Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

53.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

D Anderson-Thomas – personol – Cofnod Rhif 57 – Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Gŵyr.

 

Y Cynghorydd C A Holley - personol - Cofnod Rhif 58 - Cadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Burlais

54.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o bleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

55.

Cofnodion. pdf eicon PDF 233 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 1 Awst 2019 a chofnodion cyfarfod Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 9 Medi 2019 fel cofnodion cywir. 

56.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

57.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Aelod y Cabinet Dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau (y Cynghorydd Jennifer Raynor) pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, adroddiad ar y penawdau allweddol ar gyfer y portffolio Gwella Addysg, Dysgu a Sgiliau. Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Phennaeth y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn hefyd yn bresennol ar gyfer y sesiwn holi ac ateb. 

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·            Llygredd aer/allyriadau cerbydau sy'n teithio ac yn parcio y tu allan i ysgolion - monitro ysgolion am lygredd aer              

·            Parcio mewn mannau peryglus y tu allan i ysgolion a phroblemau gydag achosion o gam-drin wrth reoli'r parcio yn y mannau hynny

·            Addysg ar yr amgylchedd, hinsawdd a bioamrywiaeth a rôl llywodraethwyr ysgolion

·            Monitro Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (CAA)

·            Hygyrchedd cyrsiau Dysgu Gydol Oes - darpariaeth a chymorth i'r rheini ag anableddau  

·            Arolygon cyflwr ysgolion - difrod dŵr diweddar yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac adnewyddu'r to

·            Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cyllid Band B

·            Addysg Trwy Weithio Rhanbarthol (ERW) - problemau a gwelliannau sydd heb eu gwneud eto ar sut y mae'r consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol yn gweithio

·            Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) - cynnydd a diweddariad

·            Presenoldeb Ysgol - cofnodi presenoldeb mewn ysgolion a chysondeb

·            Cynnydd ar y Prosiect Sgiliau a Thalent ar gyfer y Fargen Ddinesig - partneriaeth sgiliau rhanbarthol

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor.

58.

Adroddiadau Cynnydd y Panel Craffu Perfformiad: Addysg (y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd). pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Lyndon Jones, Cynullydd, adroddiad am y diweddaraf gan y 'Panel Craffu Perfformiad Addysg'. Tynnodd sylw’n benodol at y pwyntiau canlynol yng ngwaith y Panel:-

 

·            Ymgysylltu uniongyrchol y Panel â’r ysgolion

·            Staff addysgu o safon uchel ar draws Abertawe

·            Cynnydd yn Ysgol Gynradd Burlais - bu'r ysgol yn gweithio'n galed iawn ar eu taith wella, gyda llawer o lwyddiant

·            Arfer da o ran lles disgyblion yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

·            Cyfarfod ar y cyd â Phanel Craffu'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gefnogaeth a chanlyniadau addysgol a heriau Plant sy’n Derbyn Gofal

·            Peth pryder am berfformiad y rhai sy'n derbyn prydau ysgol am ddim - bydd y Panel yn parhau i fonitro

·            Perthynas gadarnhaol ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, sy'n ymatebol i lythyrau'r Panel, ac uwch-reolwyr yr Adran Addysg

 

Bu rhywfaint o drafodaeth ynghylch y potensial am ddryswch i ysgolion rhwng gwahanol safbwyntiau ERW (y consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol) a safbwyntiau (arolygiaeth) Estyn ar wella. Roedd trafodaeth hefyd ynghylch effeithiolrwydd y consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol a'r cynnydd a wnaed gyda'i ddiwygio dros y blynyddoedd diwethaf, a chynllun busnes newydd. Gwnaed rhai arsylwadau ynghylch a oedd y cwmpas rhanbarthol ar gyfer ERW yn gywir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg fod ymgynghoriad yn agored ar hyn o bryd ar ddyfodol arolygiadau Estyn o fis medi 2021 ymlaen pe bai rhywun am gyfrannu at yr ymgynghoriad.  Dywedodd na fyddai arolygiadau Estyn yn cael eu cynnal am gyfnod yn 2020-21 er mwyn caniatáu i ysgolion ymateb i ofynion y cwricwlwm newydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynullydd a'r Panel Craffu Perfformiad am eu gwaith.

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf

59.

Adroddiad Blynyddol 2018/19 - Diogelu Corfforaethol. pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, a Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol ar gyfer Adroddiad Blynyddol 2018/19 am Ddiogelu Corfforaethol.

 

Amlinellwyd y materion canlynol: -

 

·            Bod diogelu'n flaenoriaeth gorfforaethol a bod oedolion a phlant diamddiffyn o "bwys i bawb"

·            Bod ffocws wedi'i roi ar fod yn fwy ymwybodol o broblemau - os ydych yn sylwi ar broblem, rhowch wybod

·            Bod gan y cyngor Grŵp Diogelu Corfforaethol sydd wedi’i hen sefydlu erbyn hyn (a sefydlwyd yn 2014), dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae ganddo gynrychiolwyr arweiniol o holl feysydd gwasanaeth y cyngor

·            Bod angen ymateb i'r newidiadau i faterion diogelu sy'n dod i'r amlwg e.e. ecsbloetio ariannol, Llinellau Sirol, caethwasiaeth fodern

·            Bod Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor yn canolbwyntio ar drefniadau diogelu a bod gweithgaredd yn rhagweithiol ac ataliol, gan weithredu ffyrdd arloesol o weithio gyda phlant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd trwy'r fframwaith arfer Signs of Safety

·            Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad ar Ddiogelu Corfforaethol a byddant yn cyhoeddi adroddiad yn fuan

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau ag Aelod y Cabinet a swyddogion yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·            Sicrhau nad yw'r angen am gyfrinachedd yn dod yn rhwystr i ddiogelu

·            Rôl cynghorwyr fel rhieni corfforaethol wrth ddiogelu - ac i ba raddau y gallant gymryd rhan mewn achosion unigol. Pwysleisiwyd i'r Pwyllgor na fyddai cymryd rhan mewn cynadleddau achos amlasiantaeth yn briodol nac yn angenrheidiol i gynghorwyr, ond roedd yn bwysig bod cynghorwyr yn deall y polisi ac yn adrodd am unrhyw bryderon i weithwyr proffesiynol perthnasol

·            Canran yr aelodau etholedig sydd wedi cwblhau hyfforddiant diogelu - nodwyd bod ffigurau perfformiad ar gyfer 2018/19 yn dangos bod 81.9% wedi gwneud hynny, fodd bynnag, ychwanegodd Aelod y Cabinet ei fod yn falch bod y ffigur bellach yn 100%

·            Mynd i’r afael ag anawsterau a adroddwyd amdanynt yn flaenorol gyda chywirdeb cadw cofnodion ar hyfforddiant diogelu - clywodd y Pwyllgor nad oedd un system unigol i ddangos data yn hawdd ac adrodd am gydymffurfiaeth, ond roedd gwaith i wella casglu ac adrodd ar berfformiad yn parhau, a gellid cynorthwyo hyn drwy uwchraddio system Oracle y cyngor sydd ar ddod. Fodd bynnag, roedd disgwyl i bob tîm rheoli yn y cyngor gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod aelodau staff yn gyfredol â gofynion hyfforddi, ac yn adrodd am yr wybodaeth hon yn ganolog trwy arweinwyr diogelu. Derbyniwyd bod cyfyngiadau ar y cofnodi data cyfredol ond roedd y cyngor yn gallu rhoi sicrwydd i Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch mynediad at hyfforddiant a nifer y staff oedd â diddordeb mewn derbyn hyfforddiant ganddynt, a ddarperir ar lefel briodol e.e. ar-lein ac wyneb yn wyneb. Teimlai'r Pwyllgor ei fod yn ofynnol i'r cyngor wella ei system o adrodd yn ôl a chofnodi gwybodaeth

·            Gan sicrhau bod gan staff dros dro, gwasanaethau sydd â gweithlu dros dro, a chontractwyr allanol, fynediad at hyfforddiant ac ymwybyddiaeth diogelwch - nodwyd bod yr holl ddeunyddiau hyfforddi wedi'u hadolygu a'u diweddaru a bod y cynnig hyfforddiant ar gyfer yr holl staff wedi'i gynnwys mewn prosesau sefydlu, ac ar gyfer partneriaid allanol a gyflogir gan y cyngor. Er bod cyfnod sefydlu ar gyfer gweithwyr newydd yn cael ei gyflwyno drwy e-ddysgu ar hyn o bryd, mae sesiwn wyneb yn wyneb yn cael ei ystyried pan fo aelod newydd o staff yn ymuno â'r cyngor.

·            Monitro hyfforddiant diogelu ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion - nododd y Pwyllgor na chasglwyd data penodol ynghylch hyn, er mae'n bosib bod gan yr Adran Addysg yr wybodaeth hon. Eglurwyd bod gan bob ysgol gyfrifoldebau clir ynghylch Amddiffyn Plant, Plant sy'n Derbyn Gofal a Diogelu a bod angen i bob llywodraethwr ymgymryd â hyfforddiant fel rhan o'u cyfnod sefydlu.

·            Gwaith Byrddau Diogelu Rhanbarthol

 

Penderfynwyd y dylai'r Aelod Cabinet nodi barn y pwyllgor.

60.

Adroddiad Blynyddol Craffu 2018/19. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr Adroddiad Craffu Blynyddol 2018/19, oedd yn amlinellu'r gwaith a wnaed gan yr adran graffu yn ystod y flwyddyn ddinesig flaenorol.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi a'i gyflwyno i'r cyngor.  

61.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 235 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am 'Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu’. Nododd y Pwyllgor:-

 

·            Bod y Cynghorydd Peter Jones wedi'i benodi yn Gynullydd Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol.

·            Bod y Cynghorydd Cyril Anderson wedi'i ethol fel cynrychiolydd ar gyfer Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, a bydd yn ymuno â Phanel Craffu Perfformiad Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

·            Ymddiswyddodd Mr John Meredith, Aelod Cyfetholedig Pwyllgor y Rhaglen Graffu, a bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cynghori am gynrychiolydd newydd maes o law.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

62.

Rhaglen Waith Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 268 KB

Trafodaeth am:

a)         Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)         Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20. Amlinellodd fod Bethan Hopkins, Swyddog Craffu, wedi gadael yr awdurdod yn ddiweddar ac yn y cyfamser fe fyddai'n ofynnol i ohirio rhai gweithgareddau craffu - yr Ymchwiliad Caffael a'r set nesaf o Weithgorau.

Eglurodd y cynhelir cyfarfod cyntaf y Panel Gweithgorau ar 24 Hydref, fel a drefnwyd, fel bod modd trafod ffocws posib yr ymchwiliad.

 

Amlinellodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn ogystal â Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelodau'r Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Plant.

 

Hefyd, roedd cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Rhaglen Graffu wedi'i drefnu am 1pm ar 18 Tachwedd 2019 ar gyfer craffu cyn penderfynu ar yr Adolygiad Comisiynu Tai.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi

63.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Llythyrau Craffu' er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

64.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio.

65.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd nesaf Paneli/Gweithgorau. pdf eicon PDF 186 KB

Cofnodion:

Nodwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd nesaf paneli/gweithgorau.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 261 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 417 KB