Agenda item

Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn

Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles 

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

 

 

Cofnodion:

Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad ac am fod yn bresennol yn y cyfarfod i drafod Canlyniadau Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn.

 

Amlinellodd y panel y materion canlynol:

 

  1. Pryder bod yr adolygiad comisiynu wedi cymryd rhy hir i'w gwblhau a theimlwyd y dylai gofal preswyl a dydd fod wedi'u gwahanu am eu bod yn drysu pobl.
  2. Roedd y panel yn teimlo bod yr ymgynghoriad gwreiddiol yn 2016 yn rhy gymhleth ac nid oedd yn cyrraedd y bobl roedd i fod i effeithio arnynt.
  3. Nid oedd unrhyw wybodaeth am y cynigion nac unrhyw weledigaeth tymor hir o ran newidiadau dros amser i bobl sy'n symud i leoliadau gofal gwahanol a newidiadau i anghenion tymor hir a'r hyn mae'n ei olygu i'r cynigion.
  4. Pryder y byddai'r adolygiadau ar gyfer diffinio unigolion fel rhai ag anghenion cymhleth yn cael eu cynnal yn fewnol yn y model arfaethedig newydd. Mae'r panel yn teimlo'n gryf bod angen i'r Adran Iechyd gael ei chynnwys am fod ardal lwyd rhwng gofal cymdeithasol a gofal nyrsio ac nid yw staff y cyngor yn ddigon cymwys i ymgymryd â'r adolygiadau ar eu pennau eu hunain. Roedd pryder mawr hefyd ynghylch holl aelodau'r panel mewn perthynas â'r diffiniad o ofal cymhleth, a oedd yn crwydro i faes gofal nyrsio a byddai'n cynnwys staff meddygol hyfforddedig a chymwys er mwyn ei gyflwyno.
  5. Er yr hyder y gall staff ddatblygu eu sgiliau er mwyn ymdrin ag anghenion cymhleth, mae'r panel yn ddrwgdybus a hoffent gael sicrwydd ar lefel hyfforddi, dilysiad a goruchwyliaeth staff y mae gofyn iddynt ddarparu gofal ar y lefel hon.
  6. Mae'r panel yn nodi mai gweledigaeth tymor hir y cyngor yw dibynnu ar y sector preifat i gyflwyno gofal cyhoeddus safonol ac mae'n bryderus na fydd y cyngor yn cynnig opsiwn ar gyfer y sector cyhoeddus. Rydym yn teimlo bod angen i hyn gael ei gydnabod a chael ei egluro i'r cleientiaid.
  7. Hoffai'r panel weld peth o'r ddarpariaeth ar gyfer anghenion cymhleth yn cael ei rhannu â darparwyr eraill.
  8. Mewn perthynas â chau safle Parkway, teimlodd y panel nad oedd unrhyw eglurder o ran yr hyn bydd yn digwydd os bydd y safle'n cau. Nodwyd bod gwerth y safle wedi'i ystyried wrth asesu'r penderfyniad i'w gau, ond nid oedd yn bosib i'r tystion ddarparu unrhyw fanylion o ran yr hyn a oedd y prisiant yn seiliedig arno, ac a oedd yn gyson â'r cynigion yn yr adroddiad i'w gadw ar gyfer gofal preswyl preifat neu sut y byddai'r uchelgais hwnnw'n cael ei gyflawni.
  9. Roedd y panel yn teimlo y byddai posibilrwydd o wrthwynebiad cryf i'r cynigion gan breswylwyr Parkway a hoffent wybod sut bydd yr awdurdod yn symud ymlaen os yw preswylydd yn gwrthod gadael.
  10. Roedd y panel yn teimlo bod ffioedd ychwanegol ar gyfer gofal preswyl yn fater y mae angen mynd i'r afael ag ef. Roeddem yn teimlo y gallai fod yn ffactor i rai preswylwyr wrth iddynt ddewis lle maent am gael eu hailgartrefu, ond nid oedd hyn wedi'i drin o ddifrif yn yr ymatebion i gwestiynau ar y mater.
  11. Hoffai'r panel gael cadarnhad y bydd adolygiad blynyddol o bob preswylydd mewn gofal preswyl gan bobl gymwys er mwyn asesu eu hanghenion parhaus.
  12. Hoffai'r panel gael mwy o fanylion am ddarpariaeth gofal dydd arall ar gyfer cleientiaid nad oes ganddynt anghenion cymhleth na fyddai'n gallu parhau i gael mynediad i'r tair ganolfan dydd sydd ar ôl ar gyfer pobl hŷn mwyach.

 

 

Dogfennau ategol: