Mae
Cynghorwyr Hyrwyddo'n bodoli i roi llais i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli'n
draddodiadol, neu faterion y mae angen eu cadw ar flaen busnes y cyngor er nad
ydynt efallai'n gyfrifoldeb i unrhyw unigolyn neu bwyllgor.
Mae Cynghorwyr Hyrwyddo, (weithiau o'r enw Aelodau Arweiniol
neu Aelodau Hyrwyddo), yn ychwanegol at eu cyfrifoldebau eraill, yn sicrhau bod
y mater neu'r grŵp maent yn ei hyrwyddo'n cael ei ystyried wrth lunio
polisi'r cyngor a gwneud penderfyniadau.
Gall Cynghorwyr weithredu fel hyrwyddwyr nifer o feysydd
megis gwrthdlodi, bioamrywiaeth, plant, cydraddoldebau, gwella iechyd,
digartrefedd, cefnogi a datblygu aelodau, pobl hŷn, craffu a phobl ifanc.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Penodir Cynghorwyr Hyrwyddo gan Arweinydd y Cyngor
Yn nodweddiadol, bydd yr Cynghorwyr Hyrwyddo'n:
·
sicrhau yr ystyrir ei faes diddordeb
wrth lunio polisi neu wneud penderfyniadau;
· gofyn cwestiynau am berfformiad ac
adnoddau i'r maes;
·
codi proffil y maes ac yn rhoi gwybod
i'r awdurdod am arfer da; ymgysylltu â chyrff allanol sy'n gweithio yn y
maes;
· cysylltu â swyddogion ac aelodau eraill
mewn perthynas â'r rôl;
· ymgysylltu â grwpiau cymunedol â
diddordeb/budd yn y maes;
· rhoi gwybod i'r Cynghorwyr am gamau
gweithredu trwy'r cyngor, corff perthnasol arall neu'n electronig.