Prif
nod craffu yw gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' i'r Cabinet a phobl eraill
sy'n gwneud penderfyniadau, er mwyn hyrwyddo gwell gwasanaethau, polisïau a
phenderfyniadau. Mae trosolwg a chraffu'n debyg i waith pwyllgorau dethol San
Steffan ac mae ei aelodau'n dod o blith cynghorwyr nad ydynt yn aelodau'r
Cabinet. Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n gyfrifol am gydlynu gwaith craffu a
fydd yn sicrhau bod Gweithrediaeth y cyngor yn atebol ac am archwilio gwaith
holl adrannau'r cyngor, yn ogystal â gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Yn unol â’n Hysbysiad
Cydymffurfio, cyhoeddir agendâu a chofnodion ein cyfarfodydd yn ddwyieithog.
Clerc: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923.