Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod rhif 21 a 22 - Adroddiad Blynyddol
Archwiliad Mewnol 2018/19 ac Adroddiad Monitro Cynllun Blynyddol Archwiliad
Mewnol 2019/20 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill tan 30 Mehefin 2019 - Llywodraethwr
Ysgol yn Ysgolion Cynradd Crwys a Chilâ - personol. Paula O’Connor – yr Agenda yn ei chyfanrwydd - Gweithiwr cyflogedig gydag
Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol fel
Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Personol. Y Cynghorydd T M White - Cofnod rhif 16 - Datganiad o Gyfrifon Drafft
2018/19 - Dinas a Sir Abertawe - Aelod o'r Bwrdd Pensiwn Lleol, Aelod o Gwmni
Gwaredu Gwastraff yr Awdurdod Lleol (LAWDC) ac Aelod o Awdurdod Iechyd
Porthladd Bae Abertawe - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd
ar 11 Hydref 2019 fel cofnod cywir. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 - Dinas a Sir Abertawe. PDF 287 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Ben
Smith, Prif Swyddog Cyllid, y Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer 2018/19. Paratowyd a
llofnodwyd y Cyfrifon Drafft ar gyfer 2018/19 ar 20 Mai 2019. Darparwyd copi yn
Atodiad A yr adroddiad. Diolchodd y Prif Swyddog Cyllid i'w dîm am ei waith
caled. Pwysleisiwyd y
byddai adolygiadau bach i'r adroddiad i adlewyrchu'r datblygiadau parhaus o ran
Brexit, y Fargen Ddinesig a dyfarniad pensiwn McCloud. Amlygodd y Prif
Swyddog Cyllid y canlynol o'r Datganiad o Gyfrifon: - ·
Cafwyd
gorwariant net ar wasanaethau unwaith eto ac nid yw hyn yn gynaliadwy yn y
tymor hir ·
Mae'r
cyngor wedi cymeradwyo newid yn y Polisi Darparu Lleiafswm Refeniw (DLlR), a helpodd i ostwng ffioedd ad-dalu yn y tymor byr i
ganolig ·
Gwariant
cyfalaf yn 2018/2019 ·
Ar
ddiwedd y flwyddyn, cyfanswm gweddill refeniw wrth gefn yr awdurdod oedd
£83.178m ·
Rhagolwg
ariannol ar gyfer yr awdurdod - mae angen parhau i arbed mwy o arian ·
Dadansoddiad
gwariant ac ariannu - nodi'r holl weithgareddau a chostau gwasanaethau ·
Datganiad
newidiadau mewn cronfeydd wrth gefn - roedd cyfanswm yr arian wrth gefn wedi
gostwng yn bennaf oherwydd y gronfa wrth gefn dechnegol sy'n ymwneud â
phensiynau a rhagwelir y byddai hyn yn gwaethygu. Cafwyd cynnydd yn yr arian
wrth gefn y gellir ei ddefnyddio ·
Buddsoddiadau
Tymor Byr - cafwyd cynnydd yn y buddsoddiadau tymor byr o £25,500 (mil) yn 2018
i £121,772 (mil) yn 2019 ·
Roedd
£100 miliwn yn cael ei gadw cyn gwario ar y Rhaglen Gyfalaf ·
Datganiad
Llif Arian ·
Newidiadau
mewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ·
Costau
cydnabyddiaeth a chostau gadael swyddogion trwy gynllun colli swyddi'n
wirfoddol ·
Incwm
grantiau ·
Rhwymedigaethau
amodol - yn enwedig y rhai na wyddys eu heffaith ·
Cyfrif
Refeniw Tai Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau mewn
perthynas â Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop; gwariant/gorwariant; ad-dalu
cyfalaf, Polisi DLlR a benthyca ychwanegol Llongyfarchodd y Cadeirydd y Prif Swyddog Cyllid a'i dîm am y cyfrifon
cynhwysfawr. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams ac Anthony Veale, Swyddfa Archwilio Cymru,
ohebiaeth ynghylch ymholiadau archwiliad i'r rhai â chyfrifoldeb am lywodraethu
a rheoli. |
|
Adroddiad Drafft ISA 260. PDF 370 KB Cofnodion: Cyflwynodd David Williams
ac Anthony Veale, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad
am 'Adroddiad am Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol - Dinas a Sir Abertawe
2018/19' lle tynnwyd sylw at y canlynol: - ·
Roedd
yr adroddiad yn nodi barn gadarnhaol yn gyffredinol ·
Ymagwedd
at yr archwiliad ·
Perthnasedd
wedi'i osod ar £8.6 miliwn ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ·
Safon
Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260 ·
Darperir
adroddiad ar wahân mewn perthynas â'r Gronfa Pensiwn ac adroddir am hwnnw i
Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ·
Statws
yr Archwiliad - roedd rhai materion heb eu datrys a chafwyd gohebiaeth barhaus
gan etholwr. Nid oedd modd cymeradwyo'r adroddiad nes bod yr ohebiaeth yn dod i
ben ·
Nodwyd
Llythyr Sylwadau yn Atodiad 1 - disgwylir y byddai'n cael ei lofnodi'n dilyn
cyfarfod y cyngor ar 29 Awst 2019 ·
Amlinellodd
Atodiad 3 yr adroddiad grynodeb o'r materion y mae angen eu cywiro ·
Atebolrwydd
Pensiwn Ychwanegol - effaith dyfarniad McCloud ar
gynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus ·
Amlinellodd
Atodiad 4 yr adroddiad yr argymhellion sy'n deillio o archwiliad ariannol
2018/19 - cynigiwyd tri argymhelliad a derbyniwyd ymatebion Cyflwynir yr
adroddiad terfynol i'r Cyngor ar 29 Awst 2019. Dywedodd y
Cadeirydd ei bod yn hapus gyda chynnwys yr ISA 260 a gofynnodd i drosglwyddo'r
argymhellion a wnaed i adroddiad olrhain allanol ar gyfer y Pwyllgor. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Trosolwg o'r Statws Risgiau Cyffredinol ar gyfer Chwarter 1 2019/20. (Er gwybodaeth) PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad,
adroddiad 'Trosolwg o'r Statws Risgiau Cyffredinol ar gyfer Chwarter 1
2019/20’. Atodwyd crynodeb o statws risg cyffredinol y cyngor ar gyfer Chwarter
1 2019/20 yn Atodiad A. Adroddwyd bod
97.4% o'r risgiau a nodwyd yn Chwarter 4 2018/19 wedi'u nodi fel risgiau a
adolygwyd yn ystod Chwarter 1 2019/20. Roedd hynny'n welliant ar y sefyllfa yn
Chwarter 4 2018/19 lle derbyniwyd 85.6% o risgiau ers Chwarter 3 2018/19. Cofnodwyd
rhesymau dros/sylwadau am y 25 o'r 28 o risgiau (89.3%) a gaewyd, o'u cymharu â
18% yn Chwarter 4 2018/19. Cynhaliwyd yr
adolygiad blynyddol o Risgiau Corfforaethol ym mis Mai 2019 a nodwyd risg
strategol newydd ar gyfer y Gofrestr Risgiau Corfforaethol o ran gallu'r
isadeiledd priffyrdd a thrafnidiaeth i fodloni galw'r dyfodol. Atodwyd Adroddiad
Cofrestr Risgiau Corfforaethol 11/07/19 yn Atodiad B. Amlygwyd Risg
Gorfforaethol 81: Canol y Ddinas a Risg Gorfforaethol 90: Penderfynu gadael yr
Undeb Ewropeaidd (BREXIT). Atodwyd Adroddiad
Cofrestr Risgiau Corfforaethol 11/07/19 yn Atodiad C. Adroddwyd bod y
gwaith yn parhau mewn perthynas â datblygu Ap Cofrestr Risgiau. Nododd y
Cadeirydd fod ganddi rai pryderon ynghylch cynnwys y gofrestr risgiau.
Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau ynglŷn â'r risgiau nas adolygwyd yn ystod
Chwarter 1 ac ystyr 'Risg Wedi'i Newid'. Nodwyd y jargon/talfyriadau hefyd a
ddefnyddiwyd yn yr adroddiad yn ogystal â'r risgiau hynny a gaewyd heb reswm
wedi'i gofnodi. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol a'i dîm am eu gwaith
caled a'u hymdrech wrth gyflwyno'r gwaith hwn. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Alldro Ariannol Refeniw 2018/19 (Er gwybodaeth) PDF 197 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Ben
Smith, Prif Swyddog Cyllid, adroddiad am 'Alldro Ariannol Refeniw 2018/19'. Tynnodd sylw'n
benodol ar orwariant arall mewn perthynas â gwasanaethau na ellid eu cynnal yn
y tymor hir. Trafododd y
pwyllgor y sefyllfa/cam gweithredu posib o ran gorwariant parhaus ar
wasanaethau. Gosodwyd tasg benodol i Gyfarwyddwyr sef dangos eu holl gynlluniau
gweithredu llawn i'r pwyllgor, gan fanylu ar sut maent yn bwriadu cyflwyno
arbedion credadwy i ailgydbwyso'r gyllideb fel mater
brys. Gofynnwyd cwestiynau
ynghylch cyfalafu, y gronfa wrth gefn ac arian wrth gefn. Penderfynwyd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio'n rhoi gwybod i'r cyngor am y pryderon ynghylch gorwariant a'r angen i gyfarwyddwyr ddangos cynlluniau cyflwyno llawn mewn perthynas ag arbedion. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft. PDF 293 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Tracey
Meredith, y Prif Swyddog Cyfreithiol, yr adroddiad 'Datganiad Llywodraethu
Drafft 2018/19' ac amlygodd egwyddorion 'Fframwaith ar gyfer Cyflwyno
Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol 2016' a sefydlwyd gan CIPFA a SOLACE. Seiliwyd y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar nifer o ffynonellau sicrwydd, yn fewnol ac
yn allanol. ·
Ffynonellau
Sicrwydd Mewnol Cafwyd diwygiadau i
Ddatganiadau Sicrwydd yr Uwch-reolwyr. Dangosodd y datganiadau sicrwydd y
gweithredir llywodraethu da 'mewn modd cadarn' ar draws yr holl feysydd
sicrwydd yn gyffredinol. Nodwyd yr aeddfedrwydd gorau
ym maes monitro cyllidebau, a nodwyd bod yr asesiad o aeddfedrwydd gwaethaf ym
maes mesur a rheoli perfformiad. Cafwyd sicrwydd hefyd o'r tystiolaeth graidd a
gafwyd gan y cyngor, y Cabinet a'r pwyllgorau, y Swyddog Monitro, Swyddog Adran
151 a'r Prif Archwilydd Mewnol ac mae angen i farn y Pwyllgor Archwilio gael ei
darparu. ·
Ffynonellau
Sicrwydd Allanol -
Archwilwyr Allanol (Swyddfa Archwilio Cymru), Rheoliad/Arolygiadau Allanol ac
Arolygiadau Statudol. Amlygodd y Prif
Swyddog Cyfreithiol hefyd y materion llywodraethu arwyddocaol a nodwyd yn y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr adolygiad o
effeithiolrwydd yn ogystal â'r camau gweithredu a gymerwyd. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau ynghylch Egwyddorion B ac F, Datganiadau Sicrwydd yr
Uwch-reolwyr a sylwadau gan y Pwyllgor Archwilio ar y Datganiad Llywodraethu
Blynyddol, gan gynnwys cwmpas y sylwadau hynny fel arsylwr. Tynnodd y Cadeirydd
sylw'r pwyllgor at y diffyg cysylltiad posib rhwng y meysydd hynny y nodwyd eu
bod yn cael sgôr uchel yn yr hunanasesiad gan yr Uwch-reolwyr a phryderon y
pwyllgor a fynegwyd trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig ynghylch gorwario ar
wasanaethau (ac felly'r diffyg rheolaeth gyllidebol) ac aeddfedrwydd a
chywirdeb yr ymagwedd at reoli risgiau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2018/19. PDF 294 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Cockings, y Prif Archwilydd, adroddiad sy'n amlinellu ac yn adolygu gwaith yr
Adran Archwilio Mewnol yn ystod 2018/19 ac sy'n cynnwys barn ofynnol y Prif
Archwilydd am yr amgylchedd rheoli mewnol ar gyfer 2018/19 yn seiliedig ar y
profion archwilio a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn. Amlinellodd
a manylodd ar gynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y meysydd allweddol canlynol: ·
Materion Staffio ·
Cwblhawyd 87% o archwiliadau o leiaf at y cam adroddiad
drafft yn ystod y flwyddyn, ac roedd 5 archwiliad arall ar waith ·
Amlinellwyd yr amser a dreulir ar bob maes yn Atodiad 1 ·
Amlinellwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn ystod 2018/19
yn llawn yn Atodiad 2 ·
Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd 99% o'r argymhellion a
wnaed gan gleientiaid ·
Grantiau a ardystiwyd ac a archwiliwyd yn 2018/19 ·
Archwiliadau dilynol a gynhaliwyd ·
Dangosyddion Perfformiad - cyflawnwyd 10 allan o 11 o
ddangosyddion, sy'n dangos gwelliant ar 2017/18. Amlinellwyd y rhain yn llawn
yn Atodiad 3 ·
Sicrhau Ansawdd a Rhaglen Gwella a Datganiad
Cydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus ·
Datganiad o Annibyniaeth Sefydliadau ·
Barn am Reoli Mewnol Nododd
yn swyddogol ei fod am ddiolch i'w dîm am eu gwaith ardderchog yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf. Gofynnodd
y pwyllgor gwestiynau ynghylch hyfforddiant, gosod targedau cyraeddadwy, a
dangosyddion perfformiad y gellir eu cymharu, yn enwedig gydag awdurdodau nad
ydynt yn defnyddio dangosyddion perfformiad.
Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi a'i
gymeradwyo. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem
hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Adroddiad Dilynol ar Radd Gymedrol yr Archwiliad Mewnol - Gwasanaethau Pobl Ifanc 2019/20 (Llafar) Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Adroddiad Dilynol Argymhellion Archwilio Mewnol Chwarter 1 2019/20. PDF 42 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er gwybodaeth) PDF 244 KB Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon ond cafwyd trafodaeth ynghylch pryderon y pwyllgorau
am hyd yr agenda. Trafododd y pwyllgor ohirio eitemau nad ydynt yn rhai brys
(gan gynnwys eitemau 10-15 yr agenda) tan fis Medi a chyfarfod yn fwy cyson er
mwyn osgoi cael agenda mor hir yn y dyfodol. Penderfynwyd gohirio eitemau 10-15. |
|
Adroddiadau Craffu/Swyddfa Archwilio Cymru (Er gwybodaeth): Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |
|
Gwasanaethau Llywodraeth Leol Cymunedau Gwledig. (Er gwybodaeth) PDF 339 KB Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon fel a nodwyd yng Nghofnod 26. |