Mae Cynghorwyr Hyrwyddo'n bodoli i roi llais
i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli'n draddodiadol,
neu faterion y mae angen eu
cadw ar flaen busnes y cyngor er nad ydynt efallai'n gyfrifoldeb i unrhyw unigolyn neu bwyllgor.
Mae Cynghorwyr Hyrwyddo, (weithiau o'r enw Aelodau Arweiniol neu Aelodau Hyrwyddo), yn ychwanegol
at eu cyfrifoldebau eraill,
yn sicrhau bod y mater neu'r
grŵp maent yn ei hyrwyddo'n cael ei ystyried wrth lunio
polisi'r cyngor a gwneud penderfyniadau.
Gall Cynghorwyr weithredu fel hyrwyddwyr nifer o feysydd megis gwrthdlodi,
bioamrywiaeth, plant, cydraddoldebau,
gwella iechyd, digartrefedd, cefnogi a datblygu aelodau, pobl hŷn, craffu a phobl ifanc. Nid yw'r
rhestr hon yn gynhwysfawr.
Penodir Cynghorwyr Hyrwyddo gan Arweinydd y
Cyngor
Yn nodweddiadol, bydd
yr Cynghorwyr Hyrwyddo'n:
·
sicrhau yr ystyrir ei
faes diddordeb wrth lunio polisi
neu wneud penderfyniadau;
·
gofyn cwestiynau am berfformiad
ac adnoddau i'r maes;
·
codi proffil y maes
ac yn rhoi gwybod i'r awdurdod am arfer da; ymgysylltu â chyrff allanol sy'n gweithio yn y maes;
·
cysylltu â swyddogion ac aelodau eraill mewn perthynas â'r rôl;
·
ymgysylltu â grwpiau cymunedol
â diddordeb/budd yn y maes;
·
rhoi gwybod i'r
Cynghorwyr am gamau gweithredu
trwy'r cyngor, corff perthnasol arall neu'n electronig.