Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Adroddiad a Chyflwyniad ar Brexit pdf eicon PDF 256 KB

Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet - yr Economi a Strategaeth

Adam Hill, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Adnoddau

Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

Craig Gimblett, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol

Paul Relf, Rheolwr Datblygu Economaidd ac Ariannu Allanol

 

Cofnodion:

Daeth Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet - yr Economi a Strategaeth, Adam Hill, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Adnoddau a swyddogion perthnasol eraill i gyflwyno trosolwg o baratoadau'r cyngor ar gyfer Brexit ac i ateb cwestiynau'r Gweithgor. 

 

Trafodwyd y prif faterion canlynol:

 

  • Gan fod cymaint o ansicrwydd, mae Cyngor Abertawe wedi paratoi cymaint ag sy'n bosib ac mae'n debyg ei fod wedi paratoi mwy nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru. 
  • Roedd y DU yn gobeithio gadael yr UE ym mis Mawrth 2019 ac roedd yr awdurdod yn barod am hynny. Mae pryderon eraill ynghylch Brexit yn yr hydref, o'i gymharu â Brexit yn y gwanwyn.
  • Mae cyfathrebu'n bwysig iawn. Mae angen sicrhau nad yw'r cyhoedd yn prynu'n wyllt nac yn pentyrru nwyddau (bwyd, tanwydd, meddyginiaethau).
  • Mae pryder y bydd rhai grwpiau'n defnyddio Brexit fel ffordd o hyrwyddo'u materion eu hunain ac achosi aflonyddwch.
  • Mae tlodi o ganlyniad i Brexit yn bryder mawr i'r awdurdod.
  • Gall Brexit ddod â rhai manteision i'r ardal yn y dyfodol ac mae angen i ni hyrwyddo rhai cyfleoedd i bobl a busnesau lleol. 
  • Nid oes gan bawb fynediad at gyfrifiadur a gwefan y cyngor er mwyn cael gwybodaeth am Brexit. Caiff aelodau'r cyhoedd sy'n cysylltu â'r cyngor eu cyfeirio i'r person cywir i ymdrin â'r materion a godir ganddynt. 
  • Cefnogir busnesau bach i baratoi trwy BID, sy'n cefnogi busnesau canol y dref. Mae'r Siambr Fasnach hefyd yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth busnesau ohono ac mae gan wefannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wybodaeth am sut y dylai busnesau baratoi ar ei gyfer. 
  • Mae cyflenwad tanwydd yn broblem genedlaethol. Mae'r heddlu a'r llywodraeth genedlaethol wedi gosod cynlluniau wrth gefn yn eu lle. Os bydd problem rheoli traffig, bydd adran priffyrdd y cyngor yn gwneud ei rhan.
  • Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn broblem. Nid ydym yn gwybod pa fath o ddylanwad y byddant yn ei gael.
  • Mae'r awdurdod wedi derbyn £45,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer Brexit. Defnyddiwyd hyn i dalu am amser y swyddogion. Nid ydym yn gwybod os byddwn yn derbyn rhagor o arian ond mae costau, gan gynnwys amser y swyddogion, yn cael eu cofnodi.
  • Mae'r awdurdod yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru a'r llywodraeth genedlaethol bob mis. Mae CLlLC yn cyfarfod bob mis ac Arweinydd y Cyngor yw cadeirydd y grŵp hwn. Mae'r awdurdod hefyd yn cynnal cyfarfodydd mewnol bob pythefnos ac mae'r holl wybodaeth a dderbynnir trwy ffynonellau gwahanol yn cael ei chynnwys yn y cyfarfodydd hyn. 
  • Dyddiad arfaethedig Brexit yw 31 Hydref 2019, sy'n ddydd Iau. Nid yw'r diwrnod yn bwysig oherwydd bydd cynlluniau wrth gefn yr awdurdod yn eu lle ac, wrth i'r dyddiad nesáu, cynhelir cyfarfodydd dyddiol. 
  • Nid yw'n hysbys beth fyddai effaith oedi Brexit ymhellach ar baratoadau.  Mae'n dibynnu pa mor hir fydd yr oedi ac ar ba adeg o'r flwyddyn. Ni all yr awdurdod barhau i baratoi ar gyfer Brexit yn ddiderfyn oherwydd mae swyddogion yn treulio cymaint o'u hamser yn ymdrin â'r mater.
  • Bydd yr effeithiau'n dod i'r amlwg yn ystod yr wythnos a'r misoedd cyntaf ar ôl Brexit. 
  • Mae cynlluniau prifysgolion yn denu nifer mawr o fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE) a byddai hynny'n cael effaith fawr ar economi Abertawe.  Mae Prifysgol Abertawe wedi ceisio lliniaru'r peryglon. 
  • Mae'r UE yn gyfrifol am gyfarwyddebau'r amgylchedd naturiol a chynefinoedd, sy'n rhan o ddeddfwriaethau'r UE. Bydd hyn yn dod yn rhan o gyfraith y DU/Cymru ar ôl Brexit, ond mae pryder y bydd hyn yn effeithio ar yr amgylchedd naturiol o ran diogelu ac ni ellir anghofio hyn. 

 

 

4.

Trafodaeth a Chwestiynau

 

Gofynnir i Gynghorwyr drafod y casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet:

 

a) Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet yn llythyr y Cynullydd (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)?

 

b) Oes gennych unrhyw argymhellion sy'n codi o'r sesiwn hon i Aelod y Cabinet?

 

c) Oes unrhyw faterion eraill sy'n codi o'r sesiwn hon yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt?

 

d) Oes angen cyfarfod arall arnom ar ôl BREXIT?

 

Cofnodion:

Trafododd y gweithgor gynnydd a daeth at y casgliadau canlynol:

 

  1. Roedd y sesiwn friffio'n llawn gwybodaeth a chawsom ein sicrhau bod yr awdurdod wedi gwneud yr hyn a all ei wneud i baratoi ar gyfer Brexit.
  2. Rydym yn pryderu o hyd am yr hyn y gall yr awdurdod ei wneud os bydd unrhyw argyfwng o ran tanwydd. Gallai hyn gael effaith enfawr ar gymunedau os yw'n parhau am fisoedd. Rydym yn pryderu'n fawr ynghylch a fydd y cyhoedd yn gallu defnyddio cludiant er mwyn mynd i'r gwaith etc., yn ogystal â'r gwasanaethau brys. Rydym yn ymwybodol na ddylai fod prinder tanwydd ond os bydd prynu gwyllt, gallai hyn achosi prinder.
  3. Rydym yn credu y gallai Brexit roi cyfleoedd i ffermwyr a busnesau lleol a'r porthladd yn Abertawe. Hyd yn oed pe bai busnesau'n defnyddio'r rhain fel mesur dros dro, efallai y byddant yn penderfynu ei fod yn opsiwn gwell.  Hoffem weld yr awdurdod yn hyrwyddo'r cyfleoedd hyn.
  4. Teimlwn fod angen i'r awdurdod fod yn ofalus iawn ynghylch yr iaith a ddefnyddir mewn fforymau etc. Mae angen sicrhau bod y negeseuon cywir yn cael eu hanfon ac mae angen rheoli hyn yn ofalus.
  5. Rydym yn falch ein bod wedi derbyn arian tuag at baratoi ar gyfer Brexit.  Fodd bynnag, mae'n swm bach iawn ac rydym yn pryderu ynghylch sut bydd yr awdurdod yn cael ei ad-dalu am yr holl gostau o ran rheoli a monitro hyn.  Mae angen i'r awdurdod ymchwilio i'r holl ffyrdd o gael yr arian hwn yn ôl.  
  6. Hoffem weld yr awdurdod yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r holl waith da y mae'n ei wneud wrth baratoi ar gyfer Brexit. Mae angen i ni gyfleu ein bod wedi paratoi cymaint ag y gallwn.
  7. Byddwn yn argymell bod Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n trefnu cyfarfod dilynol ar gyfer y gweithgor hwn ar ôl Brexit.

  

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

  • Caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y gweithgor i Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac argymhellion y gweithgor.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 199 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 313 KB