Agenda a Chofnodion
- Manylion Presenoldeb
- Taflen flaen Agendâu PDF 322 KB
- Papurau ar gyfer y cyfarfod hwn mewn pecyn PDF PDF 10 MB
- Cofnodion a argraffwyd PDF 238 KB
- Llythyr at Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad PDF 1 KB
- Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth PDF 1 KB
- Ymateb Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad PDF 1 KB
- Ymateb Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth PDF 1 KB
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: · Dim |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: · Dim |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: ·
Cymeradwywyd |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd · Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion yn rhan agored agenda'r cyfarfod ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: · Dim |
|
Cyfle
i’r Panel drafod y Gwasanaeth Archifau
Cofnodion: ·
Y
Gwasanaeth Archifau yw un o'r unig wasanaethau sy'n dal i fod yn dilyn
ymwahaniad Gorllewin Morgannwg ·
Mae'r
gwasanaeth wedi'i leoli yng Nghanolfan Dinesig Abertawe ond mae cangen yng
Nghastell-nedd ·
Mae cyd-bwyllgor
archifau sy'n ymgynghorol ac mae'r ffocws ar y gwasanaeth ei hun sy'n fuddiol
iawn ·
Mae'r
gwasanaeth yn rhan o Wasanaethau Diwylliannol y cyngor ·
Cwrdd
â gweithwyr Castell-nedd Port Talbot bob chwarter ·
Mae'r
perthynas rhwng Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn gweithio'n dda iawn ·
Y
gwasanaethau cyfreithiol sy'n rheoli'r cofnodion ·
Mae
gan Lywodraeth Cymru ofynion mewn perthynas â safonau achrediad ar gyfer
archifau ·
Mae'r
archifau'n cynnal cofnodion Llys yr Ynadon ar ran Llywodraeth Ganolog ·
Cofnodion
sefydliadau ac unigolion yw archifau - gallant fod yn bwysig o ran
gweinyddiaeth neu ddiwylliant ·
Gwasanaeth
hybrid yw'r archifau sy'n cyfuno pwysigrwydd cyfreithiol a diwylliannol ·
Defnyddir
yn rheolaidd gan y cyhoedd at ddibenion anghydfodau mewn perthynas â ffiniau ·
Cofnodion
o ffeithiau yw'r archifau, sy'n ddefnyddiol iawn mewn byd lle mae canfyddiadau
o realiti'n gwrthdaro ·
Mae
hanner cofnodion yr archifau wedi'u rhoi ·
Mae
gwerth 2.5 filltir o silffoedd ar lawr isaf y Ganolfan Ddinesig ·
Mae
rhai eitemau o werth ac mae un casgliad sydd wedi'i gydnabod gan UNESCO ·
Mae
95% yn llawn ond nid yw mewn sefyllfa i dderbyn casgliad mawr ·
Mae
perthynas gwaith ymarferol ar waith â'r brifysgol ·
Nid
oes modd digido'r cofnodion a chael gwared ar y dogfennau gwreiddiol - maent yn
rhan o dreftadaeth pobl ·
Yr
awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y casgliad ar ran y gymdeithas gyfan ·
Mae'r
amgylchedd storio'n hanfodol - mae'n rhaid i'r tymheredd a'r lleithder gael eu
rheoli, gan ddiogelu yn erbyn llifogydd a thân. Mae pob un o'r rhain yn
beryglon mawr ·
Mae
gan y brifysgol yr un gofynion storio a safonau â ni ·
Dyma
bymthegfed archif pwysicaf y DU - ar draws y DU mae'r ffigurau presenoldeb yn
lleihau ac felly rydym wedi cynnal ein safle yn y DU am fod ein un ni hefyd
wedi lleihau ar yr un raddfa. ·
Mae
pobl yn cael mynediad at wasanaethau ar-lein am fod yr wybodaeth sydd ar gael
ar-lein yn cynyddu ·
Mae'r
gwasanaeth yn canolbwyntio ar gwsmeriaid ac mae'r ymatebion yn rhai o
fodlonrwydd uchel ·
Mae'r
tîm hefyd yn cynnal sesiynau allgymorth mewn ysgolion, yn cynnig gwybodaeth ar
gyfer cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau arbennig ac arddangosfeydd symudol ·
Mae'r
rhain yn hynod lwyddiannus ac ysbrydoledig ·
Mae'r
tîm hefyd yn cyhoeddi cyhoeddiadau, y mae'r un diweddaraf yn canolbwyntio ar ail-adeiladu
Abertawe'n dilyn y rhyfel ·
Wedi
anfon data at CIPFA ond nid yw'r cyngor bellach yn aelod o CIPFA oherwydd
cyfyngiadau cyllideb ·
Os
yw'n derbyn eitemau bach yn unig, dim ond 5 mlynedd o le sydd ar ôl yn llawr
isaf y Ganolfan Ddinesig ·
Mae'r
Ganolfan Ddinesig yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae'r Gwasanaethau Eiddo
Corfforaethol yn ogystal â'r Gwasanaethau Diwylliannol yn edrych ar opsiynau'r
archifau ar gyfer y dyfodol ·
Maent
yn ystyried adleoli er mwyn creu gwasanaeth mwy cynaliadwy ond mae'n rhaid cael
storfa go iawn - mae hyn yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn unol
â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ·
Mae
angen cael amserlen go iawn a chynllunio er mwyn creu gwasanaeth archifau mwy
cynaliadwy a chyhoeddus ·
Nid
oes angen i'r gwasanaeth fod yng nghanol y ddinas o reidrwydd - ond mae'n rhaid
iddo gael yr amodau storio cywir ·
Mae'n bosib mai adeilad wedi'i adeiladu'n bwrpasol yw'r
unig opsiwn oherwydd y fanyleb adeiladu y mae ei hangen ·
Ar hyn o bryd nid oes prosiect penodol neu amserlen
ddynodedig er mwyn mynd i'r afael â'r broblem archifo - oherwydd cyfyngiadau
cyllideb ·
Mae
angen cael cynllun go iawn os bydd y cyngor yn symud o'r Ganolfan Ddinesig ·
Mae
awgrymiadau o ran rhoi prosiect ar waith er mwyn dechrau archwilio a gwneud cais
am gyllideb allanol nawr ·
Mae
angen i'r gwasanaeth archif a chefnogi fod yn yr un adeilad â'r dogfennau eu
hunain ·
Dim
cwmpas i reoli'r adnodd hanes teulu ar-lein yn llwyr oherwydd y gost a'r
seilwaith sydd eu hangen i lwytho'r holl wybodaeth ar-lein i ddechrau |
|
Diweddariad ar ffioedd y cyngor
· Y Cyng. Clive Lloyd – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
|
Ffïoedd Diweddariad ar ffioedd y cyngor
· Y Cyng. Clive Lloyd – Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad Cofnodion: · Trafodwyd yr eitemau eithriedig |
|
Cynllun Gwaith 2019/20 PDF 273 KB Cofnodion: · Adroddiadau cwmpasu'r Adolygiad Comisiynu
Posib i'w cyflwyno i'r panel ·
Mae'n
bosib y bydd diweddariad arall ar gyfer Adolygiad Comisiynu wedi'i gwblhau mewn
cyfarfod yn y dyfodol |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad PDF 332 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Trawsnewid Busnes a Pherfformiad PDF 480 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth PDF 312 KB |