau am berfformiad ac adnoddau i'r maes;
·
codi proffil y maes ac yn rhoi gwybod i'r awdurdod am arfer
da; ymgysylltu â chyrff allanol sy'n gweithio yn y maes;
·
cysylltu â swyddogion ac aelodau eraill mewn perthynas â'r rôl;
·
ymgysylltu â grwpiau cymunedol â diddordeb/budd yn y maes;
·
rhoi gwybod i'r Cynghorwyr am gamau gweithredu trwy'r cyngor,
corff perthnasol arall neu'n electronig.