Pori cyfarfodydd

Cyd-Bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Mae cyfarfodydd y cyngor bellach yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd aml-leoliad (cyfeirir atynt hefyd fel cyfarfodydd hybrid) a chânt eu ffrydio’n fyw lle bo modd.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn caniatáu i’r cyngor gynnal ei gyfarfodydd o bell a/neu lle nad yw’r holl cyfranogwyr yn yr un lle’n gorfforol.

Gwylio cyfarfodydd ar-lein

Gallwch lawrlwytho, gweld ac anodi ein papurau cyfarfod yn awtomatig trwy ddefnyddio’r ap ‘mod.gov’ ar ddyfeisiau iPad, Android a Window.

Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat gwahanol (e.e. dogfen Word) cysylltwch â’r gwasanaethau democrataidd - ffôn 01792 636923 / e-bost democratiaeth@abertawe.gov.uk

Mae penderfyniadau a wneir gan y cyngor, y Cabinet ac unrhyw gorff arall y cyngor yn cael eu gwneud drwy godi llaw oni bai fod system bleidleisio electronig ar gael.

Cyhoeddir canlyniadau e-bledleisiau yn www.abertawe.gov.uk/ebleidlesiau.

Mae’r dudalen hon yn rhestru’r cyfarfodydd ar gyfer Cyd-Bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Cyd-Bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Cyn 28 Mai 2019, Cyngor Sir Gâr oedd yr awdurdod cynnal ar gyfer cyfarfodydd y cyd-bwyllgor, a cheir mwy o wybodaeth, gan gynnwys agendâu a chofnodion, ar ei wefan: http://democratiaeth.sirgar.llyw.cymru/ieListMeetings.aspx?CommitteeId=273

Sefydlwyd y Cydbwyllgor i fonitro'r Fargen Dinas Rhanbarth Dinas Bae Abertawe.

 

Gwnaed Cytundeb Cyd-Bwyllgor rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Sir a Dinas Abertawe i gydweithio i gyflawni eu rhwymedigaethau i'w gilydd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i hyrwyddo a hwyluso prosiectau.

 

Mwy o wybodaeth am Bargen Dinas Bae Abertawe: http://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/

 

CyngorBwrdeistrefSirol Castell-nedd Port Talbot yw'r awdurdod llety ar gyfer y Cydbwyllgor Craffu a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth gan gynnwys agendâu a chofnodion ar eu gwefan.

 

https://democracy.npt.gov.uk/mgListCommittees.aspx?bcr=1&LLL=1