Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

30.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

31.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau.

Cofnodion:

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ni ddatganwyd pleidleisiau chwip na chwipiau'r pleidiau.

32.

Cofnodion. pdf eicon PDF 246 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion Pwyllgor y Rhaglen Graffu a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2019 a'u llofnodi fel cofnod cywir, yn amodol ar nodi ymddiheuriadau ar gyfer y Cynghorydd Paxton Hood-Williams.

 

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol y diweddaraf ar gofnod 23 ynghylch cyllid ar gyfer 'Ffydd mewn Teuluoedd'. Adroddwyd bod y cyllid wedi'i estyn tan ddiwedd mis Rhagfyr 2019. Roedd gwaith yn parhau i geisio canfod cyllid parhaus. 

33.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor gan Mr Perrott a gododd nifer o gwestiynau ynghylch Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelod y Cabinet gyda'r Cynghorydd Clive Lloyd mewn perthynas â chynnydd gydag Adolygiad Cyffredinol tir y cyngor ac ardaloedd o dir posib i'w gwaredu. Cyfeiriwyd at y mater hwn mewn gohebiaeth rhwng y Pwyllgor ac Aelod y Cabinet yn dilyn y sesiwn holi ac ateb blaenorol.

 

Roedd y cwestiynau'n ymwneud â'r canlynol: -

 

·                Dyddiad yr Adolygiad Cyffredinol ac a yw'n hygyrch i'r cyhoedd?

·                Faint o erwau o dir dros ben a nodwyd yn 2016/2017, 2017/2018 a 2018/2019?

·                Yr ymdrechion a wnaed i fasnachu'r tir gwarged?

·                Pa ganran o dir dros ben sydd wedi'i werthu a faint sydd ar ôl?

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd y diweddaraf am yr Adolygiad Cyffredinol a bydd yn darparu ymateb llawn ysgrifenedig i'r aelod o'r cyhoedd. Tynnodd y Dirprwy Arweinydd sylw hefyd at y ffaith bod refeniw hefyd yn cael ei gynhyrchu o gaffaeliadau/buddsoddiadau.

 

Penderfynwyd darparu ymateb llawn yn ysgrifenedig.

34.

Sesiwn Holi Aelod y Cabinet: Trawsnewid Busnes a Pherfformiad. ( Y Cynghorydd Clive Lloyd) pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd/Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad ar benawdau allweddol ei bortffolio.

 

Rhoddwyd anerchiad llafar mewn perthynas â'r adroddiad ysgrifenedig a gylchredwyd. Tynnodd sylw at y ffaith ei fod wedi ymgymryd â'r prif gyfrifoldeb ar gyfer Diogelwch Cymunedol. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith mai cyngor Abertawe fyddai'n cadeirio'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar ôl i Andrew Davies roi'r gorau i'w rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Lleol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Lloyd fod yr Arweinydd wedi gofyn iddo gadeirio'r BGC (gan y bu'n is-gadeirydd y llynedd) a dywedodd y byddai cyswllt trosgynnol bellach rhwng y BGC a Diogelwch Cymunedol. Darparodd ddiweddariad hefyd ar faterion a oedd yn ymwneud â'r Stryd Fawr a'r Grŵp a'r Dasg Digwyddiadau Tyngedfennol a sefydlwyd i sicrhau bod goruchwyliaeth strategol wrth fynd i'r afael â'r materion. Mewn cyferbyniad ag adroddiadau negyddol yn y wasg, hysbysodd y Pwyllgor fod y Stryd Fawr wedi cael ei henwebu/wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol ar gyfer Stryd Fawr gorau'r DU.

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau â'r Aelod Cabinet yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·                Cronfa Bensiwn - y gostyngiadau a'r amserlenni ar gyfer lleihau buddsoddiadau o ran tanwyddau ffosil; cynnydd o ran buddsoddi mewn cronfeydd buddsoddi carbon isel a'r angen i asesu buddsoddiadau amgen - sylwer bod gan bob busnes rhywfaint o ôl-traed carbon

·                Cynnydd ar fesur, monitro ac asesu perfformiad ar gyfer amcan newydd y cyngor ar adnoddau naturiol a bioamrywiaeth

·                Adolygiadau Comisiynu - costau a buddiannau

·                Diogelwch Cymunedol - Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel; Strategaeth Trais Difrifol Genedlaethol; Y Stryd Fawr; Adolygiad o CCTV; Diogelwch Plant ger ysgolion - cyfeiriad at fforwm Llais y Disgybl Abertawe ac ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn ymdrin â materion

·                Gweithio Ystwyth

·                Rheoli Ystadau ac Eiddo Strategol - cynnydd gyda Hysbysiadau o Fudd y Cyhoedd ar Ddatblygiad Glan y Môr (tynnwyd safle'r West Cross Inn yn ôl yn dilyn adborth gan y cyhoedd);

·                Gweithgor Parc Singleton (Sicrhaodd y pwyllgor na fyddai unrhyw gynnydd yn cael ei wneud ar safle Home Farm cyn i'r grŵp gael ei sefydlu a darparu ei ganfyddiadau); mae benthyca cyfradd isel wedi galluogi'r cyngor i fenthyg ar gyfer caffaeliadau/buddsoddiadau a fyddai'n cynhyrchu elw sylweddol.

·                Gwasanaethau Ariannol - darparu Datganiad Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw Adolygu a Benthyg - effeithiau tymor byr, tymor canolig a'r tymor hir

·                Colli gwasanaethau bancio cymunedol

 

Penderfynwyd y bydd Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n ysgrifennu at Aelod y Cabinet, gan adlewyrchu'r drafodaeth a rhannu barn y pwyllgor. 

35.

Adroddiad Cynnydd y Panel Perfformiad Craffu: Gwella Gwasanaethau. (Y Cynghorydd, Chris Holley, Cynullydd) pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb y cynllunydd, y Cynghorydd Chris Holley, nodwyd diweddariad y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Chyllid.

36.

Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu. pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad am Aelodaeth Paneli a Gweithgorau Craffu.

 

Nododd y cadeirydd y derbyniwyd cais gan y Cynghorydd Philip Downing i ymuno â'r Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio. Byddai hyn yn cynyddu nifer yr aelodau i 16 a nodwyd na fyddai unrhyw aelodau pellach yn cael eu hychwanegu o ystyried maint y Panel. Nododd y Pwyllgor ailbenodiad y Cynghorydd Jeff Jones fel Cynullydd y Panel hwn.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd er mwyn cytuno ar aelodaeth a phenodi Cynullyddion ar gyfer y Panel Ymchwilio a'r Gweithgorau newydd, yn seiliedig ar y mynegiannau o ddiddordeb a dderbyniwyd.

 

Mewn perthynas â'r Gweithgor Craffu Brexit, anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Mary Jones a'r Cynghorydd Peter Jones i gyflwyno eu diddordeb mewn gweithredu fel Cynullydd ac arweiniodd hyn at bleidlais i benodi Cynullydd.

 

Gweithgor Craffu Brexit - Derbyniwyd tri mynegiant o ddiddordeb. Tynnwyd enw'r Cynghorydd Chris Holley yn ôl fel Cydlynydd y Panel Ymchwiliad Craffu Caffael newydd ei benodi - Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Mary Jones a'r Cynghorydd Peter Jones i gyflwyno eu diddordeb mewn gweithredu fel cynullydd - yn dilyn pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Peter Jones fel cynullydd.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Panel Perfformiad Datblygu ac Adfywio - Ychwanegu'r Cynghorydd Philip Downing;

2)            Cymeradwyo aelodaeth arfaethedig y Panel Ymchwiliad Craffu Caffael fel y'i hamlinellir yn Atodiad 1 o'r adroddiad;

3)            Cymeradwyo aelodaeth arfaethedig y gweithgorau craffur Brexit, Iechyd a Lles Staff a Diogelwch Ffyrdd newydd fel y'u hamlinellir yn Atodiad 1 o'r adroddiad, gan ychwanegu'r Cynghorydd Terry Hennegan hefyd at y Gweithgor Diogelwch Ffyrdd;

4)            Penodi'r Cynghorydd Chris Holley yn Gynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Caffael;

5)            Penodi'r Cynghorydd Peter Jones yn Gynullydd y Gweithgor Craffu Brexit;

6)            Penodi'r Cynghorydd Cyril Anderson yn Gynullydd y Gweithgor Craffu Iechyd a Lles Staff; a

7)            Gwahodd y Cynghorydd Steve Gallagher i weithredu fel Cynullydd y Gweithgor Diogelwch Ffyrdd.

37.

Rhaglen Waith Craffu 2019/20. pdf eicon PDF 276 KB

 Trafodaeth am:

a)        Gynllun Gwaith y Pwyllgor.

b)        Cyfleoedd Craffu Cyn Penderfynu.

c)         Cynnydd gyda Phaneli a Gweithgorau Craffu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Rhaglen Waith Craffu gytunedig ar gyfer 2019/20.

 

Adroddodd y derbyniwyd cais cyhoeddus am graffu mewn perthynas â phryderon am niwsans gan wylanod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol y bobl sy'n bwydo'r gwylanod mewn cymunedau ac ardaloedd trefol, a oedd yn gofyn i'r cyngor weithredu.

 

Cyfeiriodd hefyd at Sesiwn Holi Aelod y Cabinet ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen Graffu nesaf, a fyddai gydag Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, a chroesawir trafodaeth ar bynciau ffocws allweddol ar gyfer y sesiwn honno. Nododd y Pwyllgor nifer o feysydd yr oeddent am eu harchwilio gydag Aelod y Cabinet: -

 

·                Cynnydd yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau

·                Cynnydd Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Digartrefedd

·                Tai Gwag/Eiddo Gwag

·                Rheoli Tai'r Cyngor

·                Ynni Gwyrdd

·                Trafnidiaeth Werdd

 

Penderfynwyd cynnwys y cais cyhoeddus am graffu yn y rhaglen waith a'i gyfeirio i'r Panel Craffu Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol newydd i ymdrin ag ef.

38.

Llythyrau Craffu. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd gofnod llythyrau'r Tîm Craffu.

 

Nodwyd y cofnod a'r llythyrau.

39.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd y Cynllun Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

40.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd Paneli/Gweithgorau Sydd ar Ddod. pdf eicon PDF 180 KB

Cofnodion:

Darparwyd dyddiadau ac amserau cyfarfodydd paneli/gweithgorau sydd ar ddod er gwybodaeth.

Llythyr at Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac Ateb pdf eicon PDF 269 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Sesiwn Holi ac pdf eicon PDF 457 KB