Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Trafodaethau gyda chynrychiolwyr ERW. Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad Powerpoint gan Andi Morgan ac Yan James o ERW a oedd yn amlinellu'r meysydd canlynol: ·
Sefyllfa
bresennol y sefydliad o ran y cynigion a'r amserlenni ar gyfer rhoi'r cwricwlwm
newydd ar waith, yn arbennig y cynnwys diwygiedig a gaiff ei gyhoeddi ym mis
Ionawr 2020; ·
Y
strwythur staffio presennol a'r digwyddiadau a gynllunnir ar draws y
rhanbarthau i athrawon ac ysgolion; ·
4
prif faes ar gyfer prosiectau arloesedd ysgolion -
Ysgolion Gwella Ansawdd, Ysgolion Arloesi, Ysgolion Ymholi Arweiniol ac
Ysgolion y Rhwydwaith Cenedlaethol; ·
Prif
rôl Ysgolion Gwella Ansawdd - mireinio'r cwricwlwm yng ngoleuni'r adborth,
mireinio'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol
yng ngoleuni'r adborth, datblygu'r fframwaith asesu a chefnogi gwaith
Cymwysterau Cymru; ·
Ysgolion Gwella Ansawdd Abertawe: Y Celfyddydau
Mynegiannol - Llanrhidian a Parkland, Gwyddoniaeth a
Thechnoleg - Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, Mathemateg a Rhifedd - Ysgol Pen y
Bryn, Y Dyniaethau - YGG Bryn Tawe ac YG Bryniago,
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu - Crug Glas a'r Trallwn, Iechyd a Lles -
Glyncollen, Ysgol Gyfun yr Olchfa a St Thomas; ·
Rôl
Ysgolion Arloesi - Darparu adborth uniongyrchol i'r grwpiau gwella ansawdd drwy
gynllunio'r cwricwlwm yn yr ysgol a nodi modelau mecanyddol, logistaidd a
strwythurol i gyflawni'r cwricwlwm drwy gynllunio yn yr ysgol; ·
Ysgolion
Arloesi Abertawe - Parkland ac Ysgol Gyfun yr Olchfa; ·
Rôl
yr Ysgolion Ymholi Arweiniol - gelwid y rhain o'r blaen yn Ysgolion Arloesi
Dysgu Proffesiynol. Bydd yr ysgolion hyn yn parhau i weithio mewn grwpiau
rhanbarthol gan ddatblygu cylchoedd ymholi a gefnogir gan PCYDDS; ·
Ysgolion
Ymholi Arweiniol Abertawe: Y Dyniaethau - Ysgol Gyfun Cefn Hengoed, y
Celfyddydau mynegiannol - Christchurch, ILlCh Ysgol Gyfun Gŵyr, Iechyd a Lles - Pontarddulais; ·
Rôl Ysgolion y Rhwydwaith Cenedlaethol - bydd yr ysgolion
hyn yn anfon cynrychiolydd i gyfarfodydd y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer yr
holl feysydd Dysgu a Phrofiad ac yn gweithio gydag ysgolion gwella ansawdd i
sicrhau bod y cwricwlwm a dysgu proffesiynol yn gweithio'n agos ar gyfer cam
nesaf y gwaith. ·
Ysgolion
Rhwydwaith Cenedlaethol Abertawe: Y Dyniaethau - Ysgol Gyfun Cefn Hengoed, ILlCh - Ysgol Gyfun Gwyr, Iechyd a Lles - Pontarddulais; ·
Ysgolion
eraill - bydd ERW yn sicrhau bod yr holl ysgolion yn y rhanbarth yn cael gwybod
am y gwaith sy'n cael ei wneud. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu mewn
amrywiaeth o ffyrdd gan staff ERW, gan gynnwys cyfathrebu electronig, digwyddiadau
cynnwys rhanbarthol, presenoldeb mewn cyfarfodydd penaethiaid a digwyddiadau
ymgynghorwyr herio; ·
Amlinellir
Tîm Cwricwlwm ERW a'r 12 Maes Dysgu, strwythur a diagram ERW sy'n amlinellu'r
cysylltiadau rhwng y cyrff amrywiol ac eang sy'n rhan ohono, a'r meysydd i'w
gwella y mae pedwar prif bwrpas y cwricwlwm newydd yn sail i bob un ohonynt; ·
Bydd cefnogaeth ERW ar gyfer ysgolion yn datblygu
disgyblion Mwy Abl a Thalentog fel y gallant wneud
cynnydd o fewn y cwricwlwm newydd - prosiect adolygu cymheiriaid Ysgolion Cyfun
Treforys a Phenyrheol, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt
ac Ysgol Llangyfelach wedi derbyn arian a chefnogaeth i ddatblygu ysgolion
addysgeg arweiniol: ysgolion cyfun Llandeilo Ferwallt a Gellifedw
yw arweinwyr MAT Abertawe ac maent yn cydweithio ag ysgolion eraill yn y
rhanbarth i ddatblygu cynnig dysgu proffesiynol i bob ysgol yn ERW o ran
adnabod dysgwyr MAT, ymagweddau dysgu ac addysgu ac arweinyddiaeth effeithiol
ar eu cyfer. Byddant yn darparu gweithdai i ysgolion ar draws y rhanbarth gan
rannu eu cryfderau a'u harbenigedd. ·
Eglurder - Prosiect Dysgu ar y Cyd Arweiniol - mae
ysgolion cyfun yr Esgob Vaughan a Thre-gŵyr yn gweithio ar brosiect gwella
ysgolion gyda'r addysgwr Dr Lyn Sharratt, sy'n
gweithio yn Ontario. Mae'r ymchwil a ddisgrifir yn 'Clarity: What Matters Most in Learning, Teaching
and Leading’ gan Dr Lyn Sharratt
yn brosiect gwella ysgolion ar draws y rhanbarth a gefnogir gan Lywodraeth
Cymru, ac mae Prifysgol Abertawe yn cofnodi'r daith ac yn gwerthuso effaith y
gwaith. Mae ethos Dr Sharratt ar gyfer gwella
ysgolion yn seiliedig ar 14 o baramedrau fel fframwaith dysgu; ·
Digwyddiadau
Ysgolion ERW fel Sefydliadau Dysgu a Chwricwlwm i Gymru - yn ystod tymor yr haf
2019, cyflwynodd ERW ddigwyddiadau ymgysylltu Cwricwlwm i Gymru ar draws y
rhanbarth. Yn ystod tymor yr hydref a'r gwanwyn 2019-2020 bydd ERW yn darparu
rhagor o hyfforddiant i arweinwyr ysgolion ar Ysgolion fel Sefydliadau
Arweiniol a'r Cwricwlwm i Gymru, ac mae'n bwysig bod pob arweinydd ysgol yn y
rhanbarth yn mynd i'r hyfforddiant yn yr hydref a'r gwanwyn fel y gellir
rhaeadru gwybodaeth allweddol ac y gall ERW sicrhau bod ysgolion yn cael y
diweddaraf ar yr hinsawdd addysg yng Nghymru sy'n newid yn gyflym. ·
Bydd
sesiynau Athrawon Newydd Gymhwyso a datblygu Meysydd Profiad Dysgu yn cynnal
hyfforddiant ar y cwricwlwm newydd ym mis Tachwedd. Gofynnodd aelodau
gwestiynau amrywiol i gynrychiolwyr ERW a swyddogion y cyngor, yn enwedig am y
materion a'r pynciau canlynol: Cydlynu ymagwedd ar draws yr awdurdod, gan sicrhau
bod yr holl ysgolion yn cymryd rhan yn llawn ac y caiff gwybodaeth ei rhaeadru,
darparu cefnogaeth briodol i athrawon, rhannu arfer da rhwng ysgolion, adeiladu
gallu mewnbwn ysgolion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd, ymagwedd ysgol gyfan a
staff yn ymwneud â newid, bwlch sgiliau, yn enwedig o gwmpas cyrsiau
galwedigaethol/adeiladu, cysylltiadau â chyflogwyr ac addysg uwch ac o bosib
ailedrych ar gylch gwaith Partneriaeth Sgiliau Abertawe. Mae angen sicrhau bod
trefniadau ar waith i gefnogi disgyblion nad ydynt yn cyflawni cymaint,
cyflawniad pobl ifanc NEET a disgyblion PDG, problemau o ran sicrhau bod arian
ar gael i rai ysgolion. Ymatebodd
cynrychiolwyr ERW a swyddogion y cyngor yn briodol i'r cwestiynau a'r materion
a godwyd uchod, gan amlinellu'r mesurau a'r mentrau sydd ar waith i fynd i'r
afael â'r meysydd a amlinellwyd. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr ERW am eu presenoldeb a'u mewnbwn. |
|
Cynllun Gwaith 2019/2020. PDF 199 KB Cofnodion: Yn dilyn y
drafodaeth a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol ag ysgolion ac
uchod â chynrychiolwyr ERW, trafododd yr aelodau'r opsiynau ar gyfer y
cyfarfodydd i ddod. Amlinellwyd y
canlynol fel eitemau i'w trafod yn y cyfarfodydd sydd i ddod ym mis Hydref,
Tachwedd a Rhagfyr - tystiolaeth gan ysgolion cynradd (yn arbennig y rheini
sy'n rhan o'r prosiectau cwricwlwm newydd), gwybodaeth/tystiolaeth gan weithgor
y swyddogion addysg ar y cwricwlwm newydd, diweddariad gan Bartneriaeth Sgiliau
Abertawe, rhagor o wybodaeth am gyfleoedd galwedigaethol i bobl ifanc. Bydd swyddogion
yn trefnu hyn fel y bo'n briodol yn dilyn trafodaeth â'r ysgolion a swyddogion
perthnasol. Penderfynwyd diweddaru'r cynllun gwaith yn unol â hyn
pan fydd y trefniadau ar gyfer y 3 chyfarfod nesaf wedi'u cadarnhau. |