·
Y
Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe;
·
Byw'n
Dda, Henediddio'n Dda - Adam Hill, Cyngor Abertawe;
·
Gweithio
gyda Natur - Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru;
· Cymunedau Cryfach - Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Cofnodion:
Amlygwyd y
diweddaraf o'r adroddiad a darparwyd cofnodion risgiau'r canlynol:
·
Y
Blynyddoedd Cynnar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (diweddariad a
ddarparwyd gan Joanne Abbott-Davies;)
Camau gweithredu:
1)
Nodi
arweinydd ar gyfer Grŵp Llywio Strategaeth Comisiynu'r Blynyddoedd Cynnar
yn dilyn ymddeoliad Andrew Davies;
2)
Darparu
cefnogaeth strategol ar gyfer gweithlu'r BGC i hyrwyddo ymgyrch 'Dechrau
Gorau';
3)
Trafod
materion cyllideb staff iechyd gyda Jig-so, archwilio'r math o gefnogaeth y
gall y BGC ei darparu i sicrhau bod y prosiect hwn yn parhau;
4)
Hyfforddiant
arbenigol sy'n cefnogi'r sector i ddeall plant ag ADY o fewn y ddarpariaeth, i fynd
i'r afael â hwy ac i'w cefnogi;
5)
Bod
yn hyderus bod yr atgyfeiriadau i gefnogaeth arbenigol yn gallu gwrthsefyll
cynnydd posib yn nifer y plant y nodwyd bod ganddynt ADY e.e. cyn tair oed.
·
Byw'n
Dda, Heneiddio'n Dda - Adam Hill, Cyngor Abertawe;
Camau gweithredu:
1)
Ydy'r
BGC yn gallu ystyried symud Newid Diwylliant a Chyfranogaeth i thema
drawsbynciol ar draws y 4 amcan? Ar hyn
o bryd mae'n sefyll o fewn amcan Byw'n Dda Heneiddio'n Dda ac argymhellwyd yn
gryf gan bawb a oedd yn bresennol yn y gweithdy amcan Byw'n Dda Heneiddio'n Dda
fod hwn yn amcan a fyddai'n amlwg ar hyd holl waith y BGC;
2)
Ydy'r
BGC yn gallu archwilio sut olwg fyddai ar 'City for All' gan gymryd ymagwedd
sy'n seiliedig ar hawliau a sut byddai'r berthynas rhwng mentrau penodol megis
Dinasoedd sy'n Gyfeillgar i Oed, Dinasoedd Chwareus, Dinas Noddfa, Dinasoedd Rhyngddiwylliannol, Dinas Diwylliant, Dinas Hawliau Dynoll, er enghraifft? Yn y gweithdy, soniwyd am y rhain yn
aml fel negeseuon cymhleth ac anghyson i bartneriaid a dinasyddion.
·
Gweithio
gyda Natur – Martyn Evans, Cyfoeth Naturiol Cymru
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y
gwaith a wnaed, yn enwedig y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd y gellid ei
defnyddio fel enghraifft o waith da y BGC yn y gorffennol. Yn ogystal, plannwyd coed ym Mhen-lan fel
canlyniad uniongyrchol i'r trafodaethau a gynhaliwyd yn y BGC.
Cynhaliwyd Cam 1 cynllun ar y cyd gyda CNC a
Chyngor Bwrdeistref Sirol Sir Penfro ar newid yn yr hinsawdd. Byddai cyfle i Abertawe a Chastell-nedd Port
Talbot fod yn rhan o Gam 2. Byddai
manylion ychwanegol yn cael eu darparu maes o law.
Camau gweithredu:
1)
Ymrwymiad
ehangach gyda thema Gweithio gyda Natur;
2)
Martyn
Evans i ddarparu ragor o wybodaeth am Gam 2 y cynllun Newid yn yr Hinsawdd maes
o law.
·
Cymunedau
Cryfach - Roger Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Camau gweithredu:
1)
Partneriaid
y BGC i sicrhau presenoldeb priodol yn y cyfarfodydd, h.y. y rheini sy'n
bresennol a chanddynt yr awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran eu sefydliadau perthnasol;
2)
Y BGC
i sicrhau bod y rheini sy'n gyfrifol am y camau gweithredu'n ymrwymo i
gyflwyno'r camau gweithredu cytunedig o fewn y cynllun.
Camau
gweithredu eraill a godwyd:
1) Awgrymwyd
hefyd y dylai'r grŵp o 4 o swyddogion arweiniol gwrdd yn fwy rheolaidd.
2) Joanne
Abbott-Davies i roi gwybod i Steve Davies am enw cynrychiolydd GIG ar gyfer
ffrwd waith Cymunedau Cryf.
Cynrychiolydd i fod yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y ffrwd waith ar
24 Medi.
3) Eitem
Dinasoedd Iach hefyd i'w chynnwys yn eitem 'Dinas i Bawb'.
Eglurwyd nad oes
angen i'r arweinydd strategol ar gyfer y ffrwd waith fod yn aelod o'r BGC. Byddai'r BGC yn pennu'r cyfeiriad strategol
ac yn adrodd yn ôl i bob un o'r 4 o arweinwyr strategol.
Cydnabuwyd mai dyma'r
tro cyntaf i bartneriaid gwblhau'r ffurflenni hyn ac roeddent yn dal i ddysgu
am yr hyn y dylid ei gynnwys/eithrio.
Byddai enghraifft o ffurflen wedi'i chwblhau'n dda yn cael ei
chylchredeg maes o law.
Tynnodd
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sylw at y gwaith parhaus ac roedd yn awyddus
i ddeall sut y byddai hyn yn bwydo i mewn i waith strategol y BGC a sut y
gellid arwain y camau gweithredu wrth fynd ymlaen:
·
Camau
cynnar gyda'n gilydd - rôl gadarnhaol yn y gymuned;
·
Gwaith
Digwyddiadau Tyngedfennol - parhaus;
·
Agenda
Trosedd - Llywodraeth y DU wedi dyrannu £880,000 i'w ddefnyddio ar gyfer
ymyrryd yn gynnar a buddion tymor hir.
Byddai strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 4 blwyddyn ar y cyd
hefyd yn cael ei lansio;
·
Rhaglen
IRIS (hyfforddi staff meddygfeydd ynghylch trais);
·
Prosiect
Drive (Merthyr a Chaerdydd) - herio tramgwyddwyr.
Nododd Adam Hill,
lle y bo'n berthnasol, y byddai'r ffrwd waith yn codi unrhyw gamau gweithredu
perthnasol. Fodd bynnag, os oedd
rhywbeth penodol i'w drafod mewn mwy o fanylder, gellid ychwanegu'r eitem at yr
agenda (gyda chymeradwyaeth gan y Cadeirydd) a chael adroddiad wedi'i ddrafftio
gan y partner/cyfranogwr a wahoddwyd perthnasol.
Byddai'r
Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol yn cael ei gynnal ar 19 Medi a bydd yn
canolbwyntio ar y cynllun gweithredu.
Grŵp Tasg a Gorffen 1 flwyddyn yw hwn. Byddai Adamk Hill
yn darparu diweddariad yn y cyfarfod nesaf.
Tynnwyd sylw hefyd at Stryd Fawr Abertawe, sydd wedi'i henwebu ar gyfer gwobr Stryd Fawr Orau Prydain.
Dogfennau ategol: