Mae cyfarfodydd y cyngor bellach yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd aml-leoliad (cyfeirir atynt hefyd fel cyfarfodydd hybrid) a chânt eu ffrydio’n fyw lle bo modd.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i’r cyngor gynnal ei gyfarfodydd o bell a/neu lle nad yw’r holl cyfranogwyr yn yr un lle’n gorfforol.
Gallwch lawrlwytho, gweld ac anodi ein papurau cyfarfod yn awtomatig trwy ddefnyddio’r ap ‘mod.gov’ ar ddyfeisiau iPad, Android a Window.Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol (e.e. dogfen Word) cysylltwch â’r gwasanaethau democrataidd - ffôn 01792 636923 / e-bost democratiaeth@abertawe.gov.uk
Mae penderfyniadau a wneir gan y cyngor, y Cabinet ac unrhyw gorff arall y cyngor yn cael eu gwneud drwy godi llaw oni bai fod system bleidleisio electronig ar gael.
Cyhoeddir canlyniadau e-bledleisiau yn www.abertawe.gov.uk/ebleidlesiau.
Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Grŵp Cynghori ar AoHNE Gŵyr.
Mae’r cyfarfod hwn wedi disodli Grŵp
Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr, yn effeithiol o fis Ionawr 2023.
Grŵp ymgynghorol yw Grŵp Cynghori ar AoHNE Gŵyr. Fe'i sefydlwyd gan y Cyngor er mwyn hwyluso rheolaeth AoHNE Gŵyr wrth gyflawni ei gyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol parthed AoHNE Gŵyr.
Yn unol â’n Hysbysiad Cydymffurfio, cyhoeddir agendâu a
chofnodion ein cyfarfodydd yn ddwyieithog.